Cyflwyno, er gwybodaeth, y datganiadau ariannol statudol (yn amodol ar archwiliad) ar gyfer 2014/15.
Cofnod:
Gosodwyd cefndir a
chyd-destun i’r adroddiad gan y Pennaeth Cyllid. Tynnwyd sylw mai cyfrifon
drafft heb eu harchwilio a gyflwynir yma er gwybodaeth, gyda’r fersiwn terfynol
i’w gyflwyno er cymeradwyaeth y Pwyllgor yng nghyfarfod 24 Medi 2015.
Tywysodd yr Uwch Reolwr
Cyllid yr aelodau drwy’r cyfrifon, gan nodi byddai’r
Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn cael ei gynnwys hefyd gyda’r cyfrifon i ffurfio un ddogfen gyfansawdd gerbron cyfarfod nesaf y Pwyllgor. Adroddwyd bod cyfrifon
llynedd wedi derbyn oddeutu 800 o ymweliadau ar y wefan a bod hyn yn
galonogol.
Llongyfarchwyd yr adrannau am eu gwaith rheoli
cyllidebau, gan fod tanwariant yn cynrychioli dim ond 0.18% (pwynt un wyth
o un y cant) o’r cyfanswm
gwariant.
Tynnodd y Pennaeth Cyllid sylw at ffigwr yng nghyswllt ‘Ailfesuriad o’r ymrwymiadau/(asedau)
buddion diffiniedig net’ o
£70,697 miliwn ar dudalen 9 o’r cyfrifon.
Eglurodd nad
oedd y sefyllfa ymrwymiadau pensiwn wedi newid llawer,
ond defnyddir dull rhagdybiaeth actiwaraidd gyda phris heddiw
yn cael ei
roi ar rai ymrwymiadau pensiwn 60 mlynedd yn y dyfodol.
Nododd bod rheolau cyfrifo yn mynnu
defnydd o’r gyfradd dychweliadau ar bondiau fel
y gyfradd ddisgowntio, sy’n golygu bod symudiad mawr rhwng
blynyddoedd yng ngwerth tybiannol yr ymrwymiadau pensiwn, ond sydd
ddim yn newid
go iawn mewn termau arian
parod, a gallai rhoi camargraff o’r sefyllfa.
Mewn ymateb i gwestiwn
parthed costau ymddeoliadau mewn adeg o doriadau, nododd y Pennaeth Cyllid bod y gost ychwanegol yn cael
ei adnabod pan wneir ceisiadau am ymddeoliad a gaiff ei gyllido gan
gyfraniad gan yr Adran a/neu’r
Gronfa Diswyddo Gorfforaethol. Atgoffwyd yr aelodau eu bod wedi ystyried
penderfyniad Cabinet y Cyngor
ar 23 Mehefin 2015 i drosglwyddo £2,986,685 i’r Gronfa Ddiswyddo
yng nghyfarfod diwethaf y Pwyllgor. Nodwyd na
ellir rhagweld union gyfanswm y gost, ond bod darpariaeth yn y Gronfa Ddiswyddo
yn cael ei
adolygu yn gyson ar gyfer
cyfarch y costau.
Mewn
ymateb i gwestiwn pellach, nodwyd bod yr actiwari
wedi cymryd i ystyriaeth y newid oed pensiwn
o 65 i 67 mlynedd.
Cyfeiriodd
aelod at falansau ysgolion o dan ‘Nodyn 10 – Trosglwyddiad i/o Gronfeydd/Reserfau a glustnodwyd’ ar dudalen 26, nododd y dylid parhau i
annog ysgolion i ostwng eu
balansau. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid yr anogir ysgolion
i ddefnyddio balansau ar gyfer
addysg y disgyblion, a bod yr Adran Addysg
yn sicrhau eglurhad yn flynyddol
o ran bwriad yr ysgolion i ymdrin
â’r arian.
Yng
nghyswllt balansau ysgolion, awgrymodd aelod fod angen
ail-edrych ar y fformiwla cyllido ysgolion.
Mewn ymateb i sylw
gan aelod, nododd y Pennaeth Cyllid fod y Cyngor
Llawn yn ei gyfarfod ar
9 Hydref 2014 wedi tanlinellu penderfyniad blaenorol i beidio
buddsoddi arian y Cyngor ei hun
yn Israel. O ran buddsoddiadau’r
Gronfa Bensiwn, byddai wedi golygu
proses hir a chostus o ail-gytundebu efo Rheolwyr
Buddsoddi'r Gronfa i sicrhau na fuddsoddir yn Israel. Nododd bod swyddogion ac aelodau’r Pwyllgor Pensiynau yn ceisio dylanwadu
ar Reolwyr Buddsoddi'r cwmnïau, sydd yn buddsoddi
ar ran y Gronfa, ar sut y buddsoddir
yr arian,
ac hefyd yn ceisio dylanwadu trwy’r Fforwm Gronfa
Bensiwn Awdurdodau Lleol. Ychwanegodd bod penderfyniadau buddsoddi,
er mwyn diogelu
buddiannau aelodau’r cynllun yn gorfod
cael eu gwneud
ar rinwedd y cwmnïau a’r enillion
a dderbynnir.
Cyfeiriodd
aelod at gostau eraill cyflogwr o dan ‘Nodyn 31 – Taliadau i Swyddogion’
ar dudalen 56 yng nghyswllt ymddeoliadau
Uwch Swyddogion. Nododd yr Uwch
Reolwr Cyllid bod y ffigyrau yn adlewyrchu
costau ychwanegol i’r Cyngor ac nad oeddynt yn daliadau uniongyrchol.
Diolchwyd i’r holl staff ynghlwm â pharatoi’r cyfrifon a holl staff y
Cyngor sy’n ymwneud â chyllidebau’r Cyngor am eu gwaith caled a manwl.
PENDERFYNWYD derbyn a nodi Datganiad o Gyfrifon y Cyngor (yn amodol ar archwiliad) 2014/15.
Dogfennau ategol: