Diweddaru’r
Pwyllgor ar y trefniadau anwytho i aelodau yn dilyn etholiadau Mai 4ydd, 2017
Cofnod:
Cyflwynwyd -
adroddiad yn diweddaru’r pwyllgor ar y trefniadau anwytho i aelodau yn dilyn
etholiadau 4 Mai, 2017.
Rhoddodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd gyflwyniad byr ar drefniadau’r etholiadau, gan
gyfeirio at:-
·
Y
sefyllfa gyfredol
·
Amserlen
·
Anwytho
Mewn ymateb i
gwestiynau gan aelodau, nododd y Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd:-
·
Y
byddai’r aelodau yn arwyddo i dderbyn y swydd wrth ymweld â’r
stondin Côd Ymddygiad ar y Dyddiau Croeso ar y 9fed
a’r 10fed o Fai a bod hynny’n dderbyniol yn
gyfreithiol.
·
Y
byddai’n rhaid edrych fesul achos ar sefyllfa’r aelodau hynny sy’n gwasanaethu
ar gyrff allanol, ond ddim yn cael eu hail-ethol ar y Cyngor ar ôl Mai.
Dangoswyd y
fersiwn ddiweddaraf o’r Porth Aelodau a gofynnwyd i’r aelodau gysylltu â’r Rheolwr Gwasanaethau Democrataidd, neu aelod o’r Tîm,
os hoffent gyflwyno syniadau o ran sut i ddatblygu’r porth ymhellach.
Rhoddodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddiweddariad o’r sefyllfa o ran y
ddarpariaeth TG i aelodau o fis Mai ymlaen.
Nododd:-
·
O
ganlyniad i farn wahanol ymhlith aelodau’r Grŵp
Ffocws (tri o’r farn y dylid safoni ar y Microsoft Surface Pro 4, un eisiau’r Surface Pro 4 at ei ddefnydd ei
hun, ond yn hapus i eraill gael y dewis ac un yn ffafrio’r Ipad
Air 2 ar gyfer pawb) y gofynnwyd iddo ef, fel Pennaeth y Gwasanaeth
Democrataidd, ddod i benderfyniad ar y mater.
·
Iddo
bwyso a mesur yn ofalus, gan gymryd i ystyriaeth farn
y mwyafrif ac ymgynghori gyda’r swyddogion a’r Dirprwy Arweinydd, oedd yn aelod
o’r Grŵp Ffocws, cyn penderfynu ar y Microsoft Surface
Pro 4, ar y sail ei fod yn cynnig llawer mwy nag sy’n
bosib’ gyda’r mathau eraill o gyfarpar.
·
Mai’r
bwriad dros amser fyddai symud yn llwyr i’r Surface Pro 4, ac er y byddai anogaeth i bawb ddefnyddio’r Surface Pro 4 o’r cychwyn,
caniateid i aelodau sy’n dychwelyd barhau i ddefnyddio’r Ipad
hyd oni fyddai’n amser adnewyddu eu cyfarpar.
·
Byddai
hawl hefyd i aelodau ddefnyddio eu teclynnau personol eu hunain ac ‘roedd yr
Uned TG yn ffyddiog y gallent gefnogi’r offer hwnnw hefyd.
Mynegodd y
Cadeirydd ei siomedigaeth na chafodd y pwyllgor hwn y cyfle i ddod i
benderfyniad ar y mater a gofynnodd i’r aelodau hynny oedd yn aelodau o’r
Grŵp Ffocws gyflwyno eu sylwadau.
Nododd pob un o
aelodau’r grŵp eu bod yn gefnogol i benderfyniad y Pennaeth. Ychwanegodd y Rheolwr Gwasanaethau
Democrataidd bod yr amserlen prynu’r cyfarpar yn golygu nad oedd yn bosib’ i’r
Grŵp Ffocws adrodd yn ôl i’r pwyllgor.
Pwysleisiwyd
pwysigrwydd trefnu hyfforddiant buan i’r aelodau ar yr offer newydd. Atebodd y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
fod hyfforddiant wedi ei drefnu ym Mehefin / Gorffennaf ac y byddai swyddogion
TG ar gael ar ddiwrnod y Cyngor Blynyddol i gynorthwyo aelodau i gael mynediad
i’w dogfennau. Ychwanegodd y Rheolwr
Gwasanaethau Democrataidd y gofynnid i bob aelod lenwi holiadur ar gychwyn y
Cyngor newydd ynglŷn â lefel eu hyder wrth ddefnyddio technoleg.
Trafodwyd beth
fyddai’n digwydd i’r cyfarpar presennol.
Nodwyd mai argymhelliad y Grŵp Ffocws oedd gofyn i’r aelodau
ddychwelyd y cyfarpar i’r Cyngor a’u bod yn cael eu rhoi fel rhodd i ysgolion
fel eu bod yn parhau i gael eu defnyddio fel adnodd y Cyngor.
Mynegodd rhai
aelodau eu siomedigaeth na roddid cynnig i’r aelodau brynu’r teclynnau am bris
rhesymol. Nodwyd nad oedd y Ipads mewn cyflwr da bellach ac y byddai’n llawer gwell gan
yr ysgolion dderbyn offer mwy cyfredol.
Awgrymwyd, gan y
gofynnwyd i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd ddod i benderfyniad
ynglŷn â’r teclynnau, y byddai’n synhwyrol iddo
yntau hefyd wneud y penderfyniad ynglŷn â beth fydd yn digwydd i’r Ipads. Atebodd y
Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd y byddai’n rhaid iddo wirio hynny, ond yr
hoffai i’r aelodau gynnig eu hargymhelliad cyn bod hynny’n
digwydd.
PENDERFYNWYD
1. Cefnogi
penderfyniad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd i ddewis y Microsoft Surface Pro 4 fel y teclyn
electronig mwyaf addas ar gyfer aelodau o fis Mai ymlaen.
2. O
ran y teclynnau presennol, argymell i’r Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd
roi’r dewis i aelodau:-
·
Brynu’r Ipads am bris rhesymol.
·
Eu dychwelyd i’r
Cyngor i’w glanhau o bob data a’u rhoi yn rhodd i ysgol.
·
Barhau i’w defnyddio
am y tro, gan ddewis un o’r ddau opsiwn uchod pan ddaw’r adeg iddynt uwchraddio
i’r Surface Pro 4.
Dogfennau ategol: