Newid defnydd adeilad o gartref nyrsio i lety myfyrwyr gyda 31 ystafell wely a cyfleusterau rheoli.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Lesley Day
Dolen
i’r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Newid
defnydd adeilad o gartref nyrsio i lety myfyrwyr gyda 31 ystafell wely a
chyfleusterau rheoli.
(a)
Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir
y cais, gan nodi bod y safle wedi ei leoli
mewn ardal defnydd cymysg o Fangor
Uchaf, oddeutu 250m o brif adeilad Prifysgol Bangor gyda Stiwdio Bryn Meirion y
BBC gerllaw a neuaddau preswyl y Brifysgol gyferbyn.
Cyfeiriwyd at wrthwynebiad Cyngor Dinas Bangor i’r bwriad oherwydd y
byddai’n gor-ddatblygiad o'r safle, bod cyfleusterau tebyg
eisoes yn y cyffiniau ac fe fyddai’n cynhyrchu rhagor o drafnidiaeth, sŵn
ac ymyrraeth i drigolion.
Eglurwyd nad oedd polisi penodol yn y CDUG yn ymdrin gyda datblygiad o’r
math penodol yma ond roedd polisi C4 yn cefnogi cynlluniau i addasu adeiladau
i’w hail-ddefnyddio at ddibenion addas.
Nodwyd bod yr adeilad wedi ei ddefnyddio, tan Chwefror 2016, fel cartref
henoed ar gyfer 31 preswylydd ac wrth ystyried bod defnydd o'r fath olygu cryn
symudiadau traffig o safbwynt staff, teuluoedd a chefnogaeth feddygol, gan
gynnwys gweithgarwch gyda'r nos, ni ystyrir y byddai defnydd gan fyfyrwyr yn
arwyddocaol wahanol o safbwynt symudiadau ceir neu oriau ymyrraeth.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan nodi bod yr
Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd wedi asesu’r
Datganiad Ieithyddol ac yn nodi ar
y cyfan, ystyrir bod natur Bangor, o ran maint y boblogaeth, patrwm ieithyddol y dref, yr amrywiaeth o wasanaethau a’r cyfleusterau ar gael yno yn
golygu na ddylai’r datblygiadau gael effaith andwyol
sylweddol ar yr iaith Gymraeg.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol
o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b)
Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod y cwmni teuluol efo nifer
o lety myfyrwyr ym Mangor ac wedi
ystyried yn fanwl os mai
dyma’r defnydd gorau o’r adeilad;
·
Bod canran isel o’r galw
yn cael ei
ddiwallu o ran llety o’r fath ym
Mangor;
·
Y bwriedir llunio cynllun rheolaeth ar gyfer
y safle;
·
Byddai’r bwriad yn lleihau’r
pwysau o ran troi tai yn dai mewn
aml ddeiliadaeth;
·
Byddai’r bwriad yn diogelu’r
adeilad ac fe fyddai llai o fynd
yn ôl ac ymlaen o ystyried defnydd blaenorol y safle;
·
Bod les mewn bodolaeth o ran llefydd parcio i staff y BBC ar y safle ac nid
oedd bwriad i newid y trefniant
yma.
(c) Gwrthwynebwyd y cais gan yr aelod
lleol (nad oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio
hwn) a gwnaed y prif bwyntiau canlynol ganddi:-
·
Bod y safle wedi ei leoli mewn
ardal breswyl ac fe fyddai’r datblygiad yn cael effaith negyddol ar yr ardal;
·
Bod gorddarpariaeth o lety
myfyrwyr yn ward Garth;
·
Pryder o ran gwastraff ac ail-gylchu gyda phroblemau’n bodoli eisoes yn yr ardal a’i bod
wedi cyflwyno Rhybudd o Gynnig i gyfarfod y Cyngor Llawn ar 3 Mawrth 2017 yng
nghyswllt y mater;
·
Bod canran sylweddol o
deuluoedd Cymraeg iaith gyntaf yn yr ardal ac fe fyddai’r bwriad yn cael
effaith negyddol ar yr iaith;
·
Bod diffyg llefydd parcio;
·
Gofyn i’r ymgeisydd ail-edrych
ar y bwriad er mwyn darparu unedau hunangynhaliol ar gyfer pobl leol;
·
Na fyddai mwynderau’r
gymdogaeth leol yn cael eu gwarchod;
·
Pryder o ran effaith ymddygiad
gwrthgymdeithasol.
(ch) Cynigwyd
ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod gwell bod defnydd o’r adeilad
a oedd yn ddarpariaeth llety eisoes gyda rhagdybiaeth
y caniateir ceisiadau efo amodau priodol;
·
Byddai’r bwriad yn lleihau’r
pwysau o ran troi tai yn dai mewn
aml ddeiliadaeth;
·
Pryder y byddai teuluoedd Cymraeg yn symud o’r
ardal oherwydd cynnydd yn y niferoedd
o fyfyrwyr gyda chanran sylweddol yn y ward eisoes;
·
Yr angen i dderbyn mwy
o adroddiadau technegol. A oedd yr
ardrawiad iaith yn dangos niwed
arwyddocaol?
·
Yn gwrthwynebu tai aml ddeiliadaeth mewn strydoedd ond nid oedd
cais hwn yr un sefyllfa;
·
Tra’n cydymdeimlo efo sylwadau’r Aelod Lleol roedd
rhaid bod yn pragmataidd gan fyddai rhyw fath
o ddarpariaeth llety ar y safle a ni fyddai’n ail agor fel cartref
preswyl.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y Rheolwr
Cynllunio bod myfyrwyr yn yr ardal eisoes, yr angen i ddarparu amrediad o lety
gwahanol a bod yr Uned Polisi Cynllunio ar y Cyd yn nodi na fyddai niwed
arwyddocaol o ran yr iaith.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser
2. Yn unol â’r cynlluniau
3. Rhaid
cyflwyno a chytuno’r cynllun rheolaeth safle o flaen
llaw gyda’r Awdurdod Cynllunio Lleol
4. Cyfleusterau parcio yn unol â’r
cynlluniau.
5. Rhaid sicrhau bod y llwybr troed i Ffordd y Coleg yn cael ei
gwblhau cyn i'r defnydd ddechrau
Nodiadau:
1. Priffyrdd
2. Dŵr Cymru
Dogfennau ategol: