Agenda item

Cyflwyno adroddiad Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol).

 

Aelodau Lleol a effeithir gan y cynigion (nad ydynt yn aelodau o’r Pwyllgor) yn derbyn gwahoddiad: Y Cynghorwyr Cai Larsen, Roy Owen, Jason Parry, Ioan Thomas, Steve Collings, Keith Jones, Nigel Pickavance, Mair Rowlands, Catrin Wager, Glyn Daniels, Linda Ann Jones, Anne Lloyd Jones, Dewi Owen, Mike Stevens, Simon Glyn, Sian Wyn Hughes, W. Gareth Roberts, Gareth Williams, Freya Bentham, Eryl Jones-Williams, Annwen Hughes, Elfed Roberts, Elwyn Jones, Peter Garlick, Edgar Wyn Owen, Craig ab Iago, Dilwyn Lloyd, Eric M. Jones, Owain Williams, Anwen Davies, Elwyn Edwards, Louise Hughes, Beth Lawton a Alwyn Gruffydd.

Cofnod:

Cyflwynodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr adroddiad, gan nodi bod y Cyngor Llawn, yn ei gyfarfod ar 2 Mawrth, wedi derbyn adroddiad ar yr adolygiad. Eglurodd bod yr amserlen o ran cyflwyno cynigion drafft i’r Comisiwn Ffiniau gan y Cyngor wedi ei ymestyn i ganol mis Mehefin oherwydd y cyfnod etholiadol.

 

Nododd y gofynnir i’r pwyllgor ystyried y cynigion drafft a’r opsiynau posib a nodir yn yr adroddiad gerbron gan argymell i’r Cyngor Llawn, a fyddai’n cyfarfod ar 15 Mehefin,  gynigion gan y Cyngor i’r Comisiwn Ffiniau. Yn ogystal, argymell i’r Cyngor Llawn y dylid pwyso eto ar y Comisiwn Ffiniau i roi sylw i anghenion cynrychiolaeth leol effeithiol ac effaith y boblogaeth oedd ddim ar y gofrestr etholwyr wrth lunio ei gynigion.

 

Tynnodd sylw bod y Comisiwn Ffiniau wedi cynnig mai’r cyfartaledd o etholwyr i bob aelod yng Ngwynedd fyddai 1,243 o etholwyr. Nododd bod pob etholaeth yn wahanol ac nid oedd yn ymarferol glynu yn rhy llym at y ffigwr hynny ym mhob achos. Nod y cynigion drafft oedd caniatáu amrywiaeth o hyd at 25% uwchben neu o dan y nifer hynny, ar sail y math o amrywiaeth yr oedd y Comisiwn wedi ei ganiatáu yn y gorffennol.

 

Nododd mai egwyddor arall oedd wrth wraidd y cynigion gerbron oedd ceisio lleihau’r nifer o etholaethau dau aelod yn y sir. Eglurodd mai barn y Cyngor oedd y dylid cael etholaethau un aelod er mwyn symleiddio atebolrwydd i etholwyr lle mae daearyddiaeth a natur cymunedau yn caniatáu hynny.

 

Adroddodd bod yr opsiynau wedi eu trafod i wahanol raddau gyda’r Aelodau Lleol perthnasol ac fe ymgynghorwyd â’r Cynghorau Cymuned.

 

Tywysodd yr aelodau drwy’r adroddiad gan ofyn iddynt fynegi barn ar y cynigion a gwahoddwyd yr Aelodau Lleol a oedd yn bresennol i gyflwyno sylwadau.

 

Dolbenmaen / Porthmadog (Tremadog)

 

Nodwyd bod y ddwy etholaeth yn rhai, lle ni awgrymir newid ar hyn o bryd, ond y gallai’r Comisiwn Ffiniau ystyried eu newid, os nad eleni, yn sicr erbyn yr adolygiad a fyddai’n digwydd ar ôl etholiadau 2022. Os cyfyd yr angen i newid, yr unig bosibilrwydd y gellid ei ystyried oedd rhannu ward Porthmadog (Tremadog) fel bod rhai o’r wardiau cymunedol yn ymuno ag etholaeth Dolbenmaen ac eraill yn symud i un o ddwy etholaeth arall Porthmadog gan arwain at leihad o 1 sedd. Gofynnwyd i’r aelodau am eu barn o ran argymell newid neu adael y mater i’r Comisiwn.

 

Nododd aelod lleol Dolbenmaen y byddai unrhyw newid a ystyrir yn golygu ychydig iawn o newid o ran niferoedd etholwyr. Byddai ymestyn y ffin tuag at Cwmstradllyn efallai’n balansio’r niferoedd ond byddai ymestyn y ffin i Pwllgoleulas yn golygu gormod o symudiad un ffordd o ran ward Dolbenmaen.

 

Nododd aelod lleol Porthmadog (Tremadog) bod ardal ddaearyddol y ward yn ei ffurf bresennol yn golygu pellter rhwng Penmorfa a’r Wyddfa. ‘Roedd o’r farn bod yr hyn a ystyrir ddim yn rhoi ystyriaeth i’r problemau pragmataidd a oedd yn wynebu pobl wledig a symudiadau cymdeithasol. Nododd os argymhellir newid fe fyddai Pant Glas yn gorwedd yn well efo Bryncir na Clynnog. Eglurodd oherwydd hanes/traddodiad bod Tremadog efo Porthmadog yn gwneud synnwyr ac fe fyddai ward o Fryncir i’r Wyddfa yn rhy fawr.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) mai niferoedd etholwyr oedd prif ystyriaeth y Comisiwn ond oherwydd bod yr aelodau lleol yn fodlon nad oedd angen newid ac nad oedd unrhyw newid ystyrlon arall yn cynnig ei hun, ni chyflwynir cynnig i’r Comisiwn.

 

PENDERFYNWYD peidio argymell newid i’r Cyngor Llawn.

 

Etholaethau lle na gynigir newidiadau

 

Nododd aelod bod niferoedd etholwyr wardiau Gerlan, Ogwen a Tregarth a Mynydd Llandygai oddeutu 30% dros y ffigwr 1,243, a gofynodd a oedd perygl y byddai’r Comisiwn yn ystyried bod y nifer etholwyr yn rhy uchel? Cydnabodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod perygl y byddai’r Comisiwn yn edrych arnynt ond gobeithir na fyddent yn awgrymu newid gan bod eu prif ffocws ar yr etholaethau bychan.

 

Ychwanegodd y Prif Weithredwr mai llefydd naturiol efo'i gilydd dylai yrru’r gwaith o ran llunio ffiniau etholaethol ond mathemateg oedd yn dueddol o yrru’r Comisiwn. Nododd y byddai rhaid i’r Cyngor amddiffyn yr hyn a gynigir i’r Comisiwn rhag iddynt edrych ar y fathemateg a llunio etholaethau 2 neu 3 aelod, a oedd ym marn y Cyngor yn drysu atebolrwydd. Cadarnhaodd bod risg ond bod y Cyngor yn ceisio creu cynllun y gall y Cyngor ei amddiffyn.

 

Ardal Dinas Bangor

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) ei fod wedi mynychu cyfarfod o Gyngor Dinas Bangor ar 5 Mehefin a’u bod yn ei hanfod yn derbyn y byddai gostyngiad yn niferoedd y cynghorwyr ond eu bod eisiau lleihau’rgostyngiad. Nododd bod y Cyngor Dinas am gyflwyno opsiwn o ran rhannu’r ddinas i leihau’r gostyngiad a gynigir cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Nododd aelod lleol Deiniol y cyflwynodd awgrym  i uno Garth a Hirael cyn ei fod wedi dod yn ymwybodol bod ymgyrch i geisio cofrestru llawer o bobl yn ardal Bangor. ‘Roedd nifer o unigolion ddim wedi cofrestru i bleidleisio yn ward Deiniol ond yn y tymor hir fe ellir bod cynnydd sylweddol yn nifer yr etholwyr.

 

Nododd aelod lleol Menai (Bangor) bod Prifysgol Bangor yn trafod trefniadau o ran cofrestru pob myfyrwyr yn awtomatig. Gallai niferoedd etholwyr gynyddu’n sylweddol felly fe ddylid pwyllo a disgwyl am ymateb mwy cadarn gan y brifysgol.

 

Nododd aelod lleol Garth ei fod yn syniad edrych ar ffigyrau hanesyddol o ran niferoedd etholwyr gydag oddeutu 9,000 o fyfyrwyr ar goll o’r niferoedd presennol.

 

Nododd aelod ei fod yn cytuno efo sylwadau’r aelodau lleol, roedd dogfen y Comisiwn yn cyfeirio at poblogaeth ac etholwyr, o edrych ar y boblogaeth roedd y wardiau presennol yn cyrraedd y gofynion. Ychwanegodd na fyddai’r newid a gynigir i gydfynd â gofynion y Comisiwn o ran etholwyr yn adlewyrchu gwir waith cynghorydd a fe ddylid rhoi cyfle i’r aelodau lleol a Cyngor Dinas Bangor gyflwyno cynnig.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) nad oedd y Comisiwn am ymestyn y dyddiad cau ac roeddent yn asesu ar bwynt mewn amser gan adolygu pan gynhelir adolygiad o ffiniau etholaethol yn y dyfodol. Nododd nad oedd yn anghytuno efo’r sylwadau a wnaed ond ceisir ymateb yn unol â gofynion y Comisiwn.

 

PENDERFYNWYD rhoi cyfle i’r aelodau lleol a Chyngor Dinas Bangor i gyflwyno cynnig cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Ardal Tref Caernarfon

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y gwneir awgrymiadau i dacluso ffiniau yn nhref Caernarfon, gan ddefnyddio ffiniau naturiol Ffordd Llanberis a’r Ffordd Gyswllt trwy’r dref fel ffiniau amlwg a naturiol. Tynnwyd sylw y byddai hyn yn gadael sefyllfa etholaeth bresennol Seiont, yn etholaeth 2 aelod gydag oddeutu 2,392. Fodd bynnag, er mwyn gweithredu ar ddymuniad y Cyngor i geisio cael etholaethau un aelod, argymhellir ei rannu i mewn i ddwy etholaeth - Etholaeth Ganol Tref Caernarfon o oddeutu 1,177 ac Etholaeth Hendre, oedd yn bennaf yn un stad tai mawr unigol, o tua 1,215 o etholwyr. Adroddwyd bod y Cynghorydd Roy Owen (aelod lleol Seiont) yn anghytuno efo’r cynigion.

 

Nododd aelod lleol Cadnant ei fod yn gefnogol i’r cynigion a fyddai’n tacluso ffiniau’r dref ac yn cyd-fynd â gofynion y Comisiwn.

 

Nododd y Cynghorydd Cai Larsen (aelod lleol Seiont) ei fod yn croesawu’r cynigion synhwyrol a bod ward Seiont yn enfawr gyda mannau difreintiedig gyda llawer o waith achos.

 

Mewn ymateb i sylw gan aelod lleol Cadnant mai heno fyddai cyfarfod y Cyngor Tref, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) os derbynnir sylwadau gan y Cyngor Tref fe’u cynhwysir yn yr adroddiad i’r Cyngor Llawn.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Ffestiniog

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) tra roedd ardal Bowydd a Rhiw yn iawn fel y mae, roedd etholaeth Diffwys a Maenofferen gyda 750 o etholwyr yn rhy fechan ac etholaeth Teigl (1,315) ychydig yn fwy na’r cyfartaledd. Adroddwyd ymhellach i’r hyn a nodwyd yn yr adroddiad o ran y ffin a gynigwyd gan Gyngor Tref Ffestiniog, y bu camddealltwriaeth o ran pa hen bost y cyfeiriwyd ato. Nododd bod y Cyngor Tref a’r aelodau lleol yn unfrydol o’u cefnogaeth i’r ffin ddiwygiedig a oedd yn cydymffurfio â gofynion y Comisiwn.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Tywyn

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod etholaeth Tywyn yn etholaeth dau aelod. Tynnodd sylw bod 3 ward cymunedol yn ardal Tywyn, roedd ward Morfa yn agos i’r hyn a edrychir o ran niferoedd etholwyr gyda wardiau Tywyn Gorllewin a Thywyn Dwyrain efo'i gilydd tua’r nifer iawn felly roedd ffin naturiol ar gyfer creu 2 etholaeth. Adroddodd bod yr aelodau lleol yn gefnogol i’r cynnig.

 

Nododd bod risg o ran etholaethau Aberdyfi a Pennal oherwydd bod rhagolygon am leihad pellach yn nifer etholwyr ond awgrymir am y tro fod ward Tywyn Dwyrain yn mynd hefo ward Tywyn Gorllewin.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Abersoch, Aberdaron, Botwnnog, Tudweiliog, Morfa Nefyn a Llanbedrog

           

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod y 3 opsiwn posib a nodwyd yn yr adroddiad yn arwain at leihad o dri aelod yn yr ardal. Adroddodd y cynhaliwyd trafodaethau efo’r aelodau lleol lle mynegwyd pryder bod yr opsiynau a gynigir yn golygu cymaint o leihad o 3 aelod a’r effaith ar gynrychiolaeth effeithiol i’r boblogaeth gyfan. Nododd y rhoddir cyfle i’r aelodau lleol gynnig opsiwn arall cyn cyfarfod y Cyngor Llawn a fyddai’n dilyn at y gostyngiad mwyaf synhwyrol o ran aelodau.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod o ran ymateb gan gynghorau cymuned, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) mai Cyngor Cymuned Botwnnog yn unig oedd wedi ymateb gan nodi eu gwrthwynebiad i fwriadau’r Comisiwn.

 

Nododd aelod bod Cyngor Cymuned Llanengan yn trafod y mater yn eu cyfarfod ar nos Fercher. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y byddai’n angenrheidiol i dderbyn unrhyw gynnig ychydig o ddyddiau cyn cyfarfod y Cyngor Llawn ar 15 Mehefin er mwyn ei asesu.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod unrhyw gynnig yn gorfod cydymffurfio gyda gofynion y Comisiwn ac, os oedd y mathemateg yn awgrymu lleihad yn y nifer o Aelodau byddai’r Comisiwn yn gweithredu.

 

Nododd aelod lleol Llanengan y byddai’n cynnal trafodaethau gyda’r aelodau lleol perthnasol yng nghyswllt Llanbedrog/Mynytho ac Abersoch/Llanengan/rhan o Langian ond nad oedd y ffigyrau pendant ganddo. Mewn ymateb, nododd Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) ei fod wedi rhannu niferoedd etholwyr yn y wardiau cymunedol efo aelodau lleol yr ardal yn dilyn cynnal cyfarfod. Eglurodd nad oedd y wybodaeth o ran rhannu’r wardiau cymunedol ar gael, byddai swyddogion yn dilyn derbyn cynigion gan yr aelodau lleol yn gwneud y gwaith o gyfrif nifer etholwyr o fewn ward etholaethol.

 

Mewn ymateb i awgrym gan aelod lleol Clynnog y dylid galw cyfarfod arbennig o Bwyllgor Ardal Dwyfor, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod yr amserlen yn gyfyng a byddai’n rhaid penderfynu ar y cynigion yng nghyfarfod y Cyngor Llawn wythnos nesaf.

 

Nododd aelod lleol Llanbedrog bod nifer o dai haf yn yr ardal ac er nad oedd y perchnogion ar y gofrestr etholwyr, roedd aelodau lleol yn eu cefnogi hwythau hefyd. Ychwanegodd y ceisir llunio cynnig a fyddai’n rhannu’r etholaethau mewn ffordd naturiol. Roedd o’r farn bod Llanbedrog yn gweu yn naturiol efo Mynytho. Nododd bod Cyngor Cymuned Llanbedrog wedi trafod y mater a byddai’n cysylltu efo’r clerc er mwyn iddynt gyflwyno cynnig.

 

PENDERFYNWYD rhoi cyfle i aelodau lleol ardal Llŷn lunio cynnig ar gyfer yr etholaethau yn yr ardal cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Cynhaliwyd munud o dawelwch am 11.00am fel arwydd o barch i rhai a ddioddefodd yn dilyn digwyddiad terfysgol diweddar yn Llundain.

 

Ardal Trawsfynydd, Harlech, Dyffryn Ardudwy a Llanbedr

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod 2 opsiwn posib, roedd yr ail opsiwn yn rhoi niferoedd mwy cytbwys ar draws y tair etholaeth a awgrymir gyda opsiwn un yn awgrymu etholaeth Harlech, Talsarnau a Llanfair a fyddai’n etholaeth fawr o 1,820. Tynnwyd sylw mai’r mater oedd yn creu tensiwn o ran llunio’r etholaethau oedd, a fyddai Talsarnau/Maentwrog/Trawsfynydd efo’u gilydd yn gwneud synnwyr.

 

Nododd aelod lleol Llanbedr mai opsiwn 1 oedd y gorau gyda wardiau cymunedol Harlech a Talsarnau efo'i gilydd yn gwneud mwy o synnwyr na gyda wardiau cymunedol Trawsfynydd a Maentwrog.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yn ddaearyddol bod opsiwn 1 yn gwneud mwy o synnwyr.

 

Nodwyd y derbyniwyd sylwadau gan aelod lleol Dyffryn Ardudwy a oedd yn nodi ei bryder y byddai Dyffryn Ardudwy a Talybont efo Llanbedr yn creu etholaeth fawr gyda Talybont yn ymylol ond ei fod yn cydnabod bod rhaid gostwng y nifer o etholaethau. Roedd yn cynnig ‘Dyffryn Ardudwy, Llanbedr a Talybont’ fel enw i’r etholaeth newydd.

 

PENDERFYNWYD argymell opsiwn 1 i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Llanrug

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod angen tacluso yng nghylch Llanrug er mwyn gwastatau sefyllfa’r etholaethau trwy ddelio â chymunedau Cwm y Glo (438), Brynrefail (224) a Ceunant (305) a hefyd Penisarwaun (560) a Rhiwlas (533).

 

Nodwyd y cynigir dwy etholaeth wedi eu haddasu sef un etholaeth ar gyfer Cwm y Glo, Brynrefail a Cheunant (967) ac etholaeth ar gyfer Penisarwaun a Rhiwlas (1,093). Adroddwyd bod peth gwahaniaeth barn ymysg yr aelodau lleol.

 

Nododd aelod lleol Penisarwaun ei ddymuniad i gadw cymuned Brynrefail efo Penisarwaun a Rhiwlas gyda chyfanswm etholwyr yn 1,317 a oedd ychydig uwchben y cyfartaledd a nodwyd gan y Comisiwn. Ychwanegodd bod Afon Rhyddallt yn ffin naturiol

 

Nododd aelod lleol Llanrug nad oedd eisiau etholaeth 2 aelod a’i fod o’r farn y dylai’r cynnig gerbron fod yn dderbyniol i’r Comisiwn. Ychwanegodd bod cymuned Brynrefail efo cyswllt cryfach efo Cwm y Glo na Rhiwlas. Nododd bod Cyngor Cymuned Llanrug o blaid y cynnig.

 

Nododd aelod lleol Cwm y Glo bod peryg y llunnir etholaeth 2 aelod pe na fyddai’r Cyngor yn cyflwyno cynnig. Ychwanegodd y byddai etholaeth newydd Cwm y Glo, Brynrefail a Cheunant yn cyd-fynd â’r dalgylch ysgol.

 

Ychwanegodd aelod lleol Penisarwaun bod Brynrefail a Chwm y Glo yn mynd efo'i gilydd ond roedd angen llunio etholaeth o ran ffin naturiol.

 

Mewn ymateb i’r sylw, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) os na fyddai newid y bod perygl y gallai’r Comisiwn lunio un etholaeth 2 aelod.

 

Holodd aelod lleol Penisarwaun os derbyniwyd ymateb gan Gyngor Cymuned Llanddeiniolen. Nodwyd na dderbyniwyd ymateb ganddynt.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Bontnewydd, Llanfaglan a Chaeathro / Ardal Waunfawr, Betws Garmon a Rhyd Ddu

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod y cynigion gerbron ar gyfer yr ardaloedd yma wedi eu llunio gan gymryd i ystyriaeth y cysylltiadau cymunedol lleol a dalgylch ysgolion.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynigion i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Dinas a Dinas Dinlle

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) bod y cynnig gerbron yn ceisio ymateb i newid yn ardal Bontnewydd i raddau ond hefyd yn ceisio defnyddio’r cymunedau o gwmpas ac o dan ffordd fawr yr A499 fel ffin gweddol naturiol rhwng cymunedau.

 

Nododd aelod lleol Llanwnda y byddai’n anoeth creu etholaeth mor fach a oedd yn ardal 2 cyngor cymuned sef Llanwnda a Llandwrog. Roedd o’r farn y dylid cadw etholaeth Llanwnda yn ei ffurf bresennol a oedd yn cwrdd â gofynion nifer etholwyr y Comisiwn ac o fewn ardal un cyngor cymuned.

 

Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y byddai cadw etholaeth Llanwnda fel y mae yn codi mater o ran lle byddai Dinas Dinlle yn eistedd.

 

Ychwanegodd yr aelod lleol pe penderfynir creu etholaeth Dinas a Dinas Dinlle fe fyddai’n rhaid ystyried cyfuniad o Rostryfan/Rhosgadfan/Carmel a’r Fron.

 

Pwysleisiodd y Prif Weithredwr bod unrhyw gyfuniad yn bosib ond bod rhaid i’r mathemateg fod yn unol â’r gofynion. Ychwanegodd y dylid trafod efo’r aelodau lleol i drafod yr ardal. 

 

PENDERFYNWYD cynnal trafodaethau efo’r aelodau lleol perthnasol i lunio cynnig ar gyfer yr etholaethau yn yr ardal cyn cyfarfod y Cyngor Llawn.

 

Ardal Llanllyfni, Talysarn, Nantlle a Nebo

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr awgrymir dwyn ynghyd Llanllyfni (513) Talysarn (714) Nantlle (152) a Nebo (253) i greu un etholaeth newydd o 1,612 (Cyngor Cymuned Llanllyfni i gyd heblaw am Benygroes).

 

Adroddodd nad oedd gan aelod lleol Talysarn wrthwynebiad i’r cynnig gerbron er ei fod yn nodi bod etholaeth newydd (Groeslon, Carmel a Ceserea) yn amrywiol iawn o ran demograffeg.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Groeslon, Carmel a Ceserea / Ardal Rhostryfan a Rhosgadfan

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yn dilyn y drafodaeth am Ardal Dinas a Dinas Dinlle fe gynhelir trafodaethau efo’r aelodau lleol.

 

Ardal Clynnog, Trefor, Llithfaen a’r Ffôr

 

Tynnodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) sylw bod etholaeth bresennol Clynnog yn sylweddol o dan drothwy niferoedd etholwyr.

 

Nodwyd mai opsiwn 3 a gynigwyd gan aelod lleol Llanaelhaearn a ffafrir oedd cadw etholaeth bresennol Llanaelhaearn (1,151) fel y mae er y byddai ei alw yn “Yr Eifl” yn fwy synhwyrol. Byddai ward Nebo (233) wedyn yn cael ei ychwanegu at Glynnog i greu etholaeth newydd o 946 o etholwyr (sydd yn dal yn etholaeth fechan iawn yn nhermau’r Comisiwn) a’i dynnu oddi wrth ward Llanllyfni fyddai’n lleihau maint y ward hwnnw i 1,369 mwy rhesymol. Byddai hyn yn cyfarch pryderon a fynegwyd gan Gyngor Cymuned Pistyll am gysylltu cymunedau bychain gwledig gydag ardaloedd mwy a gwahanol iawn.

 

Nododd aelod lleol Clynnog ei fod yn cytuno mai opsiwn 3 oedd yr un gorau.

 

PENDERFYNWYD argymell opsiwn 3 i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Abererch, Efailnewydd, Pentre Uchaf a Buan

 

Nodwyd bod y cynnig ar gyfer yr ardal yma wedi ei gynnwys mewn camgymeriad ac fe argymhellir na ddylid newid felly gofynnir i’r Pwyllgor ei ddiystyru.

 

Nododd aelod lleol Abererch ei fod yn hapus gyda’r argymhelliad bod yr etholaethau yn aros yr un fath.

 

Ardal Penllyn

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr awgrymir cyfnewid wardiau rhwng y ddwy etholaeth bresennol ond cadw dwy sedd fel bod 3 sedd yn yr ardal gyfan, sef y Bala a hefyd Gorllewin Penllyn - Llanuwchllyn (494), Cwm y Glyn (83) a Llanycil (323) (etholaeth o 900) a Dwyrain Penllyn – Gwalia (125), Llan y Betws (456) a Llanfor (347) (etholaeth o 928). Nodwyd bod yr etholaethau yn fychan o edrych i’r dyfodol ond ei fod yn anorfod mewn ardal mor wledig.

 

Nodwyd bod yr aelodau lleol yn pryderu, os na gynigir newid, y llunnir etholaeth fawr neu etholaeth 2 aelod.

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Ardal Llanegryn, Bryncrug a’r Friog

 

Nododd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) yr awgrymir symud ward Llanegryn o un etholaeth i’r llall er mwyn creu dwy etholaeth wedi eu hail-drefnu:-

Llanegryn, Bryncrug a Llanfihangel = 1,000 (ardal 3 Cyngor Cymuned)

Y Friog, Islaw’r Dre a Llangelynnin = 1,332 (ardal 2 Cyngor Cymuned).

 

PENDERFYNWYD argymell y cynnig i’r Cyngor Llawn.

 

Sylwadau Cyffredinol

 

Nododd aelodau'r prif bwyntiau ychwanegol yma:-

 

·         Roedd y cyfnod ymgynghori, a groesodd cyfnod etholiad yn gwbl annigonol ar gyfer unrhyw drafodaeth leol ystyrlon ac wedi effeithio ar y gallu i fanylu ar rhai cynigion.

·         Dylai’r Comisiwn Ffiniau roi sylw i anghenion cynrychiolaeth leol effeithiol ac effaith y boblogaeth sydd ddim ar y gofrestr etholwyr, ar bwynt arbennig mewn amser, wrth lunio ei gynigion. Yn benodol, y galw a’r llwyth gwaith sydd yn codi yn sgil presenoldeb myfyrwyr, ymwelwyr a pherchnogion ail-gartrefi sydd ddim ar y gofrestr etholwyr leol yn golygu bod yn rhaid rhoi sylw i hynny wrth bennu maint etholaethau.

Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr (Cefnogaeth Gorfforaethol) y cyflwynir y sylwadau yn yr adroddiad i’r Cyngor Llawn.

Dogfennau ategol: