Ystyried adroddiad
y Swyddog Monitro (ynghlwm).
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad y Swyddog Monitro yn gofyn
i’r pwyllgor gynnal hunan asesiad
o waith ac allbynnau’r pwyllgor yn ystod
2016-17 ac ystyried rhaglen
waith ddrafft ar gyfer 2017-18.
Gofynnwyd i’r
aelodau ystyried y swyddogaethau a restrwyd yng ngholofn gyntaf
yr hunan asesiad gan nodi
pa asesiad a gredai oedd yn
berthnasol iddynt gan ddefnyddio’r categorïau canlynol:-
·
Categori 1 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gwneud cynnydd
sylweddol iawn yn cyflawni’r swyddogaethau, neu yn achos tasgau penodol, nad
yw’r angen i weithredu wedi codi.
·
Categori 2 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r
swyddogaeth yn sylweddol, gan gynnal yr un safon â llynedd.
·
Categori 3 – Tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r swyddogaeth,
ond bod angen rhoi sylw pellach.
·
Categori 4 – Dim tystiolaeth bod y pwyllgor wedi gweithredu’r
swyddogaeth a bod sail i awgrymu bod angen rhoi sylw i’r maes.
Eglurwyd hefyd:-
·
Bod angen nodi’r dystiolaeth sy’n cefnogi’r categori
mae’r pwyllgor yn ei ddyfarnu.
·
O ddyfarnu categori i bob swyddogaeth a nodi’r
dystiolaeth, gallai’r pwyllgor ddod i gasgliad ynglŷn â pha gamau pellach sydd angen eu cymryd, os o gwbl.
·
Y byddai unrhyw
awgrymiadau am gamau pellach yn bwydo trwodd i raglenni gwaith y pwyllgor i’r
dyfodol.
Nodwyd y dylai rhaglen waith
2016-2017 (Atodiad 2 i’r adroddiad) gynnwys y rheswm dros beidio
cynnal cyfarfod o’r pwyllgor ar
27 Mawrth, 2017.
PENDERFYNWYD
(a)
Mabwysiadu’r canlynol fel hunan
asesiad y pwyllgor o’i waith (ychwanegiadau i’r ddogfen mewn llythrennau italig
ac wedi’u tanlinellu):-
SWYDDOGAETH |
ASESIAD (1/2/3/4) |
TYSTIOLAETH |
CAMAU
PELLACH |
Hyrwyddo a chynnal safonau ymddygiad uchel gan aelodau |
2 |
Mae’r Cadeirydd neu’r Is-gadeirydd wedi mynychu Fforwm Safonau Gogledd Cymru i rannu profiadau
hefo pwyllgorau safonau eraill Nifer fechan iawn o gwynion sy’n dod gerbron. Darperir rhaglen anwytho ar gyfer
aelodau newydd. |
Cadw golwg ar
batrymau cwynion. |
Cynorthwyo’r aelodau i gadw at y Cod Ymddygiad |
1 |
Cefnogi rhaglen anwytho ar gyfer
y Cyngor newydd. Mae bron pob aelod
wedi bod yn y sesiynau byr ar y Cod Ymddygiad ar y dyddiau anwytho sy’n cyflwyno’r hanfodion i’r aelod. Mae tua 20 aelod wedi mynychu
hyfforddiant pellach ac mae rhagor o hyfforddiant i ddod ym mis
Medi. |
Y pwyllgor i ystyried
y data adborth o’r sesiynau hyfforddiant a thargedu yn effeithiol
ar sail hynny. Dylai’r adroddiad meintiol hefyd nodi pa ganran o’r aelodau
sydd wedi derbyn yr hyfforddiant. Ystyried dulliau o gynyddu diddordeb aelodau yn y pwnc. Y pwyllgor i dderbyn
adroddiad ar sut mae aelodau
cymuned a sir yn cael eu hyfforddi
gyda’r bwriad o lunio cynllun fydd yn defnyddio
dulliau hyfforddi llai confensiynol. |
Cynghori’r Cyngor ynglŷn
â mabwysiadu neu ddiwygio’r Cod Ymddygiad |
2 |
Rhoddwyd ystyriaeth i ddiwygiadau i’r Cod Ymddygiad Enghreifftiol ar gyfer eu mabwysiadu
gan y Cyngor llawn. |
Ystyried os oes
angen ystyriaethau mwy lleol ar
y Cod Ymddygiad Enghreifftiol. |
Monitro gweithrediad y Cod Ymddygiad |
2 |
Derbyn adroddiadau rheolaidd o honiadau yn erbyn aelodau. Derbyn adroddiadau blynyddol gan yr Ombwdsmon a Phanel Dyfarnu Cymru. Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a datganiadau a wneir. Derbynnir adroddiadau blynyddol am y gofrestr buddiannau a lletygarwch. |
Edrych ar y dull o adrodd ar y cofrestrau
buddiannau / lletygarwch
a cheisio cael gwell dealltwriaeth o beth yw’r amgylchedd
buddiannau a lletygarwch. Ydi’r arweiniad yn glir ar hyn?
Y pwyllgor i dderbyn
adroddiad ar y protocolau buddiannau / lletygarwch drafft. Dylai’r adroddiad gynnwys enghreifftiau o’r mathau o roddion sy’n briodol / amhriodol gan edrych hefyd oes yna batrymau
o ran pwy sydd wedi rhoi rhoddion,
ayb. |
Cynghori, hyfforddi neu drefnu i
hyfforddi aelodau ar faterion yn
ymwneud â’r Cod Ymddygiad |
2 |
Bod mewnbwn yn cael
ei roi i’r hyfforddiant. Y sesiynau anwytho a hefyd y 2-3 cwrs sydd wedi’u rhedeg. Dylid nodi hefyd ei
bod yn flwyddyn etholiad. |
Rhaglen Hyfforddiant newydd a dilyn hwn ymhellach. Edrych ar yr holl
gyfundrefn hyfforddi ar y Cod Ymddygiad. |
Rhoi goddefebau i aelodau |
1 |
Ymdriniwyd â cheisiadau am oddefebau gan weithredu ar sail wrthrychol a phriodol. |
|
Ymdrin ag adroddiadau o dribiwnlys achos ac unrhyw adroddiadau gan y Swyddog Monitro ar faterion
a gyfeiriwyd gan yr Ombwdsmon |
Amherthnasol |
Ni chyfyd angen am wrandawiadau yn ystod y flwyddyn. |
|
Awdurdodi’r Swyddog Monitro i dalu
lwfansau i bersonau a gynorthwyodd gydag ymchwiliad |
Amherthnasol |
Ni fu achlysur i
dalu lwfans o’r fath. |
|
Ymarfer y swyddogaethau uchod mewn perthynas
â chynghorau cymuned |
|
Cyfathrebwyd gyda’r Cynghorau Cymuned i’w hysbysu o’r
newidiadau i’r Cod a threfnwyd hysbyseb ar y cyd â nifer ohonynt. |
Edrych ar ffyrdd
o godi ymwybyddiaeth a datblygu’r berthynas gyda chynghorau cymuned. |
(b)
Cymeradwyo’r rhaglen waith canlynol ar gyfer
2017-2018, gyda’r awgrymiadau am eitemau sy’n bwydo trwodd o’r camau pellach a
nodwyd dan (a) uchod:-
10 Gorffennaf, 2017
Adroddiad Blynyddol
Hunan Arfarniad a Rhaglen Waith
Honiadau yn erbyn aelodau
Trefn Datrys Lleol Un Llais Cymru
2 Hydref, 2017
Adroddiad Blynyddol yr Ombwdsmon
Honiadau yn erbyn aelodau
Adolygiad Protocolau
22 Ionawr, 2018
Cofrestr Rhoddion a Lletygarwch
Cofrestr Datgan Buddiant
Adroddiad Blynyddol y Panel Dyfarnu
Honiadau yn erbyn aelodau
27 Mawrth, 2018
Hunan Arfarniad a Rhaglen Waith
Hyfforddiant
Dogfennau ategol: