(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen monitro
adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer Haf 2016.
(Copi’n amgaeedig)
(b) I gyflwyno
crynodeb o Hunan Arfarniad yr ysgolion canlynol:
(i) Ysgol Bodfeurig
(ii) Ysgol Borthygest
(iii) Ysgol Bro Cynfal
(iv) Ysgol Cae Top
(v) Ysgol Llanbedr
(vi) Ysgol Maenofferen
(vii) Ysgol Penybryn (Tywyn)
(viii) Ysgol Rhiwlas
(ix) Ysgol Waunfawr
(Copïau’n amgaeedig)
Cofnod:
(a)
Tywysodd y Swyddog
Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb
o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw
mai 3 ysgol gynradd a oedd wedi eu harolygu
gan ESTYN yn ystod tymor
yr Haf 2016 ynghyd ag 6 ysgol gynradd yn
ystod cyfnod tymor yr Hydref 2016.
(b)
Mewn ymateb
i sylw wnaed gan Aelod ynglŷn
â therminoleg ESTYN o’r farn “digonol” yn hunan arfarniad
Ysgol Maenofferen, nododd Ymgynghorydd Her GwE bod y frawddeg
“gofal, cymorth ac arweiniad” yn rhan
o faes ehangach a thynnwyd sylw bod y geiriau “effeithiol, llwyddiannus, cadarn, buddiol” yn cyfeirio
at “da” a oedd yn berthnasol i Addysg Grefyddol.
(c)
Cyfeiriwyd at Hunan Arfarniadau'r ysgolion unigol canlynol
(i)
Ysgol
Bodfeurig
(ii)
Ysgol Borth-y-gest
(iii)
Ysgol
Bro Cynfal
(iv)
Ysgol
Cae Top
(v)
Ysgol
Llanbedr
(vi)
Ysgol
Maenofferen
(vii)
Ysgol
Penybryn Tywyn
(viii)
Ysgol
Rhiwlas
(ix)
Ysgol
Waunfawr
Nododd Ymgynghorydd Her GwE bod ansawdd
yr Hunan Arfarniadau wedi gwella ond
bod rhai gwendidau yn parhau, oherwydd
nad oedd ysgolion wedi craffu’r
canllawiau yn ddigonol a’r angen
i dderbyn canllawiau cliriach.
Yng nghyd-destun Ysgol Maenofferen,
tynnwyd sylw penodol at y cyfeiriad o lefelau disgyblion ar ddiwedd Blynyddoedd
3, 4, a 5.
Nodwyd bod Hunan Arfarniad Ysgol Cae Top wedi ei lunio
ar ddull gwahanol ac wedi derbyn arolygiad ardderchog yn ddiweddar.
Cyfeiriwyd at Hunan Arfarniad Ysgol Penybryn
Tywyn a oedd yn rhoi blas
o’r gwersi.
PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi cynnwys yr
arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol
â’r drefn, llongyfarch yr ysgolion uchod am eu hymdrechion i gyrraedd y graddau.
Dogfennau ategol: