I dderbyn adroddiad gan Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru.
Cofnod:
Estynnodd y
Cadeirydd groeso i Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru, i gyflwyno ei adroddiad
ar weithgareddau Trenau Arriva Cymru hyd yma.
Adroddwyd fod storm
'Doris' wedi achosi trafferthion yr wythnos ddiwethaf ac roedd Trenau Arriva Cymru
yn cydweithio gyda Network Rail ar unrhyw faterion oedd heb eu datrys.
Adroddwyd ymhellach y byddai Wi-Fi ar gael ar
yr holl drenau cyn y Pasg.
Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi
eu cyflwyno gan Aelodau’r Pwyllgor / Cynghorau Cymuned / ac unigolion a atebwyd
fel a ganlyn:
(i) Darpariaeth
cysgodfan yng Nghyffordd Dyfi - Dywedodd Mr Ben Davies fod arian ar gael i ddarparu cysgodfan arall a
bod trefniadau yn eu lle i fwrw ymlaen gyda hyn.
(ii) Pam nad oes
tocyn teithio am ddim ar gyfer yr henoed drwy'r flwyddyn yn hytrach nag yn
ystod y gaeaf yn unig? - Dywedodd Mr Ben Davies, Trenau Arriva Cymru,
na fyddai capasiti eistedd digonol i fedru cynnig y consesiwn yma yn ystod
misoedd yr haf. Er hynny, roedd y mater
wedi ei drafod gyda Gweinidog Llywodraeth Cymru, yn enwedig o ran cael nifer
ddigonol o gerbydau fel rhan o'r fasnachfraint newydd.
(iii) Y Gymraeg,
cyhoeddiadau dwyieithog ar y trefnau, ynganu enwau Cymraeg yn well mewn
cyhoeddiadau yn y gorsafoedd - Tra'n cytuno fod y Gymraeg
yn bwysig iawn, dywedodd Mr Davies mai'r broblem oedd y diffyg arian ac nad
oeddent yn gwybod beth oedd yn digwydd i'r trenau o ran y fasnachfraint
newydd. Er hynny, cyhoeddodd yn y
Pwyllgor iddo gael ei benodi i wasanaethu ar Grŵp Arriva yn Llundain oedd
yn gyfrifol am y cais masnachfraint.
Sicrhaodd yr aelodau y byddai yn lleisio pryderon pobl gogledd Cymru am
y Gymraeg, amserlenni ac ati gan sicrhau fod y polisi iaith yn cael ei ddatrys.
Wrth ymateb i'r uchod, llongyfarchodd yr
aelodau Mr Ben Davies ar ei benodiad gan gefnogi'r angen i fynd i'r afael
gyda'r polisi iaith. Sicrhaodd y Cyng
Trevor Roberts y Pwyllgor fod y pedwar ymgeisydd wedi cael gwybod am yr angen
am wybodaeth ddwyieithog ar reilffyrdd a gorsafoedd Cymru.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol gwnaeth yr
aelodau’r sylwadau a ganlyn:
·
Bod y Gymraeg yn bwysig iawn ac y dylai'r
cyhoeddiadau yn y lifft newydd ym Machynlleth fod yn ddwyieithog.
·
O ran ynganu, dywedwyd ei bod yn llawer haws i
berson oedd yn siarad Cymraeg i ynganu enwau gorsafoedd yn Lloegr nag ydoedd i
berson oedd yn siarad Saesneg i ynganu enwau gorsafoedd yng Nghymru.
Wrth ymateb i'r pwyntiau
uchod, dywedodd Mr Ben Davies fod y cyhoeddiadau yn cael eu gwneud drwy system
tecst i siarad ac nid oedd bob amser yn cael ei ddweud gan berson. Er hynny, dywedwyd ymhellach fod staff oedd
ddim yn siarad Cymraeg yn cael cyfle i ddysgu'r iaith ac yn cael eu hannog i
siarad Cymraeg.
Manteisiodd aelod ar y
cyfle i dalu teyrnged ac i ddiolch i'r pedwar aelod oedd wedi gweithio'n
ddiflino yn ystod cyfnod ymgynghori Gwasanaeth Rheilffordd Cymru a'r Gororau:
Y Cynghorydd Trevor Roberts
Y Cynghorydd J. Michael
Williams
Mr Rhydian Mason
Mr Robert Robinson
(iv) A fyddai modd
trefnu un trên cyflym y dydd bob ffordd ar Arfordir y Cambrian er mwyn
cyflymu'r siwrne i Fachynlleth ac yn ôl?
Dywedodd Mr Ben Davies na fyddai unrhyw newid
yn yr amserlen a dim trenau ychwanegol, er hynny, addawodd i fynd â'r mater
ymhellach. Yn bersonol, roedd o blaid
trên bob dwy awr gan gynnwys dydd Sul.
(v) Beth yw’r
datblygiadau ar gyfer trên hwyr o Bwllheli?
Dywedodd Mr Ben Davies na fyddai unrhyw drên
ychwanegol o Bwllheli. Er hynny, byddai
gwelliant yn y gwasanaeth gan y bydd trên Machynlleth yn aros tan daw'r trên
8.30pm o Amwythig ac felly byddai gwell cyswllt rhwng Machynlleth i
Bwllheli.
(vi) Cyfleusterau
Safonol yng ngorsaf drenau Porthmadog - byrddau arddangos, cysgodfan ac
ati. A fyddai modd trafod y ffordd
ymlaen ar gyfer gwella edrychiad yr orsaf ar yr olwg gyntaf? Roedd angen ei gwella a'i huwchraddio ar
frys. Nodwyd mai dyma oedd yr olwg
gyntaf o'r dref roedd teithwyr yn ei gael ac nid oedd yn creu argraff dda
iawn.
Wrth ateb yr uchod, yn ogystal â'r ohebiaeth
a dderbyniwyd gan Mr Ian Hunt, un o drigolion Porthmadog, awgrymwyd fod Mr
David Crunkhorn, Trenau Arriva Cymru, yn trefnu i gyfarfod gyda Mr Hunt, a'r
Cyng. Selwyn Griffiths, Cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, ar ddyddiad oedd yn
gyfleus i bawb i drafod y ffordd ymlaen.
Penderfynwyd - Derbyn
a nodi’r adroddiad a diolch i Mr Ben Davies amdano.