Ystyried adroddiad Uwch Reolwr Economi a Chymuned
Cofnod:
Cyflwynwyd
adroddiad cychwynnol gan yr Aelod Cabinet, yn amlinellu effaith y toriadau a
gymeradwywyd gan y Cyngor Llawn (Mawrth 2016) ar gyllidebau rheoli traethau
Baner Las a Baner Werdd. Amlygwyd yr oblygiadau a ragwelwyd ond, gan nad oedd y
toriadau wedi eu gweithredu yn llawn, roedd yn anodd rhoi adroddiad manwl ar yr
effaith hyd yma. Er efallai yn gynamserol i drafod yr effaith yn y cyfnod
trosiannol, derbyniwyd bod angen cynnal y drafodaeth a chadw llygad ar yr
effaith bosib.
Mewn ymateb i’r
adroddiad, gwnaed cais i ystyried sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn gan nad ydynt
bellach yn cael gwarchodaeth. Nododd y Cynghorydd Lleol nad yw’r arbenigedd gan
y Cyngor Cymuned i dderbyn y cyfrifoldeb ac amlygwyd bod y Cyngor Cymuned yn
ystyried rhoi'r brydles yn ôl i’r Goron.
Yn ystod y
drafodaeth ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol ynglŷn â thraethau Morfa
Nefyn a Nefyn:
·
Os na fydd y Cyngor Cymuned a Chyngor Gwynedd yn
mynd i warchod y traethau yma, pwy fydd yn cymryd y cyfrifoldeb?
·
Rhaid dwyn perswâd ar Ystâd y Goron i dderbyn
cyfrifoldeb
·
Pa drefniadau sydd mewn lle cyn gollwng
cyfrifoldeb?
·
A oes modd cyflwyno cynlluniau amgen?
Mewn ymateb i’r
sylwadau, derbyniwyd bod sefyllfa Morfa Nefyn a Nefyn yn anodd a bod angen
cynnal trafodaethau gyda’r perchnogion tir i sicrhau rheolaeth mynediad i’r
traeth. Nodwyd bod y Cyngor efallai wedi bod yn rhy awyddus yn y gorffennol i
dderbyn cyfrifoldeb dros reolaeth y traethau, ond bellach yng nghyd-destun
toriadau, amserol fyddai cynnal
trafodaethau gyda’r perchnogion tir ac amlygu iddynt y cyfrifoldeb a’r statws
cyfreithiol sydd arnynt.
Petai Cyngor Tref
Nefyn yn ildio eu prydles byddai eu cyfrifoldeb fel endid yn lleihau, a’r
cyfrifoldeb yn disgyn ar Stad y Goron.
Amlygodd yr Uwch
Reolwr y byddai yn cyfleu pryderon y Pwyllgor Craffu i Stad y Goron mewn
cyfarfod ym mis Chwefror.
Amlygwyd y
sylwadau canlynol am gynnwys yr adroddiad yn gyffredinol:
·
Pryder am ddiogelwch y cyhoedd
·
Angen rheolaeth dros fynediad peiriannau / cychod
i’r traethau
·
Y traethau yn un o brif asedau'r Sir ac felly rhaid
eu gwarchod
·
Baich y cyfrifoldeb ar y Cynghorau Cymuned
·
Cyfrifoldeb moesol er nad yw yn statudol
·
Beth yw cyfrifoldebau'r wardeniaid traeth
·
A oes achubwyr bywyd yn cael eu cyflogi?
·
Pwysig cynnwys gwirfoddolwyr mewn trefniadau
gwarchod traethau
·
Angen caniatáu i bobl leol gymryd rhan
·
Beth yw dyfodol y Faner Las?
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod pwysleisiodd yr Uwch Reolwr nad oedd y cynigion yn rai yr oedd
yr Adran wedi dymuno eu gweithredu, ond
eu bod yn rhan o drefniadau Her Gwynedd. Eglurodd bod y sefyllfa yn un cymhleth
iawn a bod y toriadau wedi eu gweithredu
o fewn amserlen dynn iawn a bod y ffactorau yn wahanol iawn i bob ardal. Mewn
sefyllfaoedd lle nad oedd y trefniadau wedi eu cadarnhau, nodwyd bod rhai
sefydliadau lleol yn dangos diddordeb ac felly posib ystyried modelau addas.
Mewn ymateb i sylw
am ddyfodol y Faner Las, amlygwyd bod nifer o ffactorau allanol yn dylanwadu ar
hyn megis ansawdd y dŵr sydd tu hwnt i reolaeth y Cyngor. Nodwyd bod
gofynion cynyddol ar wneud cais ac nad oedd gwarant na sicrwydd o lwyddiant y
ceisiadau o flwyddyn i flwyddyn. Amlygwyd bod ceisiadau yn cael eu cyflwyno yn
y drefn arferol gyda’r gofynion cynyddol yn gwneud y sefyllfa yn anodd.
Cynigiwyd ac
eiliwyd i dderbyn yr adroddiad fel adroddiad cychwynnol ac ail ymweld â’r
sefyllfa wedi i’r toriadau eu gweithredu yn llawn
Cynigiwyd
gwelliant i’r cynnig o dderbyn yr adroddiad cychwynnol, ond bod angen rhoi
ystyriaeth bellach i draeth Morfa Nefyn a Nefyn
Cynigiwyd
gwelliant pellach i’r cynnig o dderbyn yr adroddiad cychwynnol, ond bod pryder
am draethau Morfa Nefyn a Nefyn. Gwnaed cais i’r Adran drafod ar fyrder gyda’r Aelod Cabinet y ffordd ymlaen cyn y tymor gwyliau a chynnal adolygiad o’r
traethau hyn.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad cychwynnol a
cynigiwyd y sylwadau isod:
-
Bod pryder am
draethau Morfa Nefyn a Nefyn
-
Cais i’r Aelod Cabinet drafod ar fyrder gyda’r
Adran Economi, y sefyllfa unigryw yma cyn y tymor gwyliau
-
Derbyn adroddiad
ar ddiwedd y tymor gwyliau o’r effeithiau yn llawn.
Dogfennau ategol: