(a) I dderbyn, er gwybodaeth, ffurflen
monitro adroddiadau Hunan Arfarniadau ysgolion ar gyfer cyfnod y Gwanwyn i Haf
2017.
(Copi’n amgaeedig)
(b) I gyflwyno crynodeb o Hunan Arfarniad yr
ysgolion canlynol:
(i) Ysgol Glanymor, Pwllheli
(ii) Ysgol Talysarn
(iii) Ysgol Bro Hedd Wyn
(iv) Ysgol Llanllyfni
(v) Ysgol Bro Tegid
(Copïau’n amgaeedig)
Cofnod:
(a)
Tywysodd y Swyddog Gwella Ansawdd Addysg Cynorthwyol yr Aelodau drwy daflen a gyflwynwyd yn nodi crynodeb
o ganfyddiadau ysgolion gan dynnu sylw
bod 5 ysgol gynradd, ac 1 ysgol uwchradd wedi eu harolygu
gan ESTYN yn ystod tymor
y Gwanwyn 2017.
(b)
Tywyswyd yr Aelodau drwy hunan arfarniadau Ysgolion Glanymôr, Talysarn, Bro Hedd Wyn, Llanllyfni a Bro Tegid.
Canmolodd Ymgynghorydd Her Gwe ysgolion Gwynedd am ei parodrwydd i rannu eu hunan
arfarniadau o addysg grefyddol ac addoli ar y cyd gan
bwysleisio mai un o gyfrifoldebau CYSAG ydoedd monitro safonau addysg grefyddol. Eglurwyd y ceisir derbyn yr hunan
arfarniadau gan ysgolion yn ystod
y tymor arolygiad neu yn fuan
ar ôl hynny. Gan nad yw addysg
grefyddol yn bwnc cwricwlwm cenedlaethol, gwelir o’r hunan arfarniadau
bod yr ysgolion yn cyflawni gofynion
maes llafur Cytûn sydd yn
cael ei lunio
yn lleol gan CYSAG.
O’r hunan arfarniadau
a gyflwynwyd gwelwyd bod ysgolion wedi barnu
bod y safonau, y ddarpariaeth
addysg yn dda a’r addoli
ar y cyd yn bodloni’r gofynion
statudol. Cyflwynwyd hunan arfarniad Ysgol Llanllyfni yn seiliedig ar
waith dros gyfnod hir ond
cyfeiriwyd at adroddiad arolygiad diweddar ESTYN oedd yn nodi nad
oedd y ddarpariaeth yng nghyfnod allweddol 2 yn bodloni gofynion
y maes llafur cytun yn llawn. Bydd yr ysgol yn
llunio camau gweithredu er mwyn mynd i ‘rafael â’r gwaith
a hyderir y gwelir CYSAG gynnydd ac engreifftiau o waith ym mis
Hydref.
Cyfeirwyd at y materion gwella a nodwyd gan yr ysgolion:
·
Ysgol Glan y Môr yn
awyddus i helpu bechgyn gyflawni gwell safonau mewn
addysg grefyddol drwy ddatblygu llythrennedd, darllen ac ysgrifennu.
·
Ysgol Talysarn yn awyddus
i sicrhau bod y disgyblion yn gallu dangos
cynnydd wrth astudio crefyddau amrywiol; sicrhau bod addysg grefyddol yn cael ei
graffu gan Banel Cwricwlwm yr Ysgol yn rheolaidd
·
Ysgol Bro Hedd Wyn yn awyddus
i sicrhau bod y Cyfnod
Sylfaen yn cael profiadau mwy eang
a chyfoethog
Mewn
ymateb i ymholiad ynglyn â threfniadau monitro CYSAG, eglurodd yr Ymgynghorydd Her y gwneir hynny fel
a ganlyn:
·
Craffu
ar ganlyniadau allanol ym mis
Hydref neu yng nghyfarfod y Gwanwyn
·
Pori trwy adroddiadau arolygiadau
·
Gwahodd ysgolion i gyflwyno hunan arfarniadau gan sicrhau bod y cynnwys yn arfarnol ac yn feintiol
·
Gwahodd ysgolion i roi cyflwyniadau ar y gwaith a wneir
ar lawr y dosbarth
O safbwynt gofynion addoli ar y cyd,
esboniwyd ei fod i’w gynnal
yn ddyddiol, ond nad oes
rheidrwydd i’r Gwasanaeth fod dorfol, gall ei gynnal mewn
dosbarthiadau ac nad oedd amser penodol
ar ei gyfer. Yn unol â’r ddeddf
rhaid i’r sesiwn fod yn
bennaf gristnogol gyda chais i ysgolion
fod yn sensitif
i grefyddau eraill. Eglurwyd bod hawl gan rhieni
i eithrio plant o addoli ar y cyd fel
mae hawl ganddynt i’w heithrio
o ddosbarthiadau addysg grefyddol. Mae hawl gan Ysgol i fod yn gristnogol
mewn addoli ar y cyd ond
o safbwynt addysg grefyddol, nid gwaith ysgolion
yw gneud y plant yn grefyddol.
Yn hanesyddol ac yn draddodiadol prin iawn ydoedd
sefyllfaoedd lle ceir staff yn gwrthod
arwain addoli ar y cyd mewn
ysgolion, a nodwyd bod stoc o adnoddau defnyddiol wedi eu cyhoeddi ar
gael i helpu staff arwain. Yn ogystal, ceir
ysgolion yn gwahodd arweinwyr crefyddol lleol i arwain sesiynau
addoli ar y cyd gydag ysgolion yn croesawu’r
cyswllt hwn. Hefyd, nodwyd bod rhai ysgolion yn gwneud
defnydd ac yn gwerthfawrogi cynllun “Agor y Llyfr” lle
ceir criw o gyfeillion yn adrodd
stori neu actio stori feiblaidd
i ddisgyblion.
PENDERFYNWYD: Derbyn a nodi cynnwys yr
arolygiadau a’r hunan arfarniadau a gofyn, yn unol
â’r drefn, i’r Swyddog Gwella
Ansawdd Addysg Cynorthwyol,
anfon llythyr at yr ysgolion uchod
yn nodi gwerthfawrogiad
CYSAG o’r ymdrechion a wneir gan yr
ysgolion i gyrraedd y graddau.
Dogfennau ategol: