skip to main content

Agenda item

I dderbyn adroddiad gan Mr Rhydian Mason, Swyddog Parneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.

 

(Copi’n amgaeedig)

Cofnod:

Cyflwynwyd   - Adroddiad ysgrifenedig gan Mr Rhydian Mason, Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian oedd yn amlinellu'r gweithgareddau wnaed ers y cyfarfod blaenorol oedd yn cynnwys;

 

(a)          Datblygiadau gyda hyrwyddo Cynllun y Waled Oren yn genedlaethol

 

Roedd Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol yr Adran Drafnidiaeth wedi rhoi ei gefnogaeth i hyrwyddo Cynllun y Waled Oren yn genedlaethol ac mewn ymgynghoriad gyda Trenau Arriva Cymru a Grŵp DU Arriva, a byddai hyn yn mynd rhagddo.

 

(b)          Masnachfraint Rheilffyrdd a chefnogaeth Llywodraeth Cymru

 

Roedd wedi mynychu amryw o gyfarfodydd am y fasnachfraint reilffordd ynghyd â chydweithwyr o'r bedair Bartneriaeth Rheilffyrdd Cymunedol arall yng Nghymru a'r Gororau.

 

(c)          Cyhoeddiadau

 

Cyfeiriwyd at lyfryn newydd o deithiau cerdded byr yn ardaloedd Rheilffyrdd y Cambrian oedd i'w gyhoeddi fyddai yn lle taflenni Llwybrau'r Cambrian.  Roedd cerdded yn boblogaidd iawn a'r gobaith oedd y byddai'r Canolfannau Croeso ym Mhorthmadog ac Abermaw yn ail-agor er mwyn hyrwyddo digwyddiadau.

 

(d)          Arolygon

 

Roedd Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian yn comisiynu arolygon i'w cynnal yng ngwanwyn 2017, fel rhan o'r grant gan Lywodraeth Cymru.   Roedd yr arolygon yn dilyn llwyddiant arolygon 2013 a 2015 a olygodd well gwasanaethau ar Leiniau'r Cambrian. 

 

(e)          Ymgyrch Hyrwyddo 2017

 

O ran gwaith hyrwyddo, roedd y cyfnod yma wedi bod yn bwysig iawn ac roedd arian ychwanegol wedi ei sicrhau i baratoi gwefan newydd sbon sy'n canolbwyntio ar ymwelwyr gyda mwy o ffilmiau byr.

 

(f)           Storïau a Llyfrau ar y Cambrian

 

Disgwylid am gadarnhad o fanylion a'r arian oedd ar gael ar gyfer peilota prosiect o gysylltu storiau a llyfrau gyda Leiniau'r Cambrian a fyddai yn hyrwyddo teithiau i blant ysgol ar y trenau.

 

 

(g)          Cynllun Busnes 2017-2018

 

Roedd y cynllun busnes yn y broses o gael ei baratoi a byddai'n cael ei gyflwyno i'r Bartneriaeth yn y cyfarfod nesaf.  Byddai copi ar gael i Aelodau'r Pwyllgor hwn drwy'r Swyddog Cefnogi Aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod am amserlen Arfordir y Cambrian ar ffurf cerdyn bach oedd yn boblogaidd iawn gyda phobl leol ac ymwelwyr, dywedodd Mr Mason eu bod yn dal i gael eu cynhyrchu ond roedd hi yn anodd eu dosbarthu i'r canolfannau croeso ac ati.   Roedd y dosbarthu wedi canolbwyntio ar Orsafoedd Rheilffordd ond os oedd Canolfan Groeso Aberdyfi angen cyflenwad pellach dylent gysylltu â Swyddog Partneriaeth Rheilffyrdd y Cambrian.  

 

Tynnwyd sylw’r Pwyllgor at gyhoeddiad 'Trên Mawr yn cwrdd â'r Trên Bach' ac roedd Rheolwr Rheilffyrdd Ffestiniog ac Eryri, fel Cadeirydd Twristiaeth Gogledd Cymru, yn fwy na bodlon dosbarthu unrhyw gyhoeddiadau ymhellach. 

 

Wrth gloi, dywedodd Mr Mason y byddai yn ymddiswyddo o'i swydd yn ystod y dyddiau nesaf ac roedd wedi sicrhau swydd newydd gyda Network Rail, fel Rheolwr Croesfannau Rheilffordd yn gyfrifol am yr ardal o Abermaw i Bwllheli.  Diolchodd i'r aelodau am eu cydweithrediad a'u cefnogaeth yn ei swydd bresennol.   Deallodd y byddai'r Bartneriaeth yn llenwi'r swydd ac roedd yn hyderus y byddai olynydd yn cael ei benodi/ei phenodi yn y dyfodol agos.

 

Ar ran y Pwyllgor, llongyfarchodd y Cadeirydd Mr Mason ar ei benodiad diweddar a diolchwyd iddo am ei waith caled ac am gefnogi'r Pwyllgor yn ystod y blynyddoedd diwethaf. 

 

Penderfynwyd - Derbyn a nodi’r adroddiad a diolch i Swyddog Rheilffyrdd Partneriaeth y Cambrian amdano.

 

 

Dogfennau ategol: