Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.

·      Roedd y Gwasanaeth yn mawr obeithio derbyn adolygiad gan arbenigwr allanol Asiantaeth Gwylwyr y Glannau ym mis Ionawr. Yn anffodus, oherwydd diffyg capasiti nid oedd yr archwiliad wedi ei gynnal ac roedd y Gwasanaeth yn disgwyl i ail drefnu’r adolygiad. Rhagwelwyd y cynhelir yr adolygiad ym mis Medi 2017.

·         Cynhelir archwiliad manwl gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 31ain o Orffennaf 2017. Nodwyd oherwydd y buddsoddiadau diweddar rhagwelir y byddai’r adroddiad yn cadarnhau parhad mewn gwelliant yng nghyflwr a lleoliadau Cymhorthion Mordwyo Harbwr Porthmadog.

·         Bod 2 Rybudd i Forwyr mewn grym yn Harbwr Porthmadog. Roedd y rhybudd yn gyfredol ar gyfer Bwi Rhif 1 (Traethell) - oedd ddim ar ei safle (rhybudd rhif 10.). Nid oedd cymhorthydd Bwi Rhif 3 (rhybudd rhif 9) ar ei safle ac fe rybuddir morwyr i fordwyo gyda gofal yn yr ardal hon hyd fydd y cymhorthion wedi eu hail leoli ar eu safle cywir. Nodwyd yr hysbyswyd Tŷ’r Drindod o’r sefyllfa ym Mhorthmadog drwy system PANAR yn unol â’r gofynion.

·         Bod sianel fordwyo Harbwr Porthmadog wedi newid yn sylweddol yn ystod yr wythnosau diwethaf yn enwedig yn ardal Cwt Powdwr. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn archwilio’r sianel yn rheolaidd ar lanw isel er ceisio sicrhau fod y cymhorthion mordwyo yn y lleoliad fwyaf addas. O ganlyniad i’r newid cyson yn y sianel, roedd sicrhau fod y cymhorthion yn eu safle cywir yn heriol.

·      Fel yr adroddwyd yn y cyfarfod diwethaf, ymestynnwyd cyfnod cyflogaeth 2 Cymhorthydd Harbwr at ddiwedd mis Rhagfyr 2016 er sicrhau cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar draws y Sir. Nodwyd yr ymestynnwyd cyfnod y swyddi ymhellach hyd at ddiwedd mis Mawrth 2017 ar drefniant tri diwrnod yr wythnos. Adroddwyd yr hysbysebir y swyddi Cymhorthyddion Harbwr ar gyfer y cyfnod 1 Ebrill 2017 i 30 Medi 2017.

·         Diogelwyd cwch a adawyd i ddirywio ger Cei Balast a fe’i symudwyd i ardal y llithrfa. Nodwyd bod y Gwasanaeth yn cysylltu gyda’r perchennog gan dynnu sylw bydd yn fwriad gwerthu neu waredu’r cwch oni bai bod y cwch yn cael ei chludo o’r Harbwr yn ystod y ddeufis nesaf. Nodwyd os oedd yr aelodau yn ymwybodol o unrhyw brosiectau a fyddai’n dymuno derbyn y cwch iddynt gysylltu â’r Gwasanaeth.

·         Y sefyllfa gyllidebol hyd at ddiwedd Ionawr 2017, gan nodi na ragwelir y cyrhaeddir y targed incwm ar gyfer y flwyddyn ariannol.

·      Y byddai cwch newydd o wneuthuriadPowercatyn cael ei leoli ym Mhorthmadog.

·      Bod ffioedd drafft Harbwr Porthmadog ar gyfer blwyddyn ariannol 2017-18 wedi eu cyflwyno yn y cyfarfod diwethaf, cadarnhawyd y bwriedir cynyddu’r ffioedd 2% ar gyfartaledd er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth. Eglurwyd y byddai’r Aelod Cabinet - Economi yn cadarnhau’r ffioedd erbyn diwedd Mawrth 2017.

·         Bod rhaid i’r Cyngor ychwanegu ffi am bob angorfa ym mhob Harbwr o dan reolaeth y Cyngor yn 2017. Eglurwyd bod y ffi wedi ei ychwanegu gan Ystad y Goron a fyddai’n hawlio £25.00 am bob angorfa yn yr Harbwr. Nodwyd bod gofyn ar y Cyngor, fel yr Awdurdod Harbwr, i godi a chasglu’r ffi ar ran Ystad y Goron. Ychwanegwyd bod y ffi ychwanegol hefyd yn daladwy am angorfeydd ymwelwyr ac fe fydd gofyniad i’r taliad hwn gael ei ariannu drwy gyllideb yr Harbwr.

 

Croesawyd yr Uwch Swyddog Harbyrau yn ôl yn dilyn cyfnod o salwch.

 

Manylodd yr Harbwr Feistr ar y rhaglen waith cynnal a chadw. Nododd aelodau bod y mesurau rheoli o ran atal ceir rhag parcio ar y man storio cychod ym Mhorth y Gest wedi gwella’r sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran cysoni ffi Tollau Harbwr fel nad oedd gwahaniaeth rhwng Ffi Leol a Ffi Eraill, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig er bod cysoni o ran y ffi Tollau Harbwr, bod disgownt yn parhau i drigolion lleol o ran y ffioedd eraill. Nodwyd er bod cynnydd ffioedd Borth y Gest yn uwch na chwyddiant y credir ei fod yn rhesymol.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod galw am angorfeydd parhaol yn lleihau gyda nifer ymwelwyr yn cynyddu ac fe edrychir ar ffyrdd i ddenu mwy o gwsmeriaid. Cadarnhaodd yr Harbwr Feistr bod 76 unigolyn wedi cadarnhau angorfa barhaol a oedd gyfystyr a 50% o’r ddarpariaeth ar gael. Ychwanegodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod rhai unigolion ddim yn cadarnhau tan fis Mai.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: