Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan
yr Aelod Cabinet Cyllid, nododd bod sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17 yn galonogol o fewn yr hinsawdd ariannol
heriol. Diolchodd i’r swyddogion cyllidol am eu gwaith manwl a’u
cymorth i’r adrannau.
Manylodd Uwch Reolwr Cyllid ar gynnwys
yr adroddiad a gyflwynir i’r Cabinet yn ei gyfarfod
yn y prynhawn. Tynnwyd sylw at yr argymhelliad i’r Cabinet:
“1.1 Cymeradwyo a
nodi sefyllfa ariannol derfynol adrannau’r Cyngor am 2016/17.
1.2
Cymeradwyo’r symiau i’w cario
'mlaen (y golofn “Gor/(Tan) Wariant Addasedig” o’r talfyriad yn Atodiad 1),
sef:
ADRAN |
£’000 |
Oedolion, Iechyd a Llesiant |
(100) |
Plant a Theuluoedd |
0 |
Addysg |
(48) |
Economi a Chymuned |
(19) |
Priffyrdd a Bwrdeistrefol |
0 |
Amgylchedd (Rheoleiddio gynt) |
(38) |
Ymgynghoriaeth Gwynedd |
(96) |
Tîm Rheoli Corfforaethol a Chyfreithiol |
(45) |
Cyllid |
(67) |
Cefnogaeth Gorfforaethol |
(56) |
1.3
Cymeradwyo’r argymhellion a’r trosglwyddiadau ariannol canlynol (sydd
wedi’u egluro yn Atodiad 2) –
·
Defnyddio (£46k), sef tanwariant uwchlaw £100k Oedolion, Iechyd a Llesiant
i gyfrannu tuag at ddiffyg mewn adran arall.
·
Clirio gorwariant yr Adran Plant a Theuluoedd er mwyn caniatáu iddynt symud
ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio tanwariant yr Adran
Oedolion Iechyd a Llesiant (£46k) a thanwariant Corfforaethol (£151k).
·
Clirio gorwariant yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol er mwyn caniatáu
iddynt symud ymlaen i wynebu her 2017/18, a'i ariannu drwy ail gyfeirio
tanwariant Corfforaethol (£88k).
·
Defnyddio’r tanwariant £939k ar Gyllidebau Corfforaethol am 2016/17 fel a
ganlyn:
- £151k i glirio gorwariant Adran Plant a
Theuluoedd
- £88k i glirio gorwariant Adran Priffyrdd a
Bwrdeistrefol
- £700k i’w glustnodi mewn cronfa er mwyn
cyfrannu tuag at Strategaeth Ariannol i'r dyfodol.
1.4 Cymeradwyo’r
trosglwyddiadau ariannol o gronfeydd penodol a rhyddhau’r ddarpariaeth fel yr
amlinellir yn Atodiad 3 yn dilyn adolygiad cynhwysfawr o gronfeydd a
darpariaethau.
1.5 Datgan i’r
adrannau mai dim ond mewn amgylchiadau arbennig iawn y bydd y Cabinet yn clirio
gorwariant i’r dyfodol, ac y bydd disgwyl i adrannau gario
unrhyw orwariant ymlaen yn y dyfodol (yn unol a’r drefn o gario
tanwariant ymlaen).”
Nododd y Pennaeth Cyllid y cyflwynir datganiadau ariannol statudol 2016/17 gerbron y Pwyllgor i’w cymeradwyo ar 13 Gorffennaf ond fod yr
adroddiad alldro gerbron yn darparu
darlun ariannol mwy eglur. Nododd
bod cryn ansicrwydd ynglŷn â lefel ariannu grant Llywodraeth Cymru ar gyfer
2018/19 a thu hwnt. Adroddodd y cynhaliwyd adolygiad o holl gronfeydd y Cyngor wrth gau’r
cyfrifon eleni ac fe gynaeafwyd
£1.060m o adnoddau. Eglurodd
y byddai neilltuo £1.76m mewn cronfa benodol
yn rhoi amser
i’r Cyngor gynllunio er mwyn
ymateb yn briodol yn yr
hydref yn dilyn derbyn cadarnhad
o lefel ariannu grant Llywodraeth Cymru.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nododd yr aelodau'r prif
sylwadau canlynol:
·
Llongyfarch yr adrannau ar
eu rheolaeth ariannol dynn. A
oedd disgwyliad i’r adrannau i
barhau i danwario?
·
A oedd gorwariant yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd oherwydd materion tu hwnt i
reolaeth yr Adran ac oedd y tanwariant yn yr
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant oherwydd methiant i ddarparu gwasanaethau?
·
A ellir cynnwys yn yr adroddiad
y tueddiadau blynyddol?
·
Na allai’r Cyngor gystadlu efo cwmnïau preifat
o ran y prisiau a godir am waredu gwastraff masnachol;
·
A oedd symudiad y Cyngor tuag at alluogi unigolion hŷn i barhau
i fyw yn
eu cartrefi yn golygu bod gorwariant
ar ofal cartref?
·
A oedd y gorwariant ar wasanaethau
gwastraff oherwydd y ddirwy a dderbyniodd y Cyngor yng nghyswllt
storio deunyddiau yn Nepo Tywyn?
·
Bod y pwyllgor wedi codi
pryderon yn y gorffennol o ran gorwariant gwasanaeth morwrol ac y dylid gofyn i’r
Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi i ystyried ehangu
eu gwaith craffu ar adolygu
trefniadau rheoli a llywodraethu Hafan Pwllheli i gynnwys
yr holl harbyrau;
·
Pryder bod yr Adran Ymgynghoriaeth yn tanwario o ystyried risg cynyddol llifogydd.
Dylid gwario’r arian i wneud
mwy o waith i reoli’r risg;
·
Yr angen i sicrhau bod unrhyw tanwariant ddim yn fethiant i
ddarparu gwasanaethau ac yn danwariant dilys.
Ymatebodd y swyddogion
i’r sylwadau fel a ganlyn:
·
Roedd nifer o adrannau wedi tanwario
ar sail un-tro yn dilyn cyflawni
arbedion effeithlonrwydd yn gynnar. Amlygwyd
mai canran isel oedd y tanwariant
o ystyried maint y gyllideb a bod cyllidebau 2017/18
yr adrannau wedi eu haddasu
i adlewyrchu’r incwm a gasglwyd yn 2016/17, ayb;
·
Nid oedd gorwariant yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd
a thanwariant yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant oherwydd methiant i ddarparu gwasanaethau;
·
Roedd yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd wedi gorwario’n bennaf ar wasanaethau lleoliadau. Roedd yr Adran wedi
derbyn bid parhaol o £50k a
bid £210k un-tro ar gyfer 2017/18 i gydnabod y pwysau sydd ar y gwasanaethau;
·
Roedd yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi tanwario oherwydd
derbyn arian
gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a oedd yn ddyledus
ar gyfer rhai blynyddoedd blaenorol. Nodwyd mai sefyllfa un-tro ydoedd.
·
Bod rhaid dethol y wybodaeth a gyflwynir yn yr
adroddiad, os oedd yr aelodau
yn dymuno derbyn gwybodaeth am dueddiadau, byddai rhaid dewis maes
am sylw manwl;
·
Bod cwmnïau preifat yn cael
dewis o ba ardaloedd yr oeddent
yn casglu gwastraff masnachol, gyda’r Cyngor yn
gwasanaethu'r ardaloedd nad oedd
yn derbyn gwasanaeth gan gwmnïau preifat. Roedd y Cyngor yn darparu’r gwasanaeth
hwn gyda’r nod o adennill costau;
·
Bod symudiad
y Cyngor tuag at alluogi unigolion hŷn i barhau
i fyw yn
eu cartrefi yn ffactor. Roedd
y newid pwyslais a gwireddu cynlluniau arbedion yn dangos
tueddiad o ran pwysau ychwanegol ar wasanaethau
gofal cartref.
·
Nid y gwasanaethau gwastraff
oedd wedi derbyn dirwy, ond
yn hytrach gwasanaeth Cynnal Priffyrdd. Roedd y dirwy wedi ei
gynnwys o fewn ffigyrau gwariant Priffyrdd.
·
Y byddai
tanwariant yr Adran Ymgynghoriaeth i’w gario ‘mlaen
i 2017/18. Pwysleisiwyd bod
yr Adran yn gweithredu’n fasnachol.
PENDERFYNWYD:
(i)
Nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol
yng nghyswllt cyllidebau’r Cyngor a’i adrannau.
(ii)
Argymell i’r Cabinet dderbyn yr adroddiad
a chymeradwyo’r argymhellion.
(iii) Gofyn i’r Pwyllgor Craffu
Addysg ac Economi i ystyried ehangu
eu gwaith craffu ar adolygu
trefniadau rheoli a llywodraethu Hafan Pwllheli i gynnwys
yr holl harbyrau.
Dogfennau ategol: