Agenda item

Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn rhoi diweddariad ar y gwaith o ddiweddaru ac adolygu Cynllun Rheoli’r AHNE. Tywyswyd yr aelodau trwy 4 bennod drafft o Ran 2 o’r cynllun rheoli sefAmgylchedd glân a Llonyddwch’, ‘Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt’, ‘Gwaith, Cynnyrch a Sgiliau’ a ‘Pobol a Chymdeithas’ a oedd yn atodiad i’r adroddiad.

 

Tynnwyd sylw mai dyma’r penodau olaf o’r Cynllun drafft i’w hystyried. Adroddwyd mai’r cam nesaf fyddai llunio cynllun gweithredu i gyd-fynd gyda’r polisïau a thynnu’r holl ddeunydd at ei gilydd i ffurfio Cynllun Rheoli diwygiedig cyflawn mewn ffurf drafft. Yn dilyn hynny bwriedir cynnal ymgynghoriad cyhoeddus am o leiaf 6 wythnos cyn dychwelyd i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

Cynefinoedd a Bywyd Gwyllt

·        Tudalen 31 – Y dylid cyfeirio at Ymgyrch Neifion o dan y pennawdRhywogaethau morol’.

·        Tudalen 32 - Ddim yn hapus y cyfeirir at allyriannau CO2 o dan y pennawdNewid hinsawdd’, fe ellir nodi bod newid hinsawdd ond ni ddylid clymu cyfrifoldeb â gweithgareddau dynol. O’r farn bod yr haul yn ffactor mawr o ran newid hinsawdd.

·        Bod geiriad polisi BP5 yn wannach na’r hyn a nodir ar dudalen 32. Hefyd, nodir yn y paragraff olaf ar dudalen 32 ‘…creu ynni adnewyddol ar raddfa addas’, fe ddylid nodi’n fanwl yn y polisïau beth a olygir fel graddfa addas.

 

Gwaith, Cynnyrch a Sgiliau

·        Bod rhai o’r ffigyrau a gynhwyswyd yn y bennod yn gamarweiniol gan nad ellir cael dadansoddiad mor fanwl o ffigyrau STEAM. Nododd Cynrychiolydd Partneriaeth Dwristiaeth Abersoch a Llŷn y dylid trafod y ffigyrau efo Steven Jones (Uwch Swyddog Gwasanaethau Twristiaeth) ac y byddai ef hefyd yn fodlon cynorthwyo. Ychwanegodd ei fod yn anodd cael ffigyrau cadarn o ran yr Ardal o Harddwch.

 

Pobol a Chymdeithas

·        Tudalen 55 – y dylid ystyried nodi o dan y pennawdCartrefi Gwyliau a Phrisiau Tai’ yr angen i edrych ar y rhesymau pam bod cynifer o dai ar werth mewn rhai ardaloedd penodol o fewn yr AHNE.

·        Tudalen 56 - Tlodi Tanwydd - cysylltiad uniongyrchol rhwng y dreth ar garbon a’r ffaith bod y Deyrnas Unedig yn gorfod mewnforio tanwydd oherwydd nid oedd hawl i gael pwerdai llosgi glo newydd, polisïau wedi dilyn at nifer o bobl mewn tlodi tanwydd. 

·        O ran trefn y penodau, dylid ystyried rhoi’r bennod yma yng nghychwyn y cynllun er mwyn rhoi mwy o bwyslais i’r bennod.

·        Bod cymunedau yn heneiddio a’r angen i edrych ar sut y gellir cefnogi unigolion i aros yn eu cynefin. Er nad oedd hyn yn unigryw i’r AHNE, dylid ystyried cyfeirio at y mater.

 

Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y derbyniwyd sylwadau gan Gynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig ar y penodau drafft ac fe’u hystyrir a’u hymgorffori yn y penodau. Ychwanegodd bod croeso i unrhyw aelod anfon sylwadau ar y penodau ato.

 

Nodwyd bod y Cynrychiolydd wedi nodi ei fod o’r farn y dylai’r cynllun cyflawn ddod gerbron y Cyd-Bwyllgor cyn mynd allan i ymgynghori. Cafwyd trafodaeth ar y mater. Mewn ymateb i gwestiwn o ran yr amserlen, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn mai’r bwriad oedd ymgynghori ar y cynllun yn ystod mis Gorffennaf gan ddod gerbron y Cyd-Bwyllgor yn ystod mis Medi/Hydref efo’r sylwadau a wnaed yn y cyfnod ymgynghori gan fabwysiadu’r cynllun cyn diwedd y flwyddyn. Daethpwyd i gonsensws y dylai’r cynllun drafft ddod gerbron y Cyd-Bwyllgor cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

 

PENDERFYNWYD:

(i)     derbyn yr adroddiad;

(ii)    bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn diwygio’r penodau drafft yn unol â sylwadau’r Cyd-Bwyllgor;

(i)     cynnal cyfarfod o’r Cyd-Bwyllgor i drafod y Cynllun Rheoli drafft cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.

Dogfennau ategol: