Agenda item

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref 2016, fel rhai cywir.

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod y Pwyllgor hwn a gynhaliwyd ar 12 Hydref, 2016, fel rhai cywir.

 

Cyfeiriodd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub at gefnogaeth yr aelodau i gynnal archwiliad diogelwch o ardaloedd aber y Glaslyn a Thraeth y Graig Ddu a chael sgwrs ddilynol i edrych ar sut y gellir gwella’r sefyllfa o fewn yr adnoddau. Amlygodd bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig wedi cadarnhau y byddai’n cysylltu efo Sefydliad y Bâd Achub yng nghyswllt archwiliad diogelwch. Mynegodd ei anfodlonrwydd nad oedd hyn wedi ei weithredu a bod y Swyddog wedi nodi ym mis Ionawr y byddai swyddogion y gwasanaeth yn cwblhau’r archwiliad diogelwch. Nododd ei fod wedi anfon e-bost at yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ond nid oedd wedi derbyn ymateb.

 

Amlygodd y Cadeirydd mai Pwyllgor Ymgynghorol oedd y Pwyllgor ac felly nid oedd rheidrwydd i’r swyddogion weithredu.

 

Nododd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned ei fod yn gwerthfawrogi sylwadau Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub ac yn derbyn ei bryderon. Nododd y ceisir osgoi gwneud nifer uchel o archwiliadau oherwydd yr adnoddau prin a’r tebygolrwydd ni ellir gweithredu mesurau i liniaru’r risg. Pwysleisiodd bod y Cyngor yn croesawu mewnbwn partneriaid gan gynnwys Sefydliad y Bâd Achub ac yn cydweithio efo’r sefydliad o ran lliniaru risgiau yn Abermaw. Ymddiheurodd nad oedd y cynrychiolydd wedi derbyn ymateb i’w e-bost ac fe fyddai’n rhoi ystyriaeth i’r e-bost.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod y byddai’n ddefnyddiol derbyn mewnbwn gan Sefydliad y Bâd Achub o ran Porthmadog, nododd Uwch Reolwr Economi a Chymuned bod y Gwasanaeth yn blaenoriaethu o ran risg.

 

Nododd yr aelod ei siomedigaeth na ofynnwyd am fewnbwn Sefydliad y Bâd Achub o ran yr archwiliad o ardaloedd aber y Glaslyn a Thraeth y Graig Ddu, gan nodi y gallai’r Cyngor rhoi ystyriaeth i’r materion a amlygir gan y Sefydliad a blaenoriaethu'r hyn oedd angen i wneud i liniaru’r risgiau.

 

Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth yn cymryd i ystyriaeth barn y Pwyllgor Ymgynghorol. Adroddwyd bod swyddogion profiadol y Gwasanaeth wedi cynnal archwiliad ac o ganlyniad yn y broses o osod mwy o arwyddion yn yr ardal yn ogystal ag adolygu taflenni gwybodaeth a roddir i ddefnyddwyr y traeth yn pwysleisio’r risg o ran Banc y Gogledd.

 

Nododd Cynrychiolydd Sefydliad y Bâd Achub bod y sefydliad eisiau parhau i gyd-weithio efo’r Gwasanaeth ac yn cynnig cynorthwyo ym Mhorthmadog fel y gwneir yn Abermaw a Thywyn. Ychwanegodd ei fod yn cydnabod bod arbenigedd yn y Gwasanaeth ond yn anfodlon nad oedd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig wedi cysylltu â Sefydliad y Bâd Achub wedi iddo gadarnhau yn y cyfarfod diwethaf y byddai’n cysylltu.

 

Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod asesiad risg wedi ei gwblhau gan Sefydliad y Bâd Achub o ardal Morfa Bychan dwy flynedd yn ôl a ni ystyrir ei fod yn amserol i ail-ymweld.

 

Cadarnhaodd yr Harbwr Feistr bod arwydd newydd (unol â dyluniad Sefydliad y Bâd Achub) wedi ei osod yn Lôn Gwydryn ac fe osodir 3 arwydd arall, yn ogystal ag arwydd ym Mhorth y Gest a oedd yn cynnwys y tabl llanw.

 

Nododd aelod ei fod yn ddefnyddiol i’r Cyngor dderbyn barn gan sefydliadau allanol ac fe ddylid ei groesawu.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed y diweddaraf ar gynllun Clwb Hwylio Porthmadog i osod pontwns ar wal yr Harbwr, nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden bod gwaith ymchwil ac asesu yn parhau.

 

Dogfennau ategol: