skip to main content

Agenda item

Caffi Porthdinllaen, Lon Golff, Morfa Nefyn LL53 6BE 

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 5 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr James Munday (ymgeisydd) a Mrs Wena P Williams

 

            Eraill a wahoddwyd:                Mr Ian Williams ( Heddlu Gogledd Cymru)

 

Mr Peter Jones, Mrs Hazel Pielow, Mr T Gareth Gruffydd, Mr Idris Williams, Mrs Shan Gruffydd, Mr Tony Connelly, Mrs Dolwen Williams

 

a)                    Adroddiad ac argymhelliad yr Adain Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo o’r newydd ar gyfer Caffi Porthdinllaen, Lon Golff, Morfa Nefyn mewn perthynas â chyflenwi  alcohol ar ac oddi ar yr eiddo o hanner dydd tan 11 yr hwyr, pob dydd a chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio ar yr eiddo. Bydd darpariaeth cludo archebion bwyd oddi ar yr eiddo yn cael ei gynnig ac fe fydd archebu alcohol gyda’r archeb bwyd yn rhan o’r cynnig. Amlygywd bod yr eiddo yn gaffi sydd yn agored tan yn hwyr yn y prynhawn, gydag ardal allanol ar gyfer cwsmeriaid.   

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod ugain o lythyrau / e-byst wedi eu derbyn, gyda 19 yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu. Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd gan yr Aelod Lleol, Cyngor Tref Nefyn a thrigolion lleol yn yr adroddiad. Amlygwyd bod rhai o’r gwrthwynebiadau yn cynnwys pryderon am ddarpariaeth parcio, problemau parcio ar y ffordd gul ynghyd a chynnydd mewn traffig. Nid oedd ymateb wedi ei dderbyn gan yr Uned Trafnidiaeth i’r pryderon hyn.

 

Mewn ymateb i sylwadau am ddigwyddiadau gwrthgymdeithasol a phryderon sŵn, nodwyd nad oedd Gwasanaeth Iechyd a Diogelwch Amgylchedd wedi derbyn cwynion swyddogol am hyn na chwynion am effaith goleuo hwyr y nos a gwaredu gwastraff. Nodwyd Swyddog ar ran yr Heddlu nad oedd cofnod o ddigwyddiad gwerthgymdeithasol wed ei gofnodi ganddynt.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategodd y sylwadau canlynol:

·      Nad oedd bwriad agor y caffi / bwyty yn hwyrach na 9pm (digwyddiadau penodol yn unig)

·      Nad oedd bwriad rhedeg y caffi / bwyty fel tafarn - bwyty gyda naws deuluol ydoedd

·      Bwriad y cais am drwydded oedd cynnig alcohol gyda bwyd a byddai  alcohol yn cael ei werthu oddiar yr eiddo gydag archeb bwyd yn unig

·      Ei fod wedi cynnal trafodaethau gydag Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd a chytuno 6 amod oedd yn cael eu hargymell i reoli sŵn

·      Nad oedd bwriad cael unedau sain tu allan i’r eiddo

·      Bod cais cynllunio wedi ei gyflwyno yn cynnwys 7 lle parcio a lle troi – y cais heb ei gymeradwyo, ond y cynllun yn ymateb i safonau cenedlaethol. (Amlygodd hefyd bod ganddo hawl mynediad i gaeau ffiniol petai angen ymestyn).

·      Bod gobaith i’r Cyngor ail beintio llinellau dwbl melyn ar y ffordd

·      Ei fod eisoes wedi trafod y system cludo bwyd gyda Swyddog o’r Heddlu

·      Nad oedd bwriad gwerthu gwinoedd rhad a gweithredu fel siop drwyddedig

·      Bod yr eiddo, er yn ymddangos fel caban pren wedi ei insiwleiddio i ansawdd tŷ cyffredin - y byddai yn hapus i’r Uned Iechyd yr Amgylchedd fonitro a gwirio hyn

·      Cerddoriaeth wedi ei recordio yn unig fydd yn cael ei chwarae yn yr eiddo

·      Ei fod wedi cael sgwrs gyda’r Aelod Lleol i drafod ei phryderon ynglŷn â’r cais.

 

Cyflwynwyd a darllenwyd sylwadau diweddar gan yr Aelod Lleol o ganlyniad i’r drafodaeth.

 

Cafodd yr amodau sŵn a oedd wedi eu hargymell gan yr Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd, eu darllen allan gan y Rheolwr Trwyddedu.

 

Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar eu gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

 

·         Y byddai lefelau sŵn yn cynyddu ar ddigwyddiadau arbennig

·         Ffordd heibio i’r caffi yn gul – pryderon y bydd damweiniau

·         Bod y caeau cyfagos angen eu draenio cyn y gellid eu defnyddio ar gyfer parcio

·         Angen sicrhau bod yr adeilad yn cydymffurfio gydag amodau cynllunio e.e., darpariaeth toiledau

·         Angen sicrhau bod cwsmeriaid yn ymadael am 9:30pm heb alcohol

·         Pryder o’r sŵn fydd yn cario o ardal y decin a’r toiledau allanol - terfyn y caffi yn ffinio a thai preswylwyr

·         Gormod o safleoedd gwerthu alcohol yn y pentref

·         Parcio yn bryder – ardal beryglus iawn – pa fesurau fydd yn cael eu cymryd?

·         Bod angen bod yn synhwyrol wrth ystyried pryderon sŵn

 

ch)       Cydnabuwyd llythyrau oedd wedi eu derbyn yn datgan gwrthwynebiad i’r cais gan David a Hayley Slater, John Wainwright, Christine Archbell,  S H Hall, Virginia Kay, Jayne Burrell, Derek Hollinrake, Rogel Ellwood, Andy Spencer ac  Wyn a Bethan Hughes

 

d)         Nododd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan Heddlu Gogledd Cymru unrhyw dystiolaeth fyddai yn eu galluogi i wrthwynebu’r cais. Ers i’r caffi fod mewn bodolaeth (2007), nid oedd cwyn wedi ei gyflwyno. Nododd ei fod wedi trafod y cais gydag Mr Mundy a bod awgrymiadau ac amodau wedi eu cynnig. O ran anfon alcohol allan gyda bwyd amlygwyd y byddai modd i’r Heddlu weithredu prawf bryniant i sicrhau bod Her 25 yn cael ei weithredu. Argymhellwyd i’r trigolion gyflwyno cwynion llygredd sŵn fel bod modd gweithredu arnynt.

 

dd)      Wrth grynhoi ei gais, amlygodd yr ymgeisydd ei barodrwydd i gydweithio gyda’r gymuned leol  a’r trigolion. Nododd mai ceisio gwella ac addasu'r caffi oedd ei fwriad fel bwyty. Ategodd y byddai yn barod i gydweithio gyda’r Uned Drafnidiaeth, a Swyddog yr Amgylchedd petai cwynion sŵn yn cael eu cyflwyno.

 

e)         Wrth ystyried y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

 

           Trosedd ac Anhrefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais.

 

1.    Caniatáu cyflenwi alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo, o ddydd  Llun i ddydd Sul rhwng 12:00 (hanner dydd) a 23:00.

2.    Caniatáu chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio o dan do yn unig, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 08:00 a 21:00.

3.    Oriau agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 08:00 a 23:30

4.    Materion oedd wedi eu cynnwys yn rhan M o’r cais yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.

5.    Ychwanegu amod bod clipiau teledu cylch cyfyng yn cael eu cadw am o leiaf 28 diwrnod ac ar gael ar alwr Awdurdod Trwyddedu a’r Heddlu.

6.    Ychwanegu amodau rheoli sŵn a awgrymwyd gan Iechyd Amgylcheddol ac a gytunwyd iddynt

7.    Ychwanegu amod bod polisi gwasgaru cwsmeriaid ar ddiwedd noson yn cael ei lunio a’i gynnal

8.    Ychwanegu amod bod yr Heddlu yn cael gwybod o fewn 14 diwrnod ymlaen llaw os oedd bwriad cynnal parti hwyr ar yr eiddo, h.y. ar ôl 21:00.

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i sylwadau ynglŷn â'r pryderon canlynol:

 

Ymddygiad gwrthgymdeithasol

 

Ystyriwyd sylwadau ysgrifenedig yr aelod lleol, y Cynghorydd Siân Hughes, bod digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol wedi bod yn y maes parcio gyferbyn â'r eiddo yn y gorffennol. Mynegwyd pryder o gynnydd mewn ymddygiad gwrthgymdeithasol gan Virginia Kay a Jayne Burrell yn ogystal.

