Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr Refeniw a Risg.
Cofnod:
Derbyniwyd
cyflwyniad gan yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg ar y swyddogaethau i’w cyflawni
gan y Pwyllgor. Tynnodd sylw yr adnabyddir y pwyllgor bellach fel y Pwyllgor Archwilio
a Llywodraethu, nodwyd bod y newid enw yn adlewyrchu esblygiad rôl a
swyddogaethau’r pwyllgor ers sefydlu’r Pwyllgor Archwilio yn 1999. Nododd, yn
dilyn penderfyniad y Cyngor yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth 2017, fod gan y pwyllgor
swyddogaeth ychwanegol o graffu ar faterion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y
Cyngor.
Tynnodd sylw y
cynhelir hyfforddiant i aelodau’r pwyllgor ar gyfrifoldebau’r pwyllgor ar 14
Mehefin. Eglurodd yn ddelfrydol y byddai’r aelodau wedi derbyn hyfforddiant cyn
y cyfarfod cyntaf ond nid oedd yn bosib oherwydd yr angen i drefnu’r cyfarfod
yma er mwyn i’r Cyngor ymateb yn amserol i’r Comisiwn Ffiniau yng nghyswllt
adolygiad o ffiniau etholaethol Gwynedd.
Cyflwynodd Drefniadau Gweithredu drafft y
Pwyllgor er sylwebaeth a’u mabwysiadu. Rhoddodd fanylion am y Trefniadau
Gweithredu drafft newydd sy’n seiliedig ar ofynion Mesur Llywodraeth Leol
(Cymru) 2011 a’r Canllawiau Statudol a baratowyd i’w gefnogi. Pwysleisiodd nad
oedd y pwyllgor yn bwyllgor craffu yn ôl gofynion y ddeddf ac mai rôl
ychwanegol oedd y rôl craffu. Eglurodd bod y pwyllgor yn unol â’r mesur wedi
bod yn craffu materion ariannol ond y byddai’r pwyllgor o hyn ymlaen hefyd yn
craffu materion yn ymwneud â gweithrediad mewnol y Cyngor megis strategaethau
corfforaethol, partneriaethau, ymgysylltu, trawsnewid busnes, trefniadau
effeithlonrwydd a’r gweithlu. Nododd y cynhelir gweithdy anffurfiol i aelodau’r
pwyllgor, ar ôl cyfarfod ffurfiol y Pwyllgor ar 22 Mehefin, er mwyn adnabod
materion craffu ar gyfer y flwyddyn.
Nododd aelod ei
bod yn falch bod y pwyllgor yma yn ymgymryd â’r rôl craffu ychwanegol gan
gymryd trosolwg lefel uchel ar weithrediadau’r Cyngor.
Holodd aelod
parthed y gofyn ar y pwyllgor i godi ymwybyddiaeth ar draws y Cyngor am
faterion sy’n ymwneud â rheoli risgiau, rheolaeth fewnol a llywodraethu
corfforaethol er mwyn cyflawni ei rôl yn gyflawn. Mewn ymateb, nododd yr Uwch
Reolwr Refeniw a Risg mai un ffordd roedd y pwyllgor yn codi ymwybyddiaeth oedd
trwy’r Gweithgor Gwella Rheolaethau, lle galwir swyddogion gerbron os oedd y
pwyllgor yn anfodlon gyda trefniadau rheoli risg, rheolaeth fewnol neu
llywodraethu o fewn adrannau’r Cyngor.
Mewn ymateb i
sylw gan aelod parthed cadw cysondeb o ran trefniadau paratoi pwyllgorau craffu
a threfniadau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu wrth ymgymryd â’r rôl craffu
ychwanegol, nododd Rheolwr Aelodau - Gwasanaeth Democrataidd y cynhelir
gweithdy i adnabod materion i’w craffu gan y pwyllgor ar gyfer blaenraglen am y
flwyddyn yn unol â’r trefniadau ar gyfer y pwyllgorau craffu. Nodwyd bod y
drefn o gynnal cyfarfodydd paratoi 5 wythnos cyn cyfarfodydd y pwyllgorau
craffu wedi dod i ben ac fe gynhelir cyfarfod i baratoi ar gyfer eitemau i’w
craffu yn y cyfarfod dilynol ar derfyn cyfarfod pwyllgor, byddai’r trefniant
yma hefyd ar gyfer y pwyllgor yma.
Nododd aelod mai
sylfaen gweithredu’r pwyllgor ddylai fod trosolwg o ran risg i’r Cyngor yn
hytrach na materion unigol. Ategodd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg y sylw gan
nodi mai trosolwg o drefniadau dydd i ddydd y Cyngor oedd swyddogaeth y
pwyllgor, dim risgiau penodol.
PENDERFYNWYD mabwysiadu’r Trefniadau Gweithredu.
Dogfennau ategol: