Cyflwyno
adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad
Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a oedd yn egluro goblygiadau,
a’r broses, o newid cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol o ran nifer yr Aelodau Lleol
all fod yn aelodau o’r Cyd-Bwyllgor
ar unrhyw adeg yn unol
â phenderfyniad y Cyd-Bwyllgor
yn ei gyfarfod
ar 24 Mehefin 2015.
Eglurwyd bod y cyfansoddiad presennol yn nodi mai
5 Aelod Lleol all fod yn aelodau
o’r Cyd-Bwyllgor ar unrhyw adeg
gydag aelodau yn cyfnewid yn
dilyn etholiadau lleol. Tynnwyd sylw, ar adeg
y gwnaed y penderfyniad, roedd disgwyl y byddai ffiniau wardiau'r ardal yn newid ac y byddai
llai o Aelodau Lleol yn cynrychioli
wardiau yn yr AHNE (yn rhannol
neu gyfan gwbl). Fodd bynnag,
ni fu unrhyw
newid yn y wardiau, felly roedd cyfanswm yr aelodau
gyda wardiau yn yr AHNE (yn
rhannol neu gyfan gwbl) yn
11.
Tynnwyd sylw pe byddai’r holl
Aelodau Lleol yn rhan o’r
Cyd-Bwyllgor, byddai aelodaeth y Cyd-Bwyllgor yn cynyddu o 27 i 33 gyda mwyafrif sylweddol
yn aelodau o Gyngor Gwynedd. Amlygwyd bod sedd i gynrychiolydd
o bob Cyngor Cymuned yn yr AHNE ar
y Cyd-Bwyllgor eisoes.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:
·
Gan nad oedd y ffiniau etholiadol yn newid
dylid ystyried gadael i’r Aelodau
Lleol benderfynu ymysg ei gilydd
pwy fyddai’n aelodau o’r Cyd-Bwyllgor.
·
Bod Cynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig wedi
anfon sylwadau i nodi ei
fod o’r farn
y dylid cadw at 5 Aelod Lleol ar
y Cyd-Bwyllgor gan y byddai 11 Aelod Lleol yn newid
y cydbwysedd yn ormodol o ran cynrychiolaeth y Cyngor. Roedd yn
awgrymu hefyd efallai y gellir newid aelodau ar
raddfa o un y flwyddyn er mwyn cael
newid graddol.
·
Un opsiwn
fyddai rhoi cyflwyniad i’r Aelodau Lleol o ran yr AHNE cyn iddynt
lenwi ffurflen i nodi pam eu
bod eisiau bod yn aelod o’r Cyd-Bwyllgor
gan adael y penderfyniad i’r Cyd-Bwyllgor o ran pa aelodau ddylai wasanaethu ar y Cyd-Bwyllgor.
·
Anghytuno efo 11 Aelod Lleol
ar y Cyd-Bwyllgor gan fod angen
trawstoriad/cydbwysedd o
ran aelodaeth a ni ddylid gadael y penderfyniad i’r aelodau lleol gan
all bod gwahaniaeth barn.
·
Y dylid ystyried dyrannu seddi aelodau lleol
yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor.
·
Bod angen
pwyso ar y Cynghorau Cymuned i anfon cynrychiolydd
i gyfarfodydd y Cyd-Bwyllgor.
Cynigiwyd a eiliwyd i gadw nifer yr Aelodau
Lleol i 5 ac argymell i’r Cabinet / Aelod Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio y dylid diwygio cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor i nodi y dyrennir seddi Aelodau Lleol
yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor ac i ddileu’r cymal
“Aelodau Cyngor Gwynedd i gael eu
cylchdroi yn dilyn etholiadau lleol”. Pleidleisiwyd ar y cynnig ac fe gariodd.
PENDERFYNWYD cadw nifer yr Aelodau Lleol i 5 ac argymhell i’r Cabinet / Aelod Cabinet - Cynllunio a Rheoleiddio y dylid diwygio cyfansoddiad y Cyd-Bwyllgor i nodi y dyrennir seddi Aelodau Lleol yn unol â threfniadau Cydbwysedd Gwleidyddol y Cyngor ac i ddileu’r cymal “Aelodau Cyngor Gwynedd i gael eu cylchdroi yn dilyn etholiadau lleol”.
Dogfennau ategol: