Ystyried adroddiad y Pennaeth Rheoleiddio
Cofnod:
Cyflwynwyd Datganiad Polisi Hapchwarae drafft i’r
Aelodau ei ystyried a’i gymeradwyo cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus yn unol â Deddf
Hapchwarae 2005. Amlygwyd prif ddibenion y Ddeddf Hapchwarae ynghyd â gofynion
y Comisiwn Hapchwarae i weithredwyr hapchwarae asesu’r risgiau lleol i’r
amcanion trwyddedu sydd yn codi yn sgil darparu cyfleusterau hapchwarae ynghyd
â chael polisïau, gweithdrefnau a mesurau rheoli i liniaru’r risgiau hynny.
Nodwyd bod y Polisi drafft wedi ei baratoi mewn
ymgynghoriad â Grŵp Trwyddedu Gogledd Cymru gyda’r nod o sicrhau cysondeb ledled
y rhanbarth. Ategwyd bod Gwynedd wedi cyflwyno’r fformat a bod Cynghorau eraill
y Gogledd wedi ei fabwysiadu. Derbyniwyd hyn fel gwybodaeth gadarnhaol.
Adroddwyd y byddai'r cyfnod ymgynghori yn parhau am 12
wythnos gyda’r Awdurdod Trwyddedu yn rhoi sylw i’r ymatebion a dderbynnir. Wedi
cwblhau'r broses, bydd y Datganiad drafft terfynol yn cael ei ail gyflwyno i’r
Pwyllgor Trwyddedu, fydd yn argymell i’r Cyngor Llawn ei fabwysiadu (hyn yn
ofynnol o dan Adran 154 o’r Ddeddf Hapchwarae 2005).
Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, amlygwyd y sylwadau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Amlygu pryder bod
hysbysebion hybu hapchwarae diddiwedd ar y teledu
·
Bod
cael mynediad at wasanaethau gamblo yn rhy hawdd
·
Bod cwmnïau yn annog pobl i
brynu tocynnau loteri drwy symleiddio prosesau talu dros y we
·
Rhaid
ystyried cymunedau bregus – diffyg arian gwario
·
Peiriannau hapchwarae mewn
tafarndai - angen osgoi gosod y rhain mewn ardaloedd bwyta teuluoedd / allan o
gyrraedd plant
·
Bod angen i’r Bwrdd Iechyd
fod yn rhan o’r ymgynghoriad
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r pryderon a
amlygwyd, nodwyd bod rheolaeth hysbysebion teledu tu allan i reolaeth y
Pwyllgor Trwyddedu a’r Awdurdod Trwyddedu ac mai'r Comisiwn Hapchwarae oedd yn
gyfrifol am y rheoleiddio.
Awgrymwyd anfon llythyr at y Comisiwn, Aelodau
Cynulliad Arfon a Dwyfor Meironnydd a’r Aelodau Seneddol lleol i
fynegi pryderon y Pwyllgor ar fynediad hawdd i wasanaethau hapchwarae. Amlygwyd
bod dyletswydd gofal ar y Pwyllgor i amlygu hyn er mwyn gwarchod unigolion
bregus.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â defnyddio
swyddogion i wneud archwiliadau ar hap mewn siopau betio nodwyd na fuasai
archwiliadau yn cael eu gweithredu oni bai bod asesiad risg wedi ei wneud neu
dystiolaeth wedi ei gyflwyno bod pryderon / cwynion am y lleoliad / siop. Cadarnhawyd bod prawf brynu ar
eitemau megis tybaco ac alcohol ond nid ar eitemau betio. Amlygwyd mai'r rheswm
dros hyn oedd oherwydd nad yw’n ofyn statudol, ond petai'r Pwyllgor yn
penderfynu bod hyn yn fuddiol, ni
ragwelwyd rhesymau dros beidio.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn ag amseriad cyflwyno
datganiad drafft i Bwyllgor cyn yr etholiad a bod aelodaeth y Pwyllgor yn
debygol o newid erbyn cyfnod derbyn y datganiad terfynol, nodwyd bod pob
Awdurdod ar draws y Gogledd wedi cytuno cyflwyno‘r datganiad o fewn yr un
cyfnod.
PENDERFYNWYD yn unfryfol,
cymeradwyo y Datganiad Polisi Hapchwarae drafft yn unol a Deddf Hapchwarae 2005
ar gyfer ymgynhgoriad cyhoeddus a cynigiwyd y sylwadau isod:
·
yr Awdurdod
Trwyddedu i ddrafftio llythyr yn enw’r Cadeirydd a’i anfon at y Comisiwn
Hapchwarae i fynegi pryderon y Pwyllgor ar y
- gorddefnydd
o hysbysebion betio,
- bod cwmnïau
yn annog pobl i fetio a
- bod mynediad
at wasanaethau hapchwarae yn rhy
hawdd.
Copi o’r llythyr i’w anfon at Aelodau Cynulliad
(Arfon a Dwyfor Meirionnydd) ar Aelodau Seneddol lleol; i’r Aelodau sydd yn
cynrychioli Cyngor Gwynedd ar y Panel Heddlu a Throsedd Gogledd Cymru ac at
Brif Swyddogion Trwyddedu Awdurdodau Gogledd Cymru
·
yr Awdurdod
Trwyddedu i drafod gydag Adran Gyfathrebu Cyngor Gwynedd y dulliau gorau o dynnu sylw at yr ymgynghoriad
cyhoeddus - annog defnyddio cyfryngau cymdeithasol
Dogfennau ategol: