Codi tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd â gosod tanc septig, a chreu mynediad gerbydol a ffordd fynediad newydd.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Selwyn Grifffiths
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Codi
tŷ preswyl deulawr pedair ystafell wely yng nghefn gwlad agored ynghyd a
gosod tanc septig, a chreu mynediad cerbydol a ffordd fynediad newydd.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli tu allan i’r ffin
datblygu ddiffiniedig ar gyfer ardal Porthmadog ac oherwydd hynny fe’i hystyrir fel safle yng nghefn gwlad.
Nodwyd bod paragraff 4.3.1 o Nodyn Cyngor Technegol (NCT) 6
‘Cynllunio ar gyfer Cymunedau Gwledig Cynaliadwy’ yn nodi mai un o’r ychydig
sefyllfaoedd ble gellir cyfiawnhau datblygiad preswyl
newydd ar ei ben ei hun yng nghefn gwlad agored oedd pan fod angen llety i
alluogi gweithwyr amaethyddol neu fenter wledig i fyw yn eu man gwaith neu’n
agos ato. Ymhelaethwyd y byddai p’un a yw hyn yn hanfodol ai peidio mewn unrhyw
achos penodol yn dibynnu ar anghenion y fenter wledig dan sylw, ac nid ar
ddewis nac amgylchiadau personol unrhyw un o’r unigolion cysylltiedig.
Amlygwyd bod cyfeiriad yn y cais, yn benodol o fewn y
Datganiad Dylunio a Mynediad yn ogystal â llythyrau o gefnogaeth, at ddefnydd
amaethyddol presennol y tir yn ogystal â chynllun busnes arfaethedig i newid
defnydd y tir ar gyfer busnes cynaliadwy newydd a defnydd o ran o’r tir gan
wasanaeth achub mynydd lleol. Nodwyd ni chyflwynwyd gwybodaeth yn cadarnhau yn
union sut fath o fusnes a fwriedir i’r Gwasanaeth Cynllunio.
Nodwyd serch hyn, ei fod yn ymddangos fod defnydd
amaethyddol sefydledig ar y tir, ac felly yn unol â gofynion NCT 6, pe byddai’r
cais ar gyfer tŷ i weithiwr amaethyddol neu fenter wledig llawn amser,
byddai angen cyflwyno gwybodaeth sy’n ymwneud a’r profion swyddogaethol, amser,
ariannol ac anheddau amgen er mwyn profi angen a chyfiawnhad am godi tŷ
yng nghefn gwlad agored. Nodwyd hefyd na ellir ystyried y tŷ i fod yn
dŷ fforddiadwy am y rhesymau a amlygwyd yn yr adroddiad.
Nodwyd y derbyniwyd llythyrau o gefnogaeth gan unigolion
lleol ac eraill i’r bwriad, rhoddwyd sylw llawn i’r holl faterion cynllunio
perthnasol a nodwyd yn y sylwadau a dderbyniwyd.
Tynnwyd sylw bod yr ymgeisydd wedi cyflwyno ymholiad
ffurfiol cyn cyflwyno cais ar gyfer y bwriad fel y dangosir o dan gyfeirnod
Y16/000248. Cadarnhawyd mewn ymateb ffurfiol ar y pryd y byddai bwriad o’r fath
yn groes i ofynion polisïau perthnasol ac na fyddai’r Awdurdod o ganlyniad, yn
gallu cefnogi’r cynnig.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod rheidrwydd i’r tŷ fod
ar y safle yma i reoli’r
fferm sefydledig gyda 90 erw o dir;
·
Bod paragraff 4.5.1 o NCT
6 yn nodi y gall fod yn briodol
a’i fod yn
angenrheidiol i’r tŷ fod ar
y safle er mwyn rheoli’r fferm
ar ei ffurf
bresennol a menter wledig arall;
·
Bod y bwriad yn dderbyniol o ran paragraffau 4.5.3 a 4.6 o NCT 6;
·
Bod adfail yn bresennol ar
safle’r cais;
·
Nad oedd risg llifogydd ar y safle;
·
Y byddai’r bwriad yn darparu
cartref i deulu a sicrhau parhad busnes teuluol
gan ddiwallu anghenion presennol a chenedlaethau’r dyfodol;
·
Bod Cyngor Tref Porthmadog a thrigolion lleol yn gefnogol.
(c) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol
gan yr aelod lleol
(nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn):-
·
Ei fod o blaid y datblygiad
gyda phrinder tai yn yr ardal oherwydd bod rhan fwyaf o Borthmadog
o fewn y parth llifogydd;
·
Cwestiynu os oedd y safle yng
nghefn gwlad gydag adeilad y tîm achub, gwaith diwydiannol a maes carafanau
gerllaw;
·
Bod y dyluniad yn dderbyniol
a’r maint yn gwneud synnwyr ar gyfer teulu o 5;
·
Byddai’r bwriad yn darparu
cartref parhaol i deulu lleol;
·
Y byddai’r fenter wledig yn
creu gwaith i bobl leol ac yn golygu buddsoddiad i’r ardal;
·
Ei fod yn hanfodol i sicrhau
parhad y fferm a chreu menter wledig newydd;
·
Bod yr ymgeisydd yn fodlon
derbyn Cytundeb 106 ar y tŷ;
·
Fe ddylai’r Gwasanaeth
Cynllunio geisio gwybodaeth gan yr ymgeisydd o ran y
fenter wledig os nad oedd y wybodaeth yn ddigonol;
·
Bod yr ymgeisydd wedi cysylltu
efo Tai Teg tair gwaith ond ni dderbyniwyd ymateb;
·
Bod 3 opsiwn i’r Pwyllgor
ystyried - un ai caniatáu’r cais, cynnal ymweliad safle neu ohirio er mwyn
sicrhau bod pob ffynhonnell wedi ei ddilyn o ran NCT 6.
(ch) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod nododd y Rheolwr Cynllunio:
·
Yn unol â gofynion NCT 6 roedd
rhaid profi’r angen a chyfiawnhad am godi tŷ yng nghefn gwlad agored;
·
Pe bai angen yn cael ei brofi
am dŷ menter gwledig newydd yn unol â NCT 6 ei bod yn bosib i’r ymgeisydd
dderbyn hawl i leoli siale ar safle priodol am dair
blynedd yn y lle cyntaf er mwyn cael cyfle i sicrhau bod y fenter yn hyfyw;
·
Nid oedd y cais a gyflwynwyd
gan yr ymgeisydd yn nodi ei fod am dŷ amaethyddol/ menter wledig newydd
felly ni aethpwyd ar ôl mwy o wybodaeth. Pe byddai’r cais a gyflwynwyd yn
cyfeirio yn benodol at yr elfen yma fe fyddai’r Gwasanaeth Cynllunio wedi gofyn
am fwy o wybodaeth.
·
Bod Tai Teg wedi nodi nad oedd
yr ymgeisydd wedi cysylltu â nhw;
·
Bod maint y tŷ hefyd yn
ystyriaeth faterol gydag arwynebedd llawr mewnol y tŷ yn 225m2.
(d) Cynigwyd
ac eiliwyd i ohirio’r cais er
mwyn derbyn mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd
er mwyn sefydlu
os yw’r bwriad
yn dŷ
amaethyddol neu yn dŷ ar
gyfer menter wledig newydd.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod maint y tŷ yn rhy
fawr;
·
Er tegwch, yr angen i
dderbyn gwybodaeth am y fenter wledig newydd
er mwyn asesu
hyfywdra’r datblygiad;
·
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd oedd
cyflwyno gwybodaeth i gefnogi cais
a’r angen i ddilyn y system bwyntiau amaethyddol neu fel arall
y byddai’n dŷ
newydd yng nghefn gwlad.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn derbyn mwy o wybodaeth gan yr ymgeisydd er mwyn sefydlu os yw’r bwriad yn dŷ amaethyddol neu yn dŷ ar gyfer menter wledig newydd.
Dogfennau ategol: