Agenda item

Ystyried unrhyw fater arall sydd yn teilyngu sylw brys ym marn y Cadeirydd.

 

Cofnod:

Cyfeiriodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn at y materion isod:

 

Tirweddau’r Dyfodol Cymru

 

Nodwyd bod cyrff cadwraethol wedi datgan pryderon yn ddiweddar yn y wasg o ran cynnwys adroddiad drafft yr adolygiad. Pwysleisiwyd bod y partneriaid ynghlwm â’r adolygiad yn weddol gytûn o ran cynnwys yr adroddiad drafft. Adroddwyd o ran amserlen, y byddai adroddiad diwygiedig yn cael ei rannu gyda’r partneriaid cyn y cynhelir digwyddiad i gyflwyno adroddiad terfynol yr adolygiad yn ystod yr Haf. Eglurwyd bod yr adroddiad yn nodi cynigion o ran annog cydweithio, arbed arian, denu cyllid (ond ddim yn nodi y ceir fwy o arian gan Lywodraeth Cymru) ac yn gefnogol i barhad y Gronfa Datblygu Gynaliadwy.

 

Nododd aelod bod trafodaethau cynnar yng nghyswllt yr adolygiad wedi cyfeirio at Lywodraeth Cymru’n cyfrannu’n ariannol tuag at yr AHNE a swyddogion i uchafu elfen gwarchod y dynodiad.

 

Nododd aelod bod y Cyngor wedi derbyn cynnydd grant uwch na’r cyfartaledd gan Lywodraeth Cymru ar gyfer 2017-18 gyda swyddogion Gwynedd wedi bod yn flaenllaw yn darparu’r dystiolaeth i gyfiawnhau newid y fformiwla dyrannu i adlewyrchu gwir gost gofal yng nghefn gwlad. Ychwanegodd y dylid ystyried gwneud rhywbeth tebyg o ran yr AHNE. Gofynnodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn i’r aelod gadarnhau enw swyddog y gallai gysylltu yng nghyswllt hyn.

 

Cais Nova Innovation

 

Cyfeiriwyd at gais gan Nova Innovation, ar ran Ynni Llŷn, i Ystad y Goron am hawl i ddatblygu cynllun ynni llanw posibl ger Ynys Enlli. Nodwyd bod Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Tudweiliog wedi dod ar draws taflen ymgynghori nad oedd yn cyfeirio at y Cyd-Bwyllgor. Ymhelaethodd y cynrychiolydd bod y daflen yn cyfeirio at yr AHNE ond nid oedd cyfeiriad at ymgynghori efo’r Cyd-Bwyllgor. Awgrymodd y dylid cysylltu efo Ynni Llŷn i ofyn am fwy o wybodaeth am y prosiect ac i nodi wrth Ystad y Goron y dylid ymgynghori â’r Cyd-Bwyllgor ar y cynllun.

 

Nododd aelod ei fod ar ddallt mai ymgynghoriad cychwynnol yn unig ydoedd o ran y posibilrwydd o ran sefydlu cynllun o’r fath.

 

Nododd Cynrychiolydd Cyngor Cymuned Tudweiliog bod y ddogfen yn nodi mai’r cam nesaf fyddai gwneud cais i Ystad y Goron am drwydded, felly dyma’r amser i roi mewnbwn y Cyd-Bwyllgor i’r ymgynghoriad.

 

PENDERFYNWYD y dylid cysylltu efo Ynni Llŷn i ofyn am fwy o wybodaeth am y prosiect ac i nodi wrth Ystad y Goron y dylid ymgynghori â’r Cyd-Bwyllgor ar y cynllun.

 

Llythyr Cyngor Cymuned Llanaelhaearn

 

Adroddwyd bod y Cadeirydd wedi derbyn llythyr gan Gyngor Cymuned Llanaelhaearn yn gofyn am gefnogaeth y Cyd-Bwyllgor i’w cais i Gyngor Gwynedd am olau stryd ar gyffordd Trefor ar sail diogelwch ffyrdd. Nodwyd bod Cynllun Rheoli’r AHNE yn nodi y dylid ceisio cyfyngu nifer o arwyddion ffordd a golau stryd o ran llonyddwch felly roedd yn sefyllfa anodd. Nodwyd y cynhaliwyd trafodaethau rhwng y Pennaeth Rheoleiddio, Aelod Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio, Aelodau Lleol ynghyd â’r Cyngor Cymuned. Adroddwyd bod y Pennaeth Rheoleiddio o’r farn bod y gyffordd yn ddiogel a ni fyddai Cyngor Gwynedd yn gwneud newidiadau.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

·        Bod nifer o gyffyrdd tebyg yn yr AHNE, ni ellir cefnogi pob cais.

·        Pryder o ran llygredd golau yn y nos ac effaith ar fioamrywiaeth.

·        Yn yr achos yma, y dylid gwneud cyfaddawd o ran tywyllwch i fodloni anghenion pobl oherwydd y pryderon diogelwch.

·        Nad oedd damwain angheuol ers y lôn newydd.

·        Y dylid cefnogi’r bobl leol.

·        Ddim yn gyfforddus yn lobio ar y mater ond fe ellir nodi cefnogaeth.

·        Y dylid ymateb i’r llythyr gan nodi bod y Cyd-Bwyllgor yn derbyn pryder lleol gan ofyn i’r Cyngor ail-edrych ar y sefyllfa ac os oedd y Cyngor yn dod i benderfyniad bod angen golau stryd ar sail diogelwch nid oedd y Cyd-Bwyllgor yn wrthwynebus.

 

PENDERFYNWYD bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn anfon ymateb i’r llythyr, ar ran y Cyd-Bwyllgor, yn seiliedig ar y sylwadau uchod.