Cyflwyno adroddiad y Dirprwy Arweinydd a Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol.
Cofnod:
Cyflwynodd y Dirprwy Arweinydd yr adroddiad a
oedd yn manylu
ar ddau fodel
posib yn deillio o waith Is-Grŵp, a sefydlwyd gan y Pwyllgor, i edrych ar
drefniadau craffu’r Cyngor yn dilyn
beirniadaeth gan Swyddfa Archwilio Cymru. Nodwyd bod Model A yn addasiad
o’r trefniadau presennol gyda thri phwyllgor craffu (Addysg ac Economi, Gofal, Cymunedau) a’r materion corfforaethol yn cael eu
craffu gan y Pwyllgor Archwilio a Model B, un Prif Bwyllgor Craffu
ond mwy o ymchwiliadau (hyd at 8 ohonynt ar unrhyw
adeg o’i gymharu â thri o dan Model A).
Tynnwyd sylw at yr atodiadau a
oedd yn cynnwys
disgrifiad llawn o’r modelau, asesiad
o’u manteision ac anfanteision a’u gallu i gyfarch
y gwendidau a adnabuwyd.
Amlygodd yr Uwch Reolwr Cefnogaeth
Gorfforaethol gwahaniaeth
barn aelodau’r Is-Grŵp
o ran y model a ffafrir. Pwysleisiwyd yr
angen i bwyso
a mesur y risgiau ynghlwm â’r ddau
fodel.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor, fel
y rhai oedd yn gyfrifol am lywodraethu, argymell un o’r modelau craffu
i’r Cyngor Llawn, argymell awgrymiadau (a) i (f) ym mharagraffau 9.1 i 9.5 yn yr
adroddiad (pa fodel ffurfiol bynnag a ddewisir) a gofyn i’r Swyddog Monitro,
mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad ar gyfer gweithredu’r drefn a argymhellir a’u hargymell i’r
Cyngor llawn.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chynnig sylwadau. Yn ystod
y drafodaeth, amlygwyd y prif bwyntiau a ganlyn:-
·
Ffafrio
Model B gan y byddai un pwyllgor yn rhoi cyfle i fwy o drosolwg.
·
Bod elfen o ddatgysylltiad
rhwng Y Cabinet a Chraffu gyda rhai materion nad oedd gan y Cyngor ddylanwad
arnynt yn cael eu craffu, angen i fod yn fwy penodol yn y dyfodol.
·
Anghysondeb o ran llwyth
gwaith y Pwyllgorau Craffu ar hyn o bryd, ac weithiau nid oedd dilyniant o ran
eitemau.
·
Bod
adnabod meysydd diddordeb a sgiliau aelodau unigol yn hynod bwysig. Roedd
trefniadau o ran dyrannu seddi ar y pwyllgorau craffu yn unol â’r cydbwysedd gwleidyddol yn arwain at lenwi seddi
gweigion yn unig.
·
Bod
yr ymchwiliadau yn fwy effeithiol.
·
Yn aelod o’r Is-Grŵp ac
o’r farn bod angen newid a byddai Model B gydag un
Pwyllgor yn welliant gan gadw trefn o’r rhaglen craffu a chadw’r Cabinet i
gyfrif. Bod rhaid bod yn ofalus nad oedd yr un rhai (aelodau) yn rhan o’r ymchwiliadau.
·
Yr angen i aelodau fanteisio
ar yr hyfforddiant sydd ar gael.
·
Yn aelod o’r Is-Grŵp ac
yn ffafrio Model A o ystyried bod rhan fwyaf o wariant y Cyngor yn y meysydd
Addysg a Gofal. Teimlo y gallai pwyllgorau penodol ynghlwm â’r
meysydd gwaith yma edrych yn fwy dwfn ar faterion. A ellir cael hyn efo un
pwyllgor?
Mewn ymateb i gwestiwn gan
aelod, nododd yr Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol
bod cyfyngiadau mewn pwyllgor tra bod ymchwiliadau craffu yn gyfarfodydd anffurfiol lle gellir trafod materion
na ellir
yn gyhoeddus.
Nododd y Prif Weithredwr bod dau fater y dylid ystyried:
1. Safbwynt y Penaethiaid Adran - tra ‘roedd y Penaethiaid
yn derbyn yr angen am graffu
a’r ffaith fod modd iddo
wneud gwahaniaeth fel rhan o ddemocratiaeth
byw, ‘roedd yna ormod o achosion
lle ‘roedd yn anodd gweld
y gwerth a gafwyd, gyda staff yn cael
eu tynnu o gyflawni gwasanaeth i bobl Gwynedd er mwyn ysgrifennu
adroddiadau a pharatoi ar gyfer craffu.
2. Model A – y perygl y byddai
llwyth gwaith craffu yn disgyn
ar Addysg ac Oedolion gan dynnu
mwy o adnoddau o’r meysydd hynny
i fwydo “craffu” yn hytrach
na chyflwyno
gwasanaethau i drigolion.
PENDERFYNWYD:
(i)
argymell Model B i’r Cyngor Llawn;
(ii)
argymell awgrymiadau (a) i (f) ym mharagraffau
9.1 i 9.5 yn yr adroddiad, pa fodel ffurfiol bynnag a ddewisir;
(iii)
gofyn i’r Swyddog Monitro,
mewn ymgynghoriad â’r Uwch Reolwr
Cefnogaeth Gorfforaethol ddrafftio’r newidiadau angenrheidiol i’r Cyfansoddiad ar gyfer gweithredu’r drefn a argymhellir a’u hargymell i’r
Cyngor llawn.
Dogfennau ategol: