Cyflwyno adroddiad yr Aelod
Cabinet Adnoddau
(ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Adnoddau:-
·
Adroddiad yn argymell cyllideb i’r Cyngor ei
chymeradwyo ar gyfer 2017/18.
·
Atodiad yn manylu ar faterion i’w hystyried wrth
sefydlu’r gyllideb, ynghyd â’r strategaeth
tymor-canol.
·
Penderfyniad drafft y Dreth Cyngor yn seiliedig ar
argymhelliad y Cabinet i’r Cyngor (ar sail cynnydd o 2.8%) ynghyd â thablau yn
dangos lefel y Dreth Cyngor a’r cynnydd fesul cymuned.
Nododd yr Aelod
Cabinet fod y drefn o sefydlu Strategaeth Ariannol y Cyngor wedi bod yn drefn gynhwysol
o gydweithio a diolchodd i’r Prif Weithredwr, yr Uned Ymchwil, y Pennaeth
Cyllid a staff yr Adran Gyllid am eu cydweithrediad dros y 5 mlynedd ddiwethaf.
Yn ystod y
drafodaeth, nodwyd:-
·
Bod y Cyngor wedi cymeradwyo gwario arian dan
eitemau 6 a 7 uchod, ond yn penderfynu codi arian yma. Atebodd y Pennaeth Cyllid fod y
penderfyniadau hynny yn golygu symud ymlaen â materion oedd eisoes yn y
gyllideb.
·
Bod arbedion effeithlonrwydd yn golygu lleihad yn
nifer y staff sy’n golygu na all cynghorwyr gael gafael ar neb i basio cwynion
ymlaen. Mewn ymateb, nododd yr Aelod
Cabinet nad oedd arbedion effeithlonrwydd yn doriadau a bod modd cynnal
gwasanaeth yn fwy effeithiol heb dorri staff.
Ychwanegodd y Pennaeth Cyllid, yn sgil yr arbedion effeithlonrwydd a’r
toriadau a gymeradwywyd eisoes, ei bod yn rhesymol cynhyrchu tua £1m o arbedion
effeithlonrwydd pellach er mwyn cadw’r dreth ar y lefel sy’n cael ei argymell
ac na fyddai’r arbedion effeithlonrwydd hyn yn cael effaith ar y trethdalwyr.
·
Bod y penderfyniad i wneud i ffwrdd â’r swyddog anabledd wedi cael effaith.
·
Bod trethdalwyr Môn a Cheredigion
yn talu llai na threthdalwyr Gwynedd, ac er y croesawid y ffaith bod Gwynedd
wedi derbyn y setliad gorau yng Nghymru eleni, ‘roedd hon yn sir dlawd iawn a
byddai’r codiad yn anodd iawn i bobl sydd eisoes yn cael anhawster cael deupen
llinyn ynghyd.
·
Y byddai cyfyngu’r cynnydd yn y dreth i 1.5% yn dod
â Gwynedd yn agosach at Fôn a chymdogion eraill. Nodwyd hefyd bod lefel chwyddiant yn is na 2%
erbyn hyn.
·
Bod pwysau hefyd ar gynghorau cymuned a thref a’r
Awdurdod Heddlu i godi eu trethi a bod cynnydd o 2.8% yn rhesymol iawn.
·
Bod y toriadau o £4.3m yn y maes addysg yn taro’r
sector cynradd sy’n golygu bod plant yn symud i fyny i’r uwchradd heb gyrraedd
y safon ddisgwyliedig a bod hynny, yn ei dro, yn golygu mwy o waith gyda llai o
adnoddau.
·
Bod pobl yn gweld eu hunain yn talu mwy am lai o
wasanaethau.
·
Bod y dreth ar dŷ Band D yng Ngwynedd yn ddrutach na thŷ Band D yng Nghaerdydd a Gwynedd oedd y 6ed uchaf yn 2016.
·
Y byddai 2% yn unig o godiad yn y dreth yn golygu
lleihad o £13 y flwyddyn i drigolion Band D ac £1.47m o incwm yn lle
£2.06m. Byddai gan y Cyngor £5m o falansau ar ddiwedd Mawrth a gellid defnyddio £0.5m o’r balansau hynny i falansio’r
gyllideb. Mewn ymateb, eglurodd y Prif
Weithredwr fod angen cynnydd o 2.8% i gyfarch y bwlch ac y byddai ariannu o falansau am eleni yn golygu y byddai’n rhaid dod o hyd i
£0.5m o arbedion ychwanegol y flwyddyn nesaf ar ben y £1m sydd eisoes wedi’i
ddarganfod.
Cynigiwyd ac eiliwyd gwelliant i gynyddu’r dreth cyngor 2% gan ddefnyddio
£0.5m o falansau i bontio’r bwlch a bod yr arbedion
ychwanegol angenrheidiol yn cael eu darganfod y flwyddyn nesaf.
Nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r gwelliant yn golygu ariannu bwlch
parhaol allan o falansau un-tro, ac felly’n groes i egwyddorion cynllunio ariannol cryf, a barn Swyddfa Archwilio Cymru ar hynny, fel y’i
cyflwynwyd yn rhan 8.6 o’r adroddiad.
Yn ystod y drafodaeth ar y gwelliant, nodwyd:-
·
Bod cynghorau cymuned yn codi trethi ychwanegol er
mwyn gwneud iawn am fethiant y Cyngor hwn i ddarparu’r gwasanaethau maent eu
hangen a bod cynnydd o 2.8% yn dyblu’r gosb ar ein cymunedau.
·
Y byddai’n well cadw at gynnydd o 2% yn unig nes y bydd
yn hysbys faint o doriadau mae’r cymunedau yn mynd i’w hwynebu a faint o dreth
y bydd yn rhaid i gynghorau cymuned ei godi i wneud iawn am y toriadau hynny.
·
Y croesawyd penderfyniad y Cabinet i gymeradwyo
£275,000 tuag at adfer y swyddfeydd addysg yn yr ardaloedd, ond siom oedd deall
bod disgwyl i’r Adran Addysg ganfod arbedion erbyn 2020 i wneud iawn am hynny.
·
Bod y penderfyniad i rewi unrhyw doriad ar ysgolion
uwchradd i’w groesawu, ond dylid sicrhau bod yr ysgolion yn cael ad-daliad o’r
cyfraniad o £1,000 a wnaed gan bob un ohonynt o’u cyllidebau tua 8-9 mlynedd yn
ôl i gadw Ysgol Syr Hugh Owen, Caernarfon â’i phen
uwchben y dŵr.
·
Y
pryderid am y bobl hynny sydd ar gyflogau isel, ond yn anghymwys am fudd-dal, a
holwyd a fyddai methiant pobl o’r fath i dalu’r dreth gyngor yn fwy costus i’r
Cyngor yn y pen draw.
·
Nad ar lawr y Cyngor oedd y lle i gyflwyno cyllideb
wahanol a bod peryg’ meddwl bod rhaid cynnig llai o gynnydd na’r hyn sy’n cael
ei argymell.
·
O gymeradwyo’r argymhelliad, gellid dweud wrth bobl
na fydd rhagor o doriadau ac y bydd yna chwystrelliad
o arian i gynorthwyo ysgolion uwchradd.
Byddai’r cynnydd o 2.8% hefyd yn rhoi’r Cyngor mewn sefyllfa i warchod
gwasanaethau a sicrhau buddsoddiad i’r gwasanaethau yn ogystal.
·
Y dylid cadw at y strategaeth a pheidio rhoi
penderfyniad anodd i rywun arall y flwyddyn nesaf.
·
Bod cynnig tynnu allan o falansau
yn dôn gron bob blwyddyn ac na ellid parhau i dynnu £0.5m bob blwyddyn o falansau.
·
Nad oedd yn deg cymharu sefyllfa Gwynedd gyda Môn a Chaerdydd gan fod angen mwy o bobl i wneud yr un gwaith yng
Ngwynedd oherwydd y demograffi.
·
Bod defnyddio balansau i
ariannu cyllideb refeniw yn creu problem ar gyfer y dyfodol.
·
Bod lleihau’r cynyddu’r yn y dreth yn golygu
toriadau mewn meysydd fel addysg a gwasanaethau cymdeithasol, sy’n cael
ardrawiad ar yr hen a’r ifanc.
·
Nad yw cynyddu’r dreth yn effeithio ar y tlotaf o
fewn cymdeithas gan nad ydynt yn talu’r dreth beth bynnag, ond mae torri’r
gwasanaethau yn cael effaith sylweddol ar y bobl hynny.
·
Nad oedd pob cyngor cymuned yn cynyddu lefel y
dreth.
·
Y byddai’n well codi’r dreth 2.8% yn awr na gorfod
gwneud cynnydd llawer uwch ymhellach ymlaen.
·
Bod y bwlch rhwng y tlawd a’r cyfoethog yn cynyddu
ac nad oedd y dreth treth cyngor yn helpu.
·
Bod y gwelliant yn galluogi i’r Cyngor edrych ar y
sefyllfa gyda llygaid newydd y flwyddyn nesaf.
·
Bod angen gweithio’n galed i gadw’r dreth i lawr.
Cyn pleidleisio ar y gwelliant, esboniodd y Prif Weithredwr beth oedd
goblygiadau’r hynny, gan nodi:-
·
Bod arbedion effeithlonrwydd ychwanegol o £2.96m ar
drac i’w cyflawni yn 2018/19, yn unol â gofynion y strategaeth tymor canolig,
ond bod dal angen darganfod £3.7m arall ar gyfer 2018/19.
·
Petai angen i’r Cyngor newydd ddarganfod yr arian
hynny, byddai’n rhaid iddynt fynd yn ôl at y rhestr toriadau, ac fel esiampl
o’r pris o beidio cynyddu’r dreth gyngor yn ddigonol eleni, cyfeiriodd at y 4
eitem nesaf ar y rhestr fyddai’n creu £0.5m o doriadau, sef cau Neuadd Dwyfor,
lleihau 10% ar y gyllideb cludiant cyhoeddus, cau 8 canolfan ailgylchu a chau 2
ganolfan hamdden (neu gellid dewis 4 eitem is ar y rhestr, ond gwaeth ym marn
pobl Gwynedd).
·
Petai’r llywodraeth yn torri grant y Cyngor yn fwy
na’r disgwyl erbyn 2018/19, yn ôl y rhagolwg gwaethaf, byddai angen darganfod
£7.3m o arbedion, sef £3.6m yn fwy o arbedion y flwyddyn nesaf. Byddai tynnu £0.5m pellach allan o’r lefel balansau a adroddir yn yr adroddiad yn ei gwneud yn anodd
prynu amser i gwrdd â’r sefyllfa waethaf wrth osod
cyllideb 2018/19, gan greu risg sylweddol uwch y flwyddyn nesaf.
Pleidleisiwyd ar y gwelliant i gynyddu’r dreth gyngor 2% ac fe
ddisgynnodd.
Pleidleisiwyd ar y cynnig gwreiddiol i gynyddu’r dreth gyngor 2.8% ac fe
gariodd.
PENDERFYNWYD
1.
Sefydlu cyllideb o
£231,299,720 ar gyfer 2017/18, i’w ariannu drwy Grant Llywodraeth o
£168,963,540 a £62,336,180 o incwm o’r Dreth Cyngor gyda chynnydd o 2.8%.
2.
Sefydlu rhaglen
gyfalaf o £12.015m yn 2017/18 a £6.410m yn 2018/19 i’w ariannu o’r ffynonellau
a nodir yng nghymal 9.3 o’r adroddiad.
3. Nodi
fod yr Aelod Cabinet dros Adnoddau, drwy daflen benderfyniad dyddiedig 22
Tachwedd 2016, wedi cymeradwyo cyfrifiad y symiau a ganlyn ar gyfer y flwyddyn
2017/18 yn unol â’r rheoliadau a luniwyd dan Adran 33
(5) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1992 (“Y Ddeddf”):-
(a) 50,232.22 yw’r swm a gyfrifwyd fel Sylfaen
drethiannol Gwynedd yn unol â’r Rheoliadau Awdurdodau
Lleol (Cyfrifo Sylfaen y Dreth Cyngor) (Cymru) 1995 fel y’i diwygiwyd fel ei
sylfaen Dreth Cyngor am y flwyddyn.
(b) Rhan o ardal y Cyngor – Sylfaen drethiannol Cymuned
–
Aberdaron |
521.73 |
|
Llanddeiniolen |
1,797.37 |
Aberdyfi |
915.28 |
Llandderfel |
484.05 |
|
Abergwyngregyn |
116.25 |
Llanegryn |
155.92 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,089.22 |
Llanelltyd |
277.33 |
|
Arthog |
603.52 |
Llanengan |
1,955.12 |
|
Y Bala |
759.58 |
Llanfair |
306.45 |
|
Bangor |
3,752.56 |
Llanfihangel y Pennant |
207.70 |
|
Beddgelert |
314.22 |
Llanfrothen |
215.74 |
|
Betws Garmon |
132.87 |
Llangelynnin |
392.62 |
|
Bethesda |
1,656.05 |
Llangywer |
135.09 |
|
Bontnewydd |
433.54 |
Llanllechid |
334.49 |
|
Botwnnog |
430.29 |
Llanllyfni |
1,385.04 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
403.86 |
Llannor |
897.86 |
|
Bryncrug |
333.65 |
Llanrug |
1,128.07 |
|
Buan |
221.19 |
Llanuwchllyn |
306.73 |
|
Caernarfon |
3,467.91 |
Llanwnda |
766.22 |
|
Clynnog Fawr |
440.58 |
Llanycil |
195.26 |
|
Corris |
291.48 |
Llanystumdwy |
856.31 |
|
Cricieth |
916.60 |
Maentwrog |
272.30 |
|
Dolbenmaen |
585.70 |
Mawddwy |
333.19 |
|
Dolgellau |
1,190.95 |
Nefyn |
1,380.07 |
|
Dyffryn Ardudwy |
773.53 |
Pennal |
216.03 |
|
Y Felinheli |
1,122.95 |
Penrhyndeudraeth |
760.14 |
|
Ffestiniog |
1,687.96 |
Pentir |
1,067.54 |
|
Y Ganllwyd |
78.91 |
Pistyll |
243.50 |
|
Harlech |
747.37 |
Porthmadog |
1,947.97 |
|
Llanaelhaearn |
429.82 |
Pwllheli |
1,713.23 |
|
Llanbedr |
313.90 |
Talsarnau |
306.91 |
|
Llanbedrog |
677.91 |
Trawsfynydd |
499.78 |
|
Llanberis |
769.47 |
Tudweiliog |
444.98 |
|
Llandwrog |
996.86 |
Tywyn |
1,552.99 |
|
Llandygai |
964.62 |
|
Waunfawr |
555.89 |
sef
y symiau a gyfrifwyd fel symiau Sylfaen y Dreth Gyngor ar gyfer y flwyddyn ar
gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu
fwy’n berthnasol.
4. Bod
y symiau a ganlyn yn cael eu pennu yn awr gan y Cyngor ar gyfer y flwyddyn 2017/18
yn unol ag Adrannau 32 i 36 o’r Ddeddf:-
(a) £347,986,230 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif
ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(2)(a) i (e) o’r Ddeddf
(gwariant gros). |
(b) £114,986,280 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn eu hamcangyfrif
ar gyfer yr eitemau a nodwyd yn Adran
32(3)(a) i (c) o’r Ddeddf
(incwm). |
(c) £232,999,950 |
Sef y swm sy’n cyfateb
i’r gwahaniaeth rhwng cyfanswm 3(a) uchod a chyfanswm 3(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran
32(4) o’r Ddeddf, fel ei ofynion
cyllideb ar gyfer y flwyddyn (cyllideb net). |
(ch) £168,668,537 |
Sef cyfanswm y symiau y mae’r Cyngor yn amcangyfrif y byddant yn daladwy
yn ystod y flwyddyn i’w gronfa ar gyfer
cyfan o’r Dreth Annomestig Genedlaethol a Grant Cynnal Refeniw, llai amcangyfrif o’r gost i’r Cyngor
o ryddhad dewisol o’r dreth annomestig
a ganiateir. |
(d) £1,280.68 |
Sef y swm yn 3(c) uchod
llai’r swm yn 3(ch) uchod,
y cyfan wedi ei rannu gan
y swm a nodir yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol
ag Adran 33(1) o’r Ddeddf, sef swm
sylfaenol ei Dreth Cyngor am y flwyddyn (treth Cyngor Gwynedd a threth cyfartalog cynghorau cymuned). |
(dd) £1,995,230 |
Sef cyfanswm yr holl
eitemau arbennig y cyfeirir atynt yn Adran 34(1) o’r Ddeddf (praeseptau’r
cynghorau cymuned). |
(e) £1,240.96 |
Sef y swm yn 3(d) uchod
llai’r canlyniad a geir wrth rannu’r
swm yn 3(dd) uchod â’r
swm yn 2(a) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor, yn unol ag Adran
34(2) fel swm sylfaenol ei Dreth Cyngor
am y flwyddyn ar gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal
lle nad oes unrhyw eitem
arbennig yn berthnasol (Band D ar gyfer treth Cyngor
Gwynedd yn unig). |
(f) Ar
gyfer rhannau o ardal y Cyngor –
Aberdaron |
1,265.88 |
|
Llanddeiniolen |
1,252.09 |
Aberdyfi |
1,275.39 |
Llandderfel |
1,263.68 |
|
Abergwyngregyn |
1,262.47 |
Llanegryn |
1,273.03 |
|
Abermaw (Barmouth) |
1,288.70 |
Llanelltyd |
1,268.00 |
|
Arthog |
1,256.29 |
Llanengan |
1,266.53 |
|
Y Bala |
1,269.92 |
Llanfair |
1,270.33 |
|
Bangor |
1,336.01 |
Llanfihangel y Pennant |
1,292.74 |
|
Beddgelert |
1,268.65 |
Llanfrothen |
1,267.84 |
|
Betws Garmon |
1,260.53 |
Llangelynnin |
1,260.83 |
|
Bethesda |
1,276.28 |
Llangywer |
1,270.57 |
|
Bontnewydd |
1,276.71 |
Llanllechid |
1,263.38 |
|
Botwnnog |
1,252.58 |
Llanllyfni |
1,270.10 |
|
Brithdir a Llanfachreth |
1,255.82 |
Llannor |
1,257.84 |
|
Bryncrug |
1,276.93 |
Llanrug |
1,268.44 |
|
Buan |
1,257.91 |
Llanuwchllyn |
1,273.56 |
|
Caernarfon |
1,298.20 |
Llanwnda |
1,271.24 |
|
Clynnog Fawr |
1,268.20 |
Llanycil |
1,261.45 |
|
Corris |
1,265.91 |
Llanystumdwy |
1,258.48 |
|
Cricieth |
1,278.05 |
Maentwrog |
1,262.75 |
|
Dolbenmaen |
1,258.03 |
Mawddwy |
1,264.97 |
|
Dolgellau |
1,286.30 |
Nefyn |
1,284.86 |
|
Dyffryn Ardudwy |
1,279.41 |
Pennal |
1,268.73 |
|
Y Felinheli |
1,272.13 |
Penrhyndeudraeth |
1,285.69 |
|
Ffestiniog |
1,329.82 |
Pentir |
1,282.18 |
|
Y Ganllwyd |
1,275.18 |
Pistyll |
1,275.87 |
|
Harlech |
1,265.71 |
Porthmadog |
1,269.53 |
|
Llanaelhaearn |
1,299.12 |
Pwllheli |
1,282.99 |
|
Llanbedr |
1,286.18 |
Talsarnau |
1,289.83 |
|
Llanbedrog |
1,266.04 |
Trawsfynydd |
1,272.97 |
|
Llanberis |
1,266.95 |
Tudweiliog |
1,254.44 |
|
Llandwrog |
1,282.09 |
Tywyn |
1,296.34 |
|
Llandygai |
1,262.32 |
|
Waunfawr |
1,262.55
|
sef y symiau a geir trwy ychwanegu symiau’r
eitem neu eitemau arbennig sy’n berthnasol i dai annedd yn y rhannau hynny o
ardal y Cyngor y cyfeiriwyd atynt uchod, at y swm a geir yn 3(e) uchod wedi’u rhannu
ym mhob achos gan y swm yn 2(b) uchod, a gyfrifwyd gan y Cyngor yn unol ag
Adran 34(3) o’r Ddeddf, fel symiau sylfaenol ei Dreth Gyngor am y flwyddyn ar
gyfer tai annedd yn y rhannau hynny o’i ardal lle bo un eitem arbennig neu
fwy’n berthnasol.
(ff) Ar gyfer rhannau o ardal y Cyngor, y ffigyrau a
nodir yn Atodiad 1, sef y symiau a geir trwy luosi’r symiau yn 3(f) uchod â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau a nodir yn Adran 5 (1) o’r
Ddeddf, yn berthnasol i dai annedd a restrir mewn band prisio arbennig wedi’i
rannu â’r rhif sydd yn ôl y cyfrannau hynny’n berthnasol i dai a restrir ym mand prisio D, a
gyfrifir gan y Cyngor, yn unol ag Adran 36(1) o’r Ddeddf, yn symiau sydd i’w
hystyried ar gyfer y flwyddyn ar gyfer y categorïau o dai annedd a restrir yn y
gwahanol fandiau prisio.
5. Nodi
ar gyfer y flwyddyn 2017/18 fod Comisiynydd Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru
wedi nodi’r symiau a ganlyn mewn praesept a roddwyd
i’r Cyngor, yn unol ag Adran 40 o’r Ddeddf ar gyfer pob un o’r categorïau o dai
annedd a ddangosir isod:
|
Band A |
Band B |
Band C |
Band D |
Band E |
Band F |
Band G |
Band H |
Band I |
|
166.14 |
193.83 |
221.52 |
249.21 |
304.59 |
359.97 |
415.35 |
498.42 |
581.49 |
6. Wedi
pennu’r cyfanswm ym mhob achos o’r symiau 3(ff) a 4
uchod, bod y Cyngor, yn unol ag Adran 30(2) o’r Ddeddf trwy hyn, yn pennu’r
symiau a nodir yn Atodiad 2 ar gyfer y Dreth Gyngor yn y flwyddyn 2017/18 ar
gyfer pob categori o dai annedd a ddangosir yn yr Atodiad.
Dogfennau ategol: