Agenda item
I dderbyn adroddiad gan Mr Sam Hadley, Network Rail.
Cofnod:
Croesawyd Mr Sam Hadley, Rheolwr Materion
Cyhoeddus Llwybrau Cymru, Ms Sally Biggs a Mr James Widdowson i'r cyfarfod.
(a) O ran y gwaith brys oedd i'w ymgymryd ar
Draphont Abermaw, dywedodd Ms Sally Briggs y byddai'r gwaith yn dechrau ar
12fed Mehefin tan 14eg o Orffennaf a ni fyddai yn effeithio ar y trenau gan y
byddai'r gwaith yn cael ei wneud rhwng 12.00 hanner nos a 5.00 o'r gloch y
bore. Wrth ymateb i ymholiad gan aelod
am arwyddion ym mhob pen i lwybr y Fawddach, dywedwyd y byddai'n debygol y
byddai gwylwyr ar ddyletswydd ar y safle.
Nodwyd ymhellach y byddai'r gwaith brys yma
yn penderfynu pa waith arall oedd angen ei ymgymryd yn y tymor hirach a'r
gobaith oedd y byddai swyddogion yn gallu adrodd ymhellach gyda rhagor o
wybodaeth yng nghyfarfod nesaf y Pwyllgor hwn.
Mewn ymateb, dywedodd y Cadeirydd fod
cyfathrebu yn bwysig iawn i aelodau'r Pwyllgor a'r cyhoedd a gofynnodd os oedd
unrhyw ddatblygiadau fod yr wybodaeth yn cael ei hanfon ymlaen i'r Swyddog
Cefnogi Aelodau fel bo modd rhannu'r wybodaeth gyda'r aelodau.
Sicrhawyd aelod oedd yn gwasanaethu ar Fforwm
Mynediad Eryri y byddai Llwybr y Fawddach oedd yn ffurfio rhan o lwybr yr
arfordir yn cael ei gadw yn agored.
O ran dathliadau pen-blwydd 150 oed y
draphont, nodwyd y byddai cyfarfod ar wahân yn cael ei gynnal rhwng y
Cynghorydd Trevor Roberts a'r swyddogion perthnasol i drafod hyn.
(b) Rhoddodd Mr James Widdowson gyflwyniad
byr ar ei waith gyda Network Rail a dywedodd mai ef oedd yn gyfrifol am y tîm
cynnal a chadw sy'n rheoli llystyfiant ger y cledrau / gordyfiant, planhigion
ymledol, ffosydd, llifogydd ac ati.
(b) Llongyfarchwyd Network Rail am y gwaith a
wnaed yn torri'r gordyfiant rhwng y brif ffordd a lein y rheilffordd yn ardal
Aberdyfi ond mynegwyd pryder am ddiogelwch defnyddwyr y ffordd oherwydd y ffens
annigonol a osodwyd rhwng Halt Gogarth ac Aberdyfi. Hefyd, tynnwyd sylw’r swyddogion at
wrthrych, oedd mae'n debyg wedi dod oddi ar lori, oedd yn gorwedd ger lein y
rheilffordd ac roedd wedi bod yno dros y pythefnos diwethaf.
(c) I ateb yr uchod, dywedodd Mr Widdowson
mai polisi Network Rail oedd cyfnewid unrhyw ffens gyda ffens debyg ac efallai
bod hyn wedi digwydd yn yr achos yma, ond byddai'n siarad gyda'r contractwr a
wnaeth y gwaith.
(d) Atebodd y swyddogion perthnasol
gwestiynau llafar yr aelodau fel a ganlyn:
·
Cytunodd Mr Widdowson i ofyn i un o'i dîm i
edrych ar Faes Parcio Gorsaf Reilffordd Dyffryn Ardudwy o ran iechyd a
diogelwch, ac yn ôl yr aelod roedd angen ail-wynebu'r maes parcio a'i farcio
gyda mannau parcio i'r anabl.
·
Addawodd Mr Sam Hadley i fynd ar ôl yr
arwyddion dwyieithog ar y lifftiau yng Ngorsaf Machynlleth.
·
O ran problemau draenio, dywedodd Ms Sally
Biggs y byddai Network Rail yn cynnal asesiad ac fe fyddai unrhyw broblemau
draenio yn cael eu datrys yn dilyn hynny.
Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi
eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion a atebwyd
fel a ganlyn:
(i)
Diffyg ymgysylltu gyda'r
Defnyddwyr, Grŵp Mynediad a Chyngor Gwynedd am y gwaith a wnaed ym Maes
Parcio Dyffryn Ardudwy ac o ganlyniad cafodd mynediad newydd ei greu i'r ffordd, gosodwyd giât
ond roedd carreg yn atal y giât rhag agor.
Pan roedd cerbydau yn mynd dros y ffordd roedd y giât yn cyfyngu'r
agoriad i'r orsaf. Roedd pryder hefyd
fod Network Rail heb ymgynghori gyda'r Cyngor Cymuned a Grŵp Mynediad
Meirionnydd ac o ganlyniad roeddent wedi cael nifer o gwynion am broblemau
symudedd i gael mynediad i'r orsaf.
Awgrymwyd ymhellach mai'r ateb gorau fyddai gosod rhwystrau gyda
goleuadau awtomatig.
I ateb yr uchod, dywedodd Mr Sam Hadley fod y
gwaith wedi ei wneud gan dîm oddi ar y trac, oedd wedi delio â'r pryderon a
godwyd gan geidwad y groesfan reilffordd gan fod pobl yn croesi o flaen trenau
ar ôl dod i ffwrdd ac felly roedd diogelwch o'r pwysigrwydd pennaf a'r bwriad
oedd mynd i'r afael â'r pryderon diogelwch a nodwyd. Ymddiheurodd Mr Hadley yn ddidwyll am iddynt
wneud camgymeriad, ac roeddent yn ymwybodol o'r amgylchiadau, roedd gwersi wedi
eu dysgu a bydd 'gwirio ychwanegol' yn orfodol fel rhan o asesiad y gwaith mewn
sefyllfaoedd fel hyn yn y dyfodol. Pwysleisiodd fod Network Rail yn cydnabod
pwysigrwydd Grwpiau Mynediad. O
safbwynt giât y groesfan reilffordd, fe fyddai yn gorfod trafod y mater yma
ymhellach gyda chydweithwyr ac o ran gosod y rhwystrau byddai hyn yn fater
hir-dymor.
(ii)
Diffyg goleuadau ym maes
parcio Gorsaf Llwyngwril - Dywedodd Mr Hadley y byddai unrhyw oleuadau newydd yn y maes parcio yn
welliant ond nid oedd gan Network Rail unrhyw arian yn bresennol ar gyfer
hyn. Er hynny, gallai fod yna
bosibilrwydd o weithredu gyda'r gymuned ac os oes arian ar gael yna byddai yn
cael ei ystyried.
(iii)
I
ateb yr uchod, dywedodd y Cynghorydd Louise Hughes, aelod lleol Llwyngwril oedd
yn bresennol yn y cyfarfod, ei bod yn deall o'r e-bost a dderbyniodd gan
Network Rail bod arian ar gael ac aeth ymlaen i ofyn os oedd posib cael 'golau
symudiad' o'r orsaf i'r maes parcio.
(iv)
Dywedodd
Mr Hadley y byddai yn falch o gael trafod y mater ymhellach gyda ei
gydweithwyr.
(v)
Rhwystrau diogelwch/wal
derfyn - Prif ffordd (A493) - rhwng Llwyngwril a'r Friog - Dywedodd Mr Hadley fod angen ymchwilio'r
mater ymhellach ac yn wir pwysleisiodd bwysigrwydd cydweithio gyda Chyngor
Gwynedd. Roedd hyn yn awr yn rhan o
raglen Network Rail a bwriad dau uwch beiriannydd asedau oedd ymweld â'r safle
ar brynhawn y 29ain o Fawrth 2017. Mewn
ymateb, darllenodd y Cadeirydd e-bost a dderbyniwyd gan Beiriannydd Ardal
Cyngor Gwynedd oedd yn dweud fod y rhwystrau diogelwch yn syrthio o dan
gyfrifoldeb Network Rail ac roedd cyfarfodydd wedi eu cynnal ar y safle rhwng
swyddogion Cyngor Gwynedd a Network Rail pan ddywedwyd pa mor bwysig oedd y
rhwystrau diogelwch i ddiogelwch y cyhoedd.
Roedd Ymgynghoriaeth Gwynedd wedi cynnig i Network Rail y byddent yn
gwneud y gwaith ar eu rhan, ond roeddent angen archeb swyddogol i wneud
hyn. Gofynnwyd ymhellach fod Mr Adrian
Williams, Peiriannydd Ardal Meirionnydd, a'r aelod lleol, Cyng. Lousie Hughes
yn cael gwahoddiad i fynychu cyfarfod safle ar y 29ain.
(vi)
Diweddariad ar y gwaith i
wella arwyneb croesfan Cricieth yn dilyn damwain cerddwr - Roedd y tîm cynnal a chadw wedi edrych ar
Groesfan Merlyn ac fe wnaed yn glir yn y cyfarfod fod damwain hefyd wedi
digwydd pan lithrodd cerddwr ar y groesfan a leolir yng nghanol Cricieth. Awgrymwyd fod Mr James Widdowson yn siarad
ymhellach gyda'r Cyng. Eirwyn Williams am y digwyddiadau.
(vii)
Croesfan Reilffordd Talwrn
Bach, Llanbedr -
I ateb cais gan yr aelod lleol am yr wybodaeth ddiweddaraf am y groesfan yma,
dywedodd Mr Hadley fod cynlluniau i'w huwchraddio yn 2018 a pe byddai unrhyw
newidiadau fe addawodd i roi gwybod i'r Pwyllgor hwn cyn gynted ag y daethai i
wybod am unrhyw ddatblygiadau.
Penderfynwyd - Derbyn
a nodi'r adroddiad gan ddiolch i’r swyddogion am eu hadroddiadau ac am fynychu'r
cyfarfod.