Agenda item

I dderbyn cyflwyniadau gan gynrychiolwyr ysgolion ar arferion da / pryderon mewn addysgu Addysg Grefyddol.     

 

 

Cofnod:

(a)              Eglurodd yr Ymgynghorydd Her ei bod wedi gwahodd y bedair athrawes ganlynol i roi cyflwyniad i’r Pwyllgor ar waith addysg grefyddol y cyfnodau allweddol:

 

Nia Hughes, Ysgol Talysarn                  -           Cyfnod Sylfaen

Heulwen Jones, Ysgol Bro Hedd Wyn  -           CA2

Miriam Amlyn                                         -           CA3

Heledd Jones                                         -           CA4

 

ond yn anffodus, oherwydd anhwylder ac amryfusedd ynglyn á lleoliad, dwy athrawes oedd yn bresennol.

 

(b)              Croesawyd Nia Hughes o Ysgol Talysarn, Athrawes Cyfnod Sylfaen a oedd yn gyfrifol am addysgu addysg grefyddol i ddosbarthiadau Meithrin, Derbyn, Blwyddyn 1 a 2.  Derbyniwyd cyflwyniad diddorol ganddi a gwelwyd engreifftiau da o waith a wneir yn Ysgol Talysarn yn seiliedig ar elfennau iaith, profiadau, empathi, gwasanaethau boreuol, a.y.b.  

 

Nodwyd bod y Cyfnod Sylfaen yn gofyn am fedrau sylweddol gan athrawon sef i ddilyn y plentyn, gosod ardaloedd gwahanol yn yr ystafell ddosbarth ac i gyd yn seiliedig ar eu profiadau.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan Aelodau unigol, nodwyd mai prin iawn ydoedd gwybodaeth plant meithrin am storiau beiblaidd ar gyrraedd yr ysgol ac nad oedd yr ysgol yn cydweithio hefo’r Eglwys a’r Capel yn Nhalysarn. Ychwanegwyd ei bod yn her i rai ysgolion sydd yn awyddus i ddefnyddio adnoddau lleol ond nad oedd bob tro yn hawdd os nad oedd cymunedau’n gyfoethog o addoldai a chymunedau ffydd.      

           

 

Nododd Aelod wrth edrych i’r dyfodol ar drefniadaeth addysg yn ardal Bangor, y byddai’n syniad i’r Pwyllgor hwn roi mewnbwn i’r trafodaethau fel bo unrhyw ysgol newydd yn gynhwysol o safbwynt ystyriaeth i gefndiroedd ffydd poblogaeth Bangor.  

 

(c)      Croesawyd Miriam Amlyn o Ysgol Eifionydd (sydd yn aelod o CYSAG fel cynrychiolydd Undeb NASUWT), i rannu gwybodaeth o gyflwyno’n draws-gwricwlaidd fel Pennaeth Adran Addysg Grefyddol. 

 

Nodwyd bod y sefyllfa ychydig yn wahanol yn y sector uwchradd a’r pwnc yn cael ei gyflwyno am awr yr wythnos yn CA3 ac yn amrywio o ysgol i ysgol gyda phrofiadau y disgyblion yn wahanol ond ar y cyfan cyflwynir wers arferol academaidd i’w dysgu am grefydd. 

 

Gwelwyd uned o waith wnaethpwyd efo Blwyddyn 7 ar y pwnc Hindwaeth ac o hynny  adeiladu cyfres o wersi am ffyrdd o addoli, addoliad a’r adeiladau. Yn deillio o’r gwaith, bu i 85 disgybl greu ffilm a dangoswyd engraifft i’r Pwyllgor.  Tynnwyd sylw bod pwyslais yn y sector uwchradd fel yn y sector ar ddatblygu gwaith sy’n datblygu medrau trawsgwricwlaidd (llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol) a’r athrawon yn cydweithio’n llwyddiannus fel bo’r gwaith yn plethu’n gywir ac yn cyfrannu at addysg grefyddol. 

 

Penderfynwyd:             Derbyn, nodi a llongyfarch yr athrawon am y cyflwyniadau diddorol a diolch iddynt am eu gwaith a’u hymroddiad i’r pwnc.

 

         B.           DIWEDDARIAD GAN YMGYNGHORYDD HER GwE

 

(i)            Cyflwynwyd i’r Aelodau

 

·         Llyfryn o dan y teitlRydych yn ymuno â’ch CYSAG lleol

·         Maes Llafur Cytun Gwynedd a Môn

·         Dyfodol Llwyddiannus

 

 

(ii)           Cwrs TGAU Astudiaeth Crefyddol Newydd

 

Cyfeiriwyd at y ffaith bod athrawon Addysg Grefyddol rhanbarth GwE, dan arweiniad Mefys Jones, Pennaeth Adran Addysg Grefyddol Ysgol Syr Thomas Jones, Amlwch, wedi cyfarfod deir gwaith ac wedi derbyn arweiniad gan arbenigwyr allanol ynglyn â’r uchod.  Cytunwyd i rannu’r gaith o baratoi adnoddau rhyngddynt a fydd ar gael ar wefan GwE.  Nodwyd ymhellach o safbwynt cwrs Safon Uwch Astudiaeth Crefyddol, bod Mefys Jones wedi cydlynu cydweithio rhwng athrawon Gwynedd a Môn.

 

Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr Athrawon bod y cwrs yn swmpus ac y byddai’n profi’n  heriol gan bod yr oriau a ddynodir ar y fanyleb i’w gyflwyno yn amrywio o ysgol i ysgol.  Yn deillio o’r drafodaeth awgrymwyd y dylid ysgrifennu at y Cydbwyllgor Addysg ynglyn â diffyg adnoddau cyfrwng cymraeg a hefyd llythyru â holl ysgolion Gwynedd i sicrhau bod athrawon ar draws y sir yn cael yr amser a dynodwyd gan CBAC er mwyn cyflwyno a chwblhau’r cwrs TGAU newydd.      

 

(iii)          Addysg Grefyddol a’r cwricwlwm newydd

 

Nodwyd bod Addysg Grefyddol yn rhan o faes dysgu a phrofiad y Dyniaethau a bod 4 diben i’r cwricwlwm ac yn sail pop peth:

 

·         Dysgwyr uchelgeisiol, galluog sy’n barod i ddysgu gydol eu hoes;

·         Cyfranwyr mentrus, creadigol sy’n barod i chwarae eu rhan yn llawn yn eu bywyd a’u gwaith;

·         Dinasyddion egwyddorol, gwybodus sy’n barod i fod yn ddinasyddion i Gymru a’r byd;

·         Unigolion iach, hyderus sy’n barod i fyw bywyd gan wireddu eu dyheadau fel Aelodau gwerthfawr o gymdeithas.

 

Esboniwyd bod grwp o ysgolion arloesol yn gyfrifol am ddatblygu’r maes hwn.  Hyd yma, maent wedi ymchwilio i gwricwla gwledydd eraill ac wedi derbyn arweiniaid gan arbenigwyr allanol.  Bu i pob grwp geisio amlinellu hyd a lled y maes dysgu a phrofiad ac i ystyried beth yw syniadau mawr” y pwnc.  Nodwyd nad oedd unrhyw benderfyniad wedi ei wneud eto parthed asesu.  Bydd y medrau trawsgwricwlaidd yn parhau – llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.

 

Nododd yr Ymgynhgorydd Her ei bod wedi mynychu un cyfarfod o’r grwp Dyniaethau fel cynrychiolydd Cymdeithas CYSAGau Cymru ac wedi cyflwyno’r ddogfen “Beth yw addysg grefyddol dda”? i Manon Jones, Swyddog Llywodraeth Cymru sy’n hwyluso’r grwp Dyniaethau. Rhannwyd y ddogfen ddrafft  gydag Aelodau CYSAG er gwybodaeth.

 

 

(iv)          ESTYN

 

Tynnwyd sylw bod ESTYN wedi nodi mewn rhai arolygiadau ysgol bod y ddarpariaeth addysg grefyddol yn wan a deallir y bydd ESTYN yn cynnal arolygiad thematig o “Addysg Grefyddol CA2 a CA3 ac yn debygol o ymweld â chroes doriad o tua 20 ysgol ar draws Cymru.  Cyflwynodd yr Ymgynghorydd Her daflenCanllawiau allweddol ar gyfer addysg grefyddol yn ysgolion cynradd’ i sylw’r aelodau er mwyn canfod eu cymeradwyaeth cyn ei rannu gydag athrawon cynradd. 

 

(v)           Addoli ar y Cyd

 

Tynnwyd sylw ac annogwyd Aelodau’r Pwyllgor i gymryd golwg ar y ddwy ddeiseb ganlynol ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru, sydd wedi eu sbarduno gan bobl ifanc:

 

·         Cael gwared ar y rhwymedigaeth ar ysgolion i gynnal gweithredoedd addoli crefyddol

·         Cadw canllawiau presennol ar gyfer Gwasanaethau Crefyddol

 

(vi)          E-gylchgrawn Addysg Grefyddol CA3

 

Yn ogystal tynnwyd sylw’r Pwyllgor at y cylchgronnau isod ar wefan Hwb:

 

·         Rhifyn 1:             Rhoi Organau

·         Rhifyn 2:             Ffoaduriaid

·         Rhifyn 3:             Rhyfel a Heddwch

 

 

Penderfynwyd:             (a)        Derbyn, nodi a diolch i’r Ymgynghorydd Her am y diweddariad fel amlinellir uchod a chymeradwyo’r daflen Canllawiau Allweddol ar gyfer addysg grefyddolar gyfer athrawon cynradd.

 

                                       (b)       Gofyn i Glerc CYSAG lythyru fel a ganlyn:

 

(i)            at y Cydbwyllgor Addysg i sicrhau bod ysgolion yn derbyn adnoddau cyfrwng cymraeg mewn da bryd ar gyfer cyflwyno’r cwrs TGAU Astudiaeth Crefyddol newydd

(ii)          at holl ysgolion Gwynedd gan ofyn iddynt sicrhau bod amser dynodedig priodol ar gael i gyflwyno a chwblhau’r cwrs newydd