 

Tra bod yr Is-bwyllgor wedi derbyn bod digwyddiadau o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn y gorffennol ac y gall fod yn berthnasol i'r amcan trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn, ni chafwyd manylion yn nhermau dyddiadau, nifer, hyd na tharddiad y digwyddiadau. Heb  wybodaeth nid oedd modd i'r Is-bwyllgor ddod i gasgliad a oedd y problemau hanesyddol mor ddifrifol nes eu bod yn cynrychioli problem trosedd ac anhrefn y gellid ei briodoli gyda'r eiddo, nac yn sail i ragweld cynnydd yn y broblem pe rhoddwyd y drwydded.

 

Yn unol â gofynion y Swyddfa Gartref  rhaid i’r Is-bwyllgor ystyried sylwadau'r Heddlu cyn dod i gasgliad os yw problem trosedd ac anhrefn yn debygol o godi os caniateir y drwydded. Cadarnhaodd yr heddlu nad oeddynt yn gwrthwynebu'r cais gan nad oedd hanes o ymddygiad gwrthgymdeithasol ynghlwm â'r eiddo oedd mor ddifrifol nes ei fod yn cynrychioli problem o drosedd ac anhrefn. O ganlyniad roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws a'r amcan trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn.

 

Problemau sŵn

 

Cyflwynwyd pryderon gan sawl un y byddai caniatáu trwydded yn golygu cynnydd mewn sŵn - dyluniad anaddas y cwt ar gyfer chwarae cerddoriaeth uchel, sŵn poteli, sŵn pobl a sŵn ceir.

 

Derbyniodd yr Is-bwyllgor bod y pryderon sŵn yn rhai priodol ac y gallant mewn egwyddor fod yn berthnasol i'r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus.

 

Fodd bynnag roedd yr Is-bwyllgor o'r farn bod y sylwadau yn ddamcaniaethol ac nad oedd sail i dystiolaeth o'r gorffennol bod y problemau sŵn yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus. Amlygwyd petai’r problemau sŵn yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus, byddai'r Is-bwyllgor wedi disgwyl cwynion ym meddiant Iechyd Amgylcheddol.

 

Cafodd yr Is-bwyllgor eu cynghori gan y Cyfreithiwr ar yr hyn oedd yn cael ei ystyried fel niwsans cyhoeddus o dan gyfraith gwlad. Nid yw niwsans cyhoeddus yn gyfystyr ag anghyfleustra. Diffinnir niwsans cyhoeddus fel yr hyn sy'n dod o ganlyniad i weithred sydd ddim yn cael ei ganiatáu gan y gyfraith neu fethiant i gwblhau dyletswydd gyfreithiol, "...if the effect of the act or omission is to endanger the life, health, property or comfort of the public, or to obstruct the public in the exercise or enjoyment of rights common to all Her Majesty's subjects." Cyfeiriwyd at achos NCB v Thorne [1976] 1 WLR 543: "a public nuisance [is] an act or omission which materially affects the material comfort and quality of life." Cyfeiriwyd  hefyd at R v Rimmington [2005] UKHL 63 am y "...requirement of common injury", h.y. bod angen i gyfran sylweddol o'r cyhoedd gael ei effeithio. Nid yw'n ddigon sefydlu bod niwed wedi ei achosi i unigolion penodol.

 

O dan yr amgylchiadau nid oedd yr Is-bwyllgor yn fodlon ar ansawdd y dystiolaeth bod unrhyw broblem sŵn sydd yn deillio o'r eiddo yn cyrraedd y diffiniad cyfreithiol o "niwsans cyhoeddus".

 

Llygredd golau

 

Cyflwynodd yr aelod lleol a Mrs Burrell bryder y byddai rhoi'r cais yn arwain at lygredd golau.

 

Cydnabuwyd bod llygredd golau yn gallu bod yn berthnasol i'r amcan o atal niwsans cyhoeddus, fodd bynnag ni dderbyniwyd tystiolaeth y byddai goleuadau ychwanegol yn cael ardrawiad difrifol nac  yn cael effaith debygol ar iechyd cyhoeddus.

 

Problem gwastraff

 

Cyflwynodd yr aelod lleol bryder y byddai rhoi'r cais yn cynhyrchu rhagor o wastraff.

 

Fel gyda sŵn a goleuo, cydnabuwyd y gall gwastraff fod yn berthnasol i'r amcan o atal niwsans cyhoeddus. Fodd bynnag, heb dystiolaeth i law o lefelau tebygol o'r gwastraff fyddai'n cael ei gynhyrchu pe rhoddid y drwydded, nid oedd yr Is-bwyllgor mewn sefyllfa i ystyried y byddai peidio caniatáu'r drwydded yn cynhyrchu problem gwastraff bellach.

 

Traffig / parcio

 

Cyflwynwyd sylwadau a phryderon gan y Cyngor Tref, yr aelod lleol, Mr a Mrs Gruffydd, Mr Wainwright, Mrs Archbell, Mrs Burrell, Derek Hollinrake, Hazel Pielow ac Andy Spencer y byddai caniatáu'r drwydded yn arwain at gynnydd mewn traffig a galw am barcio fyddai yn peri risg i ddiogelwch y cyhoedd.

 

Derbyniwyd bod y pryderon hyn yn berthnasol i'r amcan trwyddedu o warchod diogelwch cyhoeddus. Fodd bynnag, nid oedd yr Is-bwyllgor yn argyhoeddedig bod tystiolaeth mewn cynnydd sylweddol o draffig at ac o'r eiddo yn ganlyniad o ganiatáu trwydded. Nodwyd na chyflwynwyd unrhyw sylwadau gan yr Heddlu nag Adran Priffyrdd Cyngor Gwynedd yn mynegi pryderon am ddiogelwch ffordd. O ganlyniad roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon na fyddai'r cais yn uniongyrchol yn peri niwed i ddiogelwch cyhoeddus.

 

Diogelu plant rhag niwed

 

Cyflwynodd Mrs Burrell sylwadau yn pryderu y byddai newid yr eiddo o fod yn gaffi teuluol ei naws i eiddo yn gwerthu alcohol yn peri niwed i blant. Nid oedd yr Is-bwyllgor yn cytuno gyda’r datganiad yma gan ei bod yn gyffredin iawn bellach i dafarndai a llefydd trwyddedig eraill fod yn agored i deuluoedd gan gynnwys plant. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr ymgeisydd yn bwriadu cymryd camau priodol fyddai'n diogelu plant rhag unrhyw niwed, e.e. atal yfed dan-oed drwy bolisi 'her 25'.

 

Materion amherthnasol - Diystyriwyd rhai sylwadau / pryderon ar y sail nad oeddent yn berthnasol i'r amcanion trwyddedu.

 

Codwyd pryderon amrywiol ynglŷn â statws cynllunio'r adeilad. Nodwyd bod caniatâd cynllunio gwreiddiol y caffi wedi ei neilltuo i unigolyn gydag amod fod yr adeilad i gael ei ddymchwel a'i adfer i ddefnydd amaethyddol ar ymadawiad yr unigolyn o’r adeilad. Nodwyd hefyd bod yr oriau agor arfaethedig yn hirach na'r oriau tymhorol Ebrill i Hydref oedd wedi ei ganiatáu yn y caniatâd cynllunio. Nodwyd hefyd bod y toiled tu allan i'r prif adeilad. Amlygwyd mai materion cynllunio oeddynt ac felly yn amherthnasol  i'r amcanion trwyddedu.

 

Diystyrwyd hefyd y sylw bod darpariaeth ddigonol o weithgareddau trwyddedig yn yr ardal. Amlygwyd bod Deddf Trwyddedu 2003 yn nodi nad yw darpariaeth leol yn ystyriaeth berthnasol o dan gyfraith trwyddedu alcohol ac adloniant. Mynegwyd pryder y byddai caniatáu'r drwydded yn arwain at ostyngiad ym mhris eiddo cyfagos - nid oedd yn fater perthnasol i unrhyw un o'r amcanion trwyddedu a cafodd y sylw ei ddiystyru.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws a'r oll amcanion trwyddedu a phenderfynwyd  caniatáu’r drwydded.

 

Nodwyd mai trwydded o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003 oedd yn cael ei chaniatáu ac y byddai angen i’r ymgeisydd wneud cais i ddiwygio caniatâd cynllunio ar gyfer yr eiddo er mwyn ei ddefnyddio tu allan i’r oriau a ganiatawyd o dan amodau cynllunio.

 

 

 

Dogfennau ategol: