I ystyried adroddiad gan Uwch Reolwr
Ysgolion ar yr uchod.
(Copi’n amgaeedig)
Cofnod:
Croesawyd y canlynol i’r Fforwm ar gyfer yr eitem hon:
Eifion Jones - Ymgynghorydd
Annibynnol
Arwel Pierce - Cadeirydd
Corff Llywodraethol Ysgol Uwchradd
Tywyn
David Thorp - Dirprwy Bennaeth Ysgol Uwchradd Tywyn
Cyflwynwyd adroddiad arbenigwr annibynnol ar
waith ymchwil o gyllideb a diffyg ariannol Ysgol Uwchradd Tywyn.
Tynnwyd
sylw’r Fforwm i gadw mewn cof bod y gwaith yn gychwyn tuag at gyflawni elfennau
o brosiect P1 yng Nghynllun y Cyngor sef:
(a)
Cymerodd
yr Ymgynghorydd Annibynnol y cyfle i ddiolch i Lywodraethwyr a staff yr
ysgol am eu cydweithrediad tra yn cynnal yr ymchwiliad a’r ffaith eu bod yn
hollol agored ac yn awyddus i symud ymlaen.
Ymhelaethwyd ar y cefndir, cyd-destun sefyllfa gyllidol yr ysgol, y
camau a weithredwyd eisoes a rhagolygon yr ysgol o 2017/18 ymlaen. Darganfuwyd
bod sawl rheswm o anallu yr ysgol i osod cyllideb cytbwys megis:
·
Cwymp
sylweddol yn nifer disgyblion dros y blynyddoedd
·
Colli
hanner yr arian oherwydd lleihad yn y niferoedd – fodd bynnag rhagolygon yn
awgrymu ychydig bach mwy o ddisgyblion
·
Lefel
y gefnogaeth yn lleihau
·
Trefniadau
gwarchodaeth gyllidol gyda niferoedd isel o ddisgyblion
Mewn cyfnod o geisio gwarchod a chodi safonau addysgol, roedd yr ysgol
wedi gwneud camau breision gan gadw’r balans o
hygrededd staff a’r gymuned, ac yr un pryd yn cydnabod bod camau eraill i’w gyflawni.
O ran camau gweithredu, nodwyd bod yr ysgol wedi:
·
Adolygu
cyfrifoldebau a lefel staffio yr ysgol
·
Lleihau
grwpiau dysgu’r ysgol yn y pynciau craidd ond yn parhau i ateb gofynion
statudol cwricwlwm CA3 a CA4
·
Arfarnu
ac ail-strwythuro’r drefn taliadau CAD (Cyfrifoldebau Addysgu a Dysgu) i
reolwyr canol yr ysgol
·
Ad-drefnu’r
Uwch Dim Rheoli
·
Adolygu
a rhesymoli lefel o gyllid ym mhenawdau eraill y gyllideb
Ochr yn ochr â’r uchod, bu i’r ysgol weithio’n galed i gynnal a chodi
safonau gan sicrhau cynnydd da. Tynnwyd
sylw bod defnydd o’r iaith Gymraeg yn cael blaenoriaeth yn y cwricwlwm gyda 95%
o ddisgyblion yn dilyn cwrs Cymraeg Iaith Gyntaf yn CA3 a CA4 er bod mwyafrif
sylweddol ohonynt yn siarad Saesneg ar yr aelwyd. Nodwyd ymhellach bod yr ysgol wedi dechrau
cynyddu nifer y disgyblion gan sicrhau bod holl ddisgyblion blwyddyn 6 y
dalgylch am fyncyhu’r
ysgol. Pe byddai’r ysgol wedi
gweithredu’n fwy llym o ran torri staff i greu arbedion cyllidol a thrwy hynny
allu gosod cyllideb cytbwys dros y tair blynedd diwethaf wedi golygu y byddai’r
cynnydd da yn y safonau a’r cynnydd yn nifer disgyblion wedi ei lesteirio.
Fodd bynnag, mae angen cyflawni arbedion pellach ar gyfer gallu gosod a
gweithredu cyllideb gytbwys yn gyson i’r dyfodol, ac fe restrodd yr
Ymgynghorydd Annibynnol y prif
newidiadau cyllidol real fesul blwyddyn dros y tair blynedd nesaf. Drwy wneud hyn, rhagwelir y gellir gosod a gweithredu
cyllideb cytbwys dynn ond mwy realistig yn 2017/18 a chyllidebau cytbwys a mwy
hyblyg dros y ddwy flynedd 2018-2020 fydd yn gallu cyfrannu at gostau
angenrheidiol blaenoriaethau datblygu’r ysgol.
Fodd bynnag, nodwyd y byddai’n anodd i’r ysgol gyfrannu at y £116,000 o
ddiffyg hanesyddol cronnus ar ddiwedd 2016/17.
Felly, roedd dau fater i’w ystyried ymhellach gan yr awdurdod sef:
·
Diffyg
cyllid hanesyddol
·
Lefel
y gwarchodaeth i ysgolion bach
(b) Adroddodd Cadeirydd Llywodraeth Ysgol Uwchradd
Tywyn na fyddai yn dymuno gweld ‘run ysgol yn yr un sefyllfa a bod y 4/5
mlynedd diwethaf wedi bod yn hunllefus.
Roedd yr Ymgynghorydd Annibynnol wedi crynhoi teimladau’r Llywodraethwyr
ac roeddynt yn ddiolchgar iddo am y cymorth a dderbyniwyd. Nodwyd ymhellach bod yr ysgol yn ynysig yn
ddaearyddol ond hyderir y bydd y sefyllfa yn parhau i wella i’r dyfodol. O safbwynt addysgu grwpiau o oddeutu 29
disgybl ym Mlwyddyn 8, gwelwyd anhawsterau i ymdopi
gyda’r ystod o allu o fewn y dosbarth, yn ogystal ag ystod o gefndir
ieithyddol. Fe fydd 65 o ddisgyblion yn dechrau ym Mlwyddyn 7 eleni a 3 ohonynt
yn Gymry Cymraeg ac felly roedd yn bwysig cynnal y gwaith da a wneir yn yr
ysgol gyda’r iaith Gymraeg. Gofynnwyd i’r Fforwm am ei gefnogaeth i achos
unigryw ac i nodi wrth y Cabinet bod y sefyllfa yn eithriad.
(c) Ategodd y Pennaeth Addysg (Dros Dro) o’r
gefnogaeth sydd i’r iaith Gymraeg ac y byddai’n gam i ddibrisio’r angerdd sydd
yn yr ardal dros yr iaith.
(d) Diolchodd yr Aelod
Cabinet Addysg i’r Ymgynghorydd Annibynnol ac i’r Llywodraethwyr a staff yr
ysgol am eu cydweithrediad parod a’i fod yn awyddus i gynnal trafodaeth bellach
gyda’r Tim Arweinyddiaeth maes o law.
(e) Yn ystod y drafodaeth
ddilynol, mynegwyd y prif bwyntiau canlynol gan aelodau’r Fforwm:
·
Gwelwyd gwerth o dderbyn y math yma o adroddiad gan
bod nifer o arweinwyr ysgolion heb gefndir ariannol, a bod angen mwy o
gefnogaeth ymarferol
·
Bod ysgolion yn cael eu herio a heb gyllid i’w
cefnogi roedd yn anodd cynnal safonau addysgol
·
Bod cwtogi ar bynciau mewn ysgolion bach yn anodd ac
o ganlyniad bod disgyblion yn symud i ysgolion eraill mwy
·
Nodwyd bwysigrwydd i beidio colli pynciau
·
A fyddai modd i’r awdurdod fod yn rhagweithiol gyda
ysgolion eraill o fod yn cynllunio ynghynt yn y tymor hir fel nad ydynt yn mynd
i drafferthion cyllidol
·
Bod sefyllfa pob ysgol yn unigryw
(f) Mewn ymateb i’r uchod,
nodwyd bod cefnogaeth ar gael i
ysgolion o fewn gallu a’r adnoddau sydd ar gael yn yr Uned Gyllidol. Ychwanegwyd bod rhydd i unrhyw Bennaeth
gysylltu á’r Rheolwr Cyllid a thynnwyd sylw bod
cymorthfeydd cyllidol ar gael i Benaethiaid.
Penderfynwyd: (a) Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad gan yr
Ymgynghorydd allanol.
(b) Gofyn i’r Aelod Cabinet Addysg drafod yr cefnogaeth
i’r ysgol ymhellach gyda’r Tim Arweinyddiaeth.
(c) Bod adroddiad yr Ymgynghorydd Annibynnol yn
gyfrinachol ac o’r herwydd ddim i ymddangos ar wefan gyhoeddus y Cyngor.
Dogfennau ategol: