Gŵyl Awyr
Agored Eryri, Fferm Gwern Hefin, Llanycil, Bala, LL23 7YH
I ystyried y cais uchod
Cofnod:
Cyflwynwyd y panel
a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10
munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.
Ar ran yr eiddo: Mr
Brian Welts (CTM Brand Events),
Mr Will Johnson (CTM Brand Events) a Ms Nicola Meadley (Brand Event Ltd)
Eraill
a wahoddwyd: Mr Ian
Williams ( Heddlu Gogledd Cymru)
Mr
Euron Thomas (Uwch Swyddog Iechyd Amgylchedd, Gwarchod y Cyhoedd – Cyngor
Gwynedd)
Cynghorydd
Elwyn Edwards – Aelod Lleol
a)
Adroddiad ac
argymhelliad yr Adain Trwyddedu
Cyflwynwyd
adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Gŵyl
Agored Eryri, Fferm Gwern Hefin, Llanycil, Y Bala gan Brand Events
TM Ltd, 4, Vencourt Place,
Llundain.
Gwnaed y cais mewn
perthynas â chyflenwi alcohol, chwarae
cerddoriaeth wedi ei recordio, cerddoriaeth fyw perfformiadau dawns, dangos
ffilmiau a dramâu ynghyd ac unrhyw adloniant arall a chyflenwi lluniaeth hwyr y
nos ar ddydd Gwener, Sadwrn a Sul. Amlygwyd y byddai’r Ŵyl yn cael ei
chynnal dros un penwythnos yn flynyddol ar yr eiddo, petai'r drwydded yn cael
ei chaniatáu.
Tynnwyd sylw at
fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr
Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â
gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.
Cyfeiriwyd at y
mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu
ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.
Nodwyd bod pump o
lythyrau / e-byst wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion
trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus a diogelwch cyhoeddus. Tynnwyd sylw at y
sylwadau a’r argymhellion a gyflwynwyd gan yr Heddlu, y Gwasanaeth Tan ac
Achub, Awdurdod Cynllunio Parc
Cenedlaethol Eryri, Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd a Swyddog Uned
Bwyd ac Iechyd a Diogelwch, Iechyd Amgylchedd Cyngor Gwynedd.
Ategwyd bod y
trefnwyr wedi bod mewn cysylltiad gyda’r ymatebwyr i geisio
datrys y pryderon a nodwyd y byddai'r gerddoriaeth fyw yn dod i ben am 22:30; y
byddai ffens diogelwch yn amgylchynu’r safle gyda goruchwyliaeth i sicrhau na
fyddai neb sy'n mynychu’r Ŵyl yn tramwyo ar eiddo cyfagos. Amlygwyd ers
i’r adroddiad gael ei gyhoeddi bod 4 allan o’r 5 gwrthwynebydd wedi tynnu eu
sylwadau yn ôl yn swyddogol yn dilyn trafodaethau cymodi gyda’r ymgeisydd.
Cadarnhawyd bod
Swyddog Iechyd a Diogelwch yn fodlon bod Cynllun Rheoli Digwyddiad wedi ei gwblhau ac ategodd Uwch Swyddog Iechyd
Amgylchedd bod sawl trafodaeth wedi eu cynnal ar faterion sŵn, gyda
chytundeb i gynnwys amodau sŵn priodol yn y cais.
Nododd y Cadeirydd
bod yr adroddiad yn un cynhwysfawr a diolchwyd i bawb am gydweithio i geisio datrys y pryderon. Mewn ymateb i sylw pam nad oedd
Caeau Rhiwlas ar gael ar gyfer y digwyddiad (safle sydd wedi arfer a chynnal
digwyddiadau mawr), amlygodd yr Aelod Lleol nad oedd y caeau ar gael oherwydd
newid mewn dull amaethu.
b)
Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r
ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr
Trwyddedu.
·
Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais
·
Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau
·
Gwahoddwyd deilydd y
drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i ddeilydd y drwydded.
·
Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn
cwestiynau i’r ymgynghorai
c)
Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeiswyr eu
bod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei
gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:
·
Eu bod yn cydweithio gydag arbenigwyr i sicrhau bod
pryderon traffig yn cael eu diwallu
·
Y byddai cyflymder yn cael ei gyfyngu i 30mya cyn belled ag sydd yn bosibl
·
Nad oedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn gan yr Uned
Drafnidiaeth
·
Y byddai bws yn cael ei ddarparu gan gwmni lleol i
gludo pobl o’r dref at y safle
·
Bod llwybr traed a llwybr beics addas i gyrraedd y
safle
·
Eu bod yn cadarnhau y byddai cerddoriaeth fyw yn
dod i ben am 22:45 yn lle 23:00
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â goleuadau yn tarfu, nodwyd y byddai goleuadau diogelwch
isel ar y safle drwy’r
nos ond y byddai’r llifolau yn cael ei
ddiffodd unwaith y byddai pobl wedi ymadael a’r safle.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn ag ymwelwyr i’r Wŷl yn cronni yn y twnnel tanddaearol fydd ar
gael o’r maes parcio i’r safle, amlygwyd y byddai stiwardiaid ar gael i
hwyluso'r drefn ar yr amseroedd prysuraf. Ategwyd y byddai angen sicrhau bod
arwynebedd y llwybrau cerdded yn llyfn. Cadarnhawyd y byddai stiwardiaid ar
gael drwy’r amser yn y meysydd parcio gyda chyswllt
radio i ymateb i unrhyw broblemau fyddai’n codi.
ch) Cydnabuwyd y llythyr oedd
wedi ei dderbyn yn datgan gwrthwynebiad i’r cais gan Mr Ivor Jones – roedd y gwrthwynebiadau eraill wedi cael eu tynnu yn ôl yn swyddogol.
d)
Nododd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan Heddlu
Gogledd Cymru unrhyw dystiolaeth fyddai yn eu galluogi i wrthwynebu’r cais.
Nododd y prif sylwadau canlynol:
·
Bod cynllun rheoli eisoes wedi ei gyflwyno - hyn
i’w groesau
·
Bod y cais yn un trylwyr – wedi ei gyflwyno yn dda
·
Eu bod wedi cysylltu ag Awdurdod Cumbria i wneud ymholiadau ynglŷn â sut roedd y cwmni
yn rhedeg yr Ŵyl yno
·
Bod trafodaethau eisoes wedi cu cynnal gyda Phrif
Arolygydd yr ardal ynglŷn â threfniadau.
Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â’r effaith cronni yn y twnnel
tanddaearol, cadarnhaodd y swyddog y byddai yn sicrhau bod y pryder yma yn cael
i drafod yn y cyfarfod diogelwch.
dd)
Nododd Uwch Swyddog
Iechyd Amgylchedd nad oedd gan yr Adran bryderon ynglŷn â niwsans sŵn
gan fod cynllun rheoli sŵn wedi ei gynnwys yn y cais a bod cerddoriaeth i
ddod i ben cyn 22:45 (sydd yn fuan iawn o gymharu â cheisiadau eraill).
Amlygwyd nad sŵn oedd ffocws y digwyddiad. Ategwyd bod trafodaethau manwl
wedi eu cynnal gydag arbenigwyr sŵn a
bod yr amodau wedi eu derbyn. Byddai lefelau sŵn yn cael eu monitro
o 4 safle gwahanol drwy gydol yr Ŵyl gydag adroddiadau yn cael eu cyflwyno
i’r Uned Amgylchedd. Nodwyd bod y cais o ansawdd uchel a bod hyn i’w
groesau ynghyd a derbyn dogfennau ymlaen llaw.
e)
Yn derbyn gwahoddiad gan y Cadeirydd i gyflwyno ei
sylwadau nododd yr Aelod Lleol ei fod wedi mynychu cyfarfod gyda’r ymgeisydd
a'i fod yn eu llongyfarch ar yr adroddiad manwl. Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn
â defnydd o’r iaith Gymraeg, nododd yr ymgeisydd eu bwriad o gydweithio gyda
chwmni Ceidiog i hyrwyddo'r Gymraeg ac wedi trefnu cyfieithu manylion yr Ŵyl
ar eu gwefan. Bydd pob datganiad i’r wasg yn ddwyieithog. Mewn ymateb i
gwestiwn ynglŷn â defnyddio mudiadau lleol i gefnogi’r fenter nodwyd bod
trafodaethau eisoes wedi eu cynnal gyda nifer o fudiadau lleol, y swyddfa
dwristiaeth a chynrychiolydd masnachwyr y dref ac yng nghyd-destun darparwyr
bwyd, bydd gwahoddiad i ddarparwyr lleol yn y lle cyntaf.
Mynegodd y
Cynghorydd ei fod yn hapus gyda’r ymatebion ac nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r
fenter.
f)
Wrth ystyried y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth
a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003
• Trosedd ac Anrhefn
• Diogelwch y Cyhoedd
• Rhwystro Niwsans Cyhoeddus
• Amddiffyn Plant rhag Niwed
PENDERFYNWYD
caniatáu y cais yn ddarostyngedig
i amodau ychwanegol:
Rhoddwyd y drwydded fel a ganlyn:
·
Caniatáu cyflenwi alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr
eiddo, o ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
·
Caniatáu cerddoriaeth fyw dan do ac awyr agored, o
ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 22:45.
·
Caniatáu chwarae cerddoriaeth wedi ei recordio dan
do ac awyr agored, o ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
·
Caniatáu perfformiadau dawns dan do ac awyr agored,
o ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
·
Caniatáu dramâu dan do ac awyr agored, o ddydd
Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
·
Caniatáu ffilmiau dan do ac awyr agored, o ddydd
Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
·
Caniatáu adloniant arall dan do ac awyr agored, o
ddydd Gwener i ddydd Sul rhwng 10:00 a 00:00.
·
Caniatáu darparu lluniaeth hwyr yn nos dan do ac
awyr agored, o ddydd Gwener i ddydd Llun rhwng 23:00 a 01:00.
·
Byddai’r materion oedd wedi eu cynnwys yn rhan M
o’r cais yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.
·
Bod yr amodau rheoli sŵn a awgrymwyd gan
Iechyd Amgylcheddol yn cael eu hymgorffori fel amodau ar y drwydded, gyda
diwygiad i gyfarch cerddoriaeth fyw yn darfod am 22:45.
Wrth gyrraedd eu
penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor y ffurflen gais ynghyd â sylwadau
ysgrifenedig yr Heddlu, y Gwasanaeth Tân, Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri,
Uned Iechyd Amgylcheddol Cyngor Gwynedd, Mr Ifor Jones ac adroddiad y swyddog
trwyddedu. Ystyriwyd sylwadau llafar pawb oedd yn bresennol yn y gwrandawiad yn
ogystal â pholisi trwyddedu’r Cyngor ac arweiniad y Swyddfa Gartref.
Wrth ystyried
sylwadau Mr Ifor Jones a oedd yn mynegi pryderu byddai caniatáu'r drwydded yn
arwain at gynnydd mewn sŵn a thraffig yn yr ardal derbyniodd yr Is
Bwyllgor bod sŵn yn gallu bod yn berthnasol i’r amcan o atal niwsans
cyhoeddus, ond nid oedd tystiolaeth wedi dod i law bod caniatáu'r drwydded yn
debygol o arwain at broblem sŵn a niwsans cyhoeddus. Gyda’r gerddoriaeth
fyw yn dod i ben am 22:45 dros gyfnod o un penwythnos yn y flwyddyn, ni
fyddai’r sŵn yn hwyr a rheolaidd ac felly
ni ystyriwyd ei fod yn sail i honni y byddai caniatáu'r drwydded yn arwain at niwsans cyhoeddus fel
y’i diffinnir yn gyfreithiol. Nododd yr Is-bwyllgor ei siom nad oedd Mr Jones
yn bresennol yn y gwrandawiad i ymhelaethu ar ei sylwadau.
Wrth i’r Is
Bwyllgor ystyried y gall traffig fod yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o
warchod diogelwch cyhoeddus nid oedd yr Is-bwyllgor o’r farn
y byddai caniatáu'r drwydded yn golygu cynnydd
mewn traffig a fyddai’n peri niwed i ddiogelwch cyhoeddus. Ni
chyflwynwyd tystiolaeth o broblemau traffig oddi wrth Adran Priffyrdd Cyngor
Gwynedd na’r Heddlu. Nodwyd hefyd bod ardal y Bala wedi arfer cynnal
digwyddiadau mawr yn y gorffennol - fel yr Eisteddfod Genedlaethol a’r Sioe
Sirol - ac nad oedd tystiolaeth bod y digwyddiadau hyn wedi arwain at broblem
traffig oedd yn gyfystyr â niwed i ddiogelwch cyhoeddus.
Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais
a’r mesurau trylwyr a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu.
Dogfennau ategol: