Agenda item

Ystyried adroddiad y Swyddog Monitro  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch GyfreithiwrCorfforaethol yn nodi pwysigrwydd y drefn o ran y cyswllt agos hefo gofal cwsmer i sicrhau bod cwynion yn cael sylw dyladwy a bod goruchwyliaeth o’r ymatebion.

 

          Nodwyd pryder yr aelodau

-       na fydd y Gymraeg, sydd mor bwysig, yn derbyn sylw teilwng o ddilyn y drefn gwynion gorfforaethol.

-       am y fiwrocratiaeth ac y byddir yn colli golwg ar y nod.

-       am ddiffyg rôl i’r pwyllgor o ran dylanwad ar y cwynion a’r ymatebion.  Nodwyd, o ran cadw golwg ar y safonau, mae tystiolaeth yn bodoli bod y Cyngor yn ymateb i’r safonau yn iawn beth bynnag a chwestiynwyd rôl y pwyllgor. 

 

Eglurodd y Swyddog Monitro mai trefn gwynion gorfforaethol ar gyfer y cyhoedd ydyw i godi cwynion ynglŷn â gwasanaeth, yn cynnwys cwynion iaith.  Nodwyd bod y cyhoedd eisiau datrysiad sydyn felly hanfod y drefn yw gwneud pethau yn rhwydd i’r cwsmer.  Os oes gan aelod gwyn, gellir cysylltu â’r gwasanaethau uniongyrchol.  Bydd yna rôl i’r pwyllgor os daw yn amlwg bod patrwm cynyddol i’r cwynion ond dim rôl y pwyllgor ydi delio hefo cwynion unigol. Rôl ehangach o ran ansawdd iaith fydd gan y pwyllgor drwy edrych ar dueddiadau.

 

Mynegwyd pryder aelod nad oedd aelodau’r pwyllgor yn cael gweld y cwynion o hyn ymlaen.  Mewn ymateb nodwyd mai cwynion unigol oedd yn cael eu cyflwyno yn y gorffennol ac nid oedd y pwyllgor yn gweld patrymau dros amser.  O ganlyniad nid oedd dylanwad ar raglen waith y pwyllgor.  Trwy ddilyn y drefn gwynion gorfforaethol bydd tueddiadau yn cael eu hadnabod a gellir dod a’r tueddiadau hynny gerbron y pwyllgor yma.

 

Mynegwyd pryder aelod bod y Gymraeg yn cael ei gwthio i gael yr un math o ystyriaeth a chwyn am dwll yn y ffordd.  Mae’r Gymraeg yn gwbl wahanol ac yn treiddio drwy holl waith y Cyngor.

 

Cyfeiriodd yr Uwch GyfreithiwrCorfforaethol at bwynt 17 yn yr adroddiad sydd yn nodi’r bwriad i adrodd i’r pwyllgor hwn am y niferoedd a’r mathau o gwynion iaith, y patrymau a chynlluniau i wella.  Adroddodd bod y trefniadau yn gryfach o fewn y Cyngor erbyn hyn ac yn sicrhau bod y cwsmer yn cael ateb i’w cwyn.  Mae safon sut mae’r Cyngor yn delio hefo cwynion wedi gwella oherwydd bod yna oruchwyliaeth.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod adroddwyd na dderbyniwyd cwyn iaith ers y cyfarfod diwethaf o’r pwyllgor hwn.

 

          Gofynnodd aelod a oedd modd mynd yn ôl i ddefnyddio’r hen drefn.  Mewn ymateb eglurodd y Swyddog Monitro mai cyfrifoldeb y Cabinet yw’r drefn gwynion a’r Cabinet sydd wedi mabwysiadu’r drefn yma ar sail model cenedlaethol. Hon yw’r drefn gwynion gorfforaethol.  Mae’r drefn yn sicrhau bod problem sydd angen mwy o sylw yn cael sylw a bod y drefn yn un syml sy’n pwyso ar adrannau i gael datrysiad.

 

          Awgrymodd aelod bod cais yn mynd i’r Cabinet i ail edrych ar y drefn o safbwynt cwynion iaith.  Adroddodd bod cwynion iaith yn wahanol i bob cwyn arall ac o ystyried bod yr iaith uwchlaw bob dim arall dylid ymdrin â’r cwynion iaith yn wahanol oherwydd y statws a roddir i’r iaith. 

 

          Awgrymodd y Swyddog Monitro bod y pwyllgor yn derbyn adroddiad o dan y drefn newydd gyntaf a gweld sut mae’n cyrraedd gofynion yn hytrach na mynd am gyfundrefn gyhoeddus ar wahân ar gyfer iaith.  Bydd adroddiad blynyddol cyhoeddus yn cael ei baratoi.   Bydd dwy gyfundrefn gyhoeddus yn creu dryswch i’r cyhoedd.

 

          PENDERFYNWYD bod y pwyllgor yn derbyn adroddiad ar y drefn newydd i weld sut mae’n gweithio.

 

Dogfennau ategol: