Agenda item

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan y Cyng. Ioan Thomas.

Eiliwyd gan y Cyng. Mair Rowlands.

 

PENDERFYNIAD

 

1.    Cymeradwyo Polisi’r Cyngor ar Gronfeydd fel a ganlyn –

 

1.1 Mae’r Cyngor yn dal nifer o gronfeydd fel rhan o’i strategaeth i reoli adnoddau yn ddarbodus. Defnyddir y cronfeydd yma i bwrpasau penodol er lles cymunedau Gwynedd. Mae’r defnydd o gronfeydd yn cefnogi cyflawni gwasanaethau a gwelliannau yn y sir, fel amlinellir yn y cynllun strategol corfforaethol.

 

1.2 Cedwir cronfeydd penodol (neu reserfau wedi’u clustnodi) naill ai dan rym wedi’i ddirprwyo i brif swyddogion, neu gan y Cabinet.

 

1.3 Er mwyn diffinio “cronfeydd”, rhaid nodi’r driniaeth o “darpariaethau”. Mae darpariaethau wedi’u nodi yn y cyfrifon ar gyfer setlo amcangyfrif o ymrwymiadau sy’n codi o ddigwyddiadau yn y gorffennol.

 

1.4 Mae cronfeydd yn symiau sydd wedi’u neilltuo ar gyfer pwrpasau penodol, neu yn arian wedi’i adeiladu i gwrdd ag ymrwymiadau a ragwelir.

 

1.5  Ar gyfer pob cronfa a sefydlir, bydd y pwrpas / defnydd (rheswm dros ei greu / sut gellid ei ddefnyddio) wedi’i ddiffinio, a bydd rheolaeth dros drafodion (pa brif swyddog sydd â’r grym dirprwyedig i’w wario) wedi’i adnabod.

 

1.6  Dim ond yn lleol gellid cyrraedd barn ystyrlon, a chymerir penderfyniadau gan aelodau etholedig wedi iddynt ystyried gwybodaeth a chyngor a ddarperir gan y Prif Swyddog Cyllid.

 

1.7 Defnyddir cronfeydd adrannau unigol neu gronfeydd corfforaethol er mwyn llyfnhau pwysedd dros flynyddoedd (e.e. y gronfa argyfwng tywydd garw yn y maes gwasanaeth Priffyrdd).

 

1.8 Mewn cyfnod o galedi parhaus, bydd mwy o ofyn i feysydd gwasanaeth newid ac addasu i fod yn effeithiol. Mae cynlluniau effeithiolrwydd yn cynnwys newidiadau gyda chostau un-tro, ac mae polisi cronfeydd y Cyngor yn adnabod hynny, gyda’r Adrannau yn dal cronfeydd i’w defnyddio yn unol ag egwyddorion cyffredinol wedi’u cytuno gan y Prif Swyddog Cyllid a’r Cabinet.

 

1.9 Sefydlir cronfeydd adrannol o adnoddau tanwariant o fewn blwyddyn, a bydd yr Aelod Cabinet perthnasol yn goruchwylio’r defnydd o gronfeydd ar brosiectau penodol. Lle ni ellir cwrdd â phwysau ar wasanaethau o fewn blwyddyn, yna gellid defnyddio cronfeydd adrannol er mwyn wynebu’r pwysedd net.

 

1.10 Sefydlir / defnyddir cronfeydd corfforaethol gan y Prif Swyddog Cyllid a’r Cabinet, ar sail angen a gofynion wedi’u cynllunio / rhagweld.

 

1.11 Gellid ariannu gwariant anorfod anrhagweledig / argyfwng o’r balansau cyffredinol, dim ond gyda chymeradwyaeth y Cabinet.

 

1.12 Mae gan y Prif Swyddog Cyllid gyfrifoldeb personol statudol (dan Adran 25 o Ddeddf Llywodraeth Leol 2003) i sicrhau stiwardiaeth briodol o gronfeydd, felly bydd yn cynnal adolygiad parhaus o’i digonolrwydd a’i defnydd. Bydd yr adroddiad cyllideb blynyddol i’r Cyngor yn cynnwys barn y Prif Swyddog Cyllid ar gronfeydd, yng nghyd-destun y strategaeth ariannol tymor canol. Hefyd, adroddir i’r Cabinet er cymeradwyaeth o addasiadau sylweddol i gronfeydd.

 

1.13 Bydd archwilwyr allanol yn adolygu trefniadau i sicrhau fod statws ariannol y Cyngor yn gadarn, a bydd hyn yn cynnwys adrodd ar y lefel o reserfau, yng nghyd-destun eu gwybodaeth o berfformiad ariannol yr awdurdod. Er hynny, nid cyfrifoldeb yr archwilwyr yw pennu lefel gorau neu isafswm y reserfau / balansau.

 

1.14 Mae’r Cyngor yn cymryd agwedd asesu risg tuag at gynnal lefelau digonol o falansau a reserfau er mwyn cwrdd ag anghenion gwario’r dyfodol. Wrth ystyried y gyllideb flynyddol a’r Strategaeth Ariannol tymor canol, bydd y Cyngor yn gosod allan ei fwriad ynghylch lefel y balansau cyffredinol a chronfeydd, yng nghyd-destun yr holl risgiau perthnasol, y ddarpariaeth ar gyfer chwyddiant, demograffi, ayb, yn y gyllideb.

 

2.    Oherwydd yr her ariannol sylweddol sy’n wynebu’r Cyngor yn ystod 2015/16 – 2017/18, cymeradwyo’r symiau i’w ildio o amrywiol gronfeydd yn dilyn yr adolygiad (rhestr wedi ei chyflwyno i’r cyfarfod) a throsgwlyddo £2,986,685 i’r Gronfa Ddiswyddo, a £1,500,000 i’r Gronfa Trawsffurfio / Buddsoddi i Arbed.

 

Dogfennau ategol: