Agenda item

 

I dderbyn diweddariad gan yr Ymgynghorydd Her ar yr isod:

 

 

(i)            Safonau Addysg Grefyddol

(ii)           Adnoddau Addysg Grefyddol

(iii)          Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes

(iv)         Astudiaethau Crefyddol a TGAU /Safon Uwch

 

Cofnod:

(a)    Addysg Grefyddol a’r Cwricwlwm am Oes

 

Atgoffwyd yr Aelodau o brif argymhellion Yr Athro Graham Donaldson fel rhan o’r cwricwlwm “Dyfodol Llwyddiannus” neu Gwricwlwm am Oes, Cwricwlwm i Gymru. Un o’r egwyddorion hynny ydoedd i’r cwricwlwm gael ei weithredu o’r gwaelod i fyny a’i fod yn addas i’r ardal leol.  I’r perwyl hwn, roedd CYSAGau lleol yn enghraifft dda i allu dylanwadu ar gwricwlwm lleol. 

 

Ymhelaethwyd ymhellach o’r pedwar diben wrth wraidd y cwricwlwm newydd arfaethedig sef cefnogi plant a phobl ifanc i fod yn:

 

·         Ddysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu drwy gydol eu hoes

·         Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith

·         Dinasyddion egwyddorol, gwybodus yng Nghymru a’r byd

·         Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel aelodau gwerthfawr o gymdeithas

 

Un o’r tasgau i’w wynebu ydoedd sicrhau bod y cwricwlwm yn cael ei ddatblygu i ymateb i’r dibenion uchod. 

 

Ymhelaethodd Ymgynghorydd Her GwE ei bod yn rhan o Banel Ymgynghorol a’u bod wedi cwrdd i geisio llunio arweiniad ar “beth yw addysg grefyddol”.  Yn sgil y gwaith hwn, cyflwynwyd i’r Aelodau ddatganiadau ar “beth yw Addysg Grefyddol dda” a gofynnwyd iddynt mewn parau drafod os oedd y datganiadau yn cyfrannu at y pedwar diben a chonsensws yr Aelodau ar y cyfan ydoedd bod y datganiadau yn ddigon clir ac yn gymwys i’r pedwar diben.

 

O ran y camau nesaf, anogwyd yr athrawon a oedd yn bresennol i brofi’r uchod yn eu hysgolion i weld os ydynt yn gyfforddus gyda’r datganiadau, a.y.b. ac anfon unrhyw sylwadau o ran adborth yn ôl i Ymgynghorydd Her GwE.

 

 

(b)  TGAU / Safon Uwch

 

Esboniodd yr Ymgynghorydd Her bod dirprwyaeth o’r Panel Ymgynghorol Cenedlaethol Addysg Grefyddol wedi cwrdd gyda Mr Gareth Pierce, CBAC, a oedd wedi derbyn neges glir bod pryder ynglyn a chyflwyno manyleb TGAU Medi diwethaf a rhoddwyd pwysau arnynt i’w ohirio am flwyddyn.  Erbyn hyn nodwyd bod y fanyleb wedi cyrraedd.  Nodwyd bod athrawes arweiniol GwE (Mefys Jones) yn gweithredu’n effeithiol mewn ymgynghoriad gydag athrawon Gwynedd a Môn ac y byddai deunydd ar gael erbyn Mehefin / Gorffennaf.

 

Mewn ymateb i’r uchod mynegwyd bryder ymhlith yr athrawon ynglyn a’r newidiadau i’r fanyleb TGAU a’r ffaith bod ysgolion angen dechrau’r gwaith cwrs yn fuan a ddim deunyddiau Cymraeg ar gael, ac y byddai canlyniadau ysgolion yn dioddef. 

    

Deallir bod llawer o ysgolion yn Ne Cymru yn cynnig Manyleb A fel cwrs dewisol, a Manyleb B fel un statudol. Pwysleisiwyd  bod Addysg Grefyddol yn ofyniad statudol ar gyfer pob disgybl a bod  angen i ysgolion ddehongli’r gofynion yn drylwyr yn unol â’r ddeddf.  Yn ogystal, gellir darparu rhaglen astudio sy’n cyfeirio at y gofynion ac yn cynnig gymwysterau priodol eraill e.e. Bagloriaeth Cymru.

 

(c)   Adnoddau Addysg Grefyddol

 

Cyfeiriwyd at y cyhoeddiadau canlynol ar gyfer adnoddau:

 

·         Dau rifyn o E-gylchgrawn Addysg Grefyddol wedi eu cyhoeddi ar gyfer Cyfnod Allweddol 3

·         Podlediadau – pytiau o raglenni’r BBC “Bwrw Golwg”

·         Erthyglau gan dri awdur (Noel Dyer, Huw Dylan a Catrin Roberts) sydd wedi bod yn cydweithio yn ddiweddar

 

(ch)  Canlyniadau Allanol

 

Adroddodd Ymgynghorydd Her GwE bod canlyniadau haf 2016 yn gyffredinol yn dda iawn gyda bechgyn yn gwneud cynnydd da a’r bwlch yn cau rhwng perfformiad y merched a’r bechgyn.

 

Mynegwyd pryder gan aelod bod ysgolion yn colli athrawon sydd yn arbenigo mewn addysg grefyddol ac yn hyn o beth bod statws y pwnc yn cael ei golli.

 

Mewn ymateb, nododd Ymgynghorydd Her GwE bod ysgolion yn gorfod cydweithio oherwydd yn bennaf toriadau cyllidol ac o’r herwydd nad oedd Penaethiaid Adran mewn rhai ysgolion.  O ran statws y pwnc, nid oedd arolygiad thematig diwethaf ESTYN ar Addysg Grefyddol yn nodi pryder o ran ansawdd gwersi athrawon nad oeddynt yn arbenigwyr yn y pwnc.   

 

 

Penderfynwyd:             Derbyn, nodi a diolch i’r Ymgynghorydd Her am y wybodaeth uchod.