Agenda item

I ystyried cais gan Mr A

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  A am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat o’r newydd. Nodwyd bod y gwrandawiad yn ddilyniant i benderfyniad a wnaed 01.02.17 lle gohiriwyd y gwrandawiad hyd nes bod datganiad ysgrifenedig o’r rhesymau pam cafodd trwydded ei chaniatáu gan Cyngor Sir Ynys Môn (CSYM), er gwaethaf collfarnau ar y datganiad DBS.

 

Ategwyd bod  datganiad o gollfarnau wedi ei gyflwyno, ac oherwydd bod troseddau perthnasol i’r maes trwyddedu wedi eu cynnwys ar y datganiad, gofynnwyd i’r Pwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol. Ychwanegwyd nad oedd collfarnau ychwanegol wedi eu nodi ers cyflwyno’r cais gwreiddiol.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat  a  chaniatawyd cais Mr A am drwydded hacni/hurio preifat.

 

 

 

Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

           gofynionPolisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

           ffurflen gais yr ymgeisydd

           sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd yn ystod y ddau wrandawiad

           adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Yn dilyn gwaharddiad am 18 mis, o yfed a gyrru yn Awst 2003 (a gafodd ei godi i Fedi 2004 oherwydd i’r ymgeisydd gwblhau cwrs), derbyniwyd bod y drosedd o yfed a gyrru, yn gollfarn unigol ac yn unol â pharagraff 11.1 o Bolisi’r Cyngor dylai cyfnod o leiaf 3 blynedd fod wedi mynd heibio ers i’r gwaharddiad ddod i ben. O ganlyniad, gan fod y gollfarn yn dyddio yn ôl i 2004 nid oedd yr Is-bwyllgor yn ystyried bod y gollfarn yn sail i wrthod y cais.

 

Roedd yr Is-bwyllgor hefyd wedi ystyried collfarn ar gyfer digwyddiad o ddifrod troseddol (Mai 2004) lle cafodd yr ymgeisydd ei ddedfrydu i ddirwy, a gorchymyn i dalu iawndal a chostau. Roeddynt hefyd wedi ystyried collfarn Ionawr 2012 ar gyfer digwyddiad o ymosodiad oedd yn achosi niwed corfforol gwirioneddol (ABH) ac ar gyfer dau gyhuddiad o ddifrod troseddol ar yr un dyddiad. O dan gymal 16.1 o'r Polisi Trwyddedudylid ystyried gwrthod cais os oedd gan yr ymgeisydd hanes o aildroseddu, sydd yn dangos diffyg parch at les eraill neu at eiddo, onid oes cyfnod o 10 mlynedd o leiaf wedi mynd heibio ers y gollfarn ddiweddaraf. Fodd bynnag, roedd gan yr Is-bwyllgor hawl i wirio oddi wrth gymal 16.1 os yn fodlon bod amgylchiadau eithriadol yn berthnasol.

 

Ystyriwyd bod bwlch o 8 mlynedd rhwng collfarn 2004 a 2012 ac nad oedd yr ymgeisydd wedi mynd allan i achosi gweithred o ddifrod troseddol yn fwriadol (2012), yn hytrach ei fod yn digwydd o ganlyniad i  gast aeth o chwith.  

 

Yn ychwanegol, ystyriwyd bod gan yr ymgeisydd drwydded cerbyd hacni /hurio preifat gyda CSYM, ac er nad oedd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i'r Is-bwyllgor ddod i'r casgliad  bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol, roedd yn ffactor i’r Is-bwyllgor ei ystyried wrth wyro oddi wrth gymal 16.1. Amlygwyd  bod yr ymgeisydd eisoes yn gyrru mewn ac allan o Wynedd yn rhinwedd y gwaith trawsffiniol ac ni dderbyniodd yr Is-bwyllgor unrhyw dystiolaeth o gwynion neu broblemau oedd yn ymwneud a’i waith fel gyrrwr.

 

O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y rhesymau uchod yn cyfiawnhau gwyro oddi wrth gymal 16.1, ac felly yn derbyn bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyda Chyngor Gwynedd. Pwysleisiwyd bod y cais hwn wedi ei benderfynu ar ei rinweddau ei hun ac felly nid oedd yn gosod cynsail.