Agenda item

I ystired adroddiad gan  Mr B

 

(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)

 

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr  B am drwydded gyrru cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol â’r cofnod DBS, ac yn unol â’r canllawiau ar droseddau a chollfarnau perthnasol.

 

Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar ei gais a rhoi gwybodaeth am gefndir y troseddau. Nododd ei fod yn ymddiheuro am eich ymddygiad yn y gorffennol pan yn ifanc a'i fod yn sylweddoli ei fod wedi ymddwyn yn wirion. Yn awr yn dad i bedwar o blant ac yn awyddus iddynt ddilyn y llwybr cywir. Eglurodd bod y drosedd o ddwyn yn ymwneud â gweithio gyda phobl yn betio ar beiriannau. Datblygodd arfer o fetio ac o ganlyniad wedi dwyn arian er mwyn gamblo. Cadarnhaodd ei fod wedi ceisio am gymorth ar gyfer ei broblem gamblo ac fe ymddiheurodd wrth ei gyn-gyflogwr a thalu’r arian yn ôl.

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd a’i gynrychiolydd o’r ystafell  tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

PENDERFYNWYD  bod yr ymgeisydd  yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd

 

            Wrth wneud eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:

 

·         gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer Hurio Preifat a Cherbydau Hacni  Cyngor Gwynedd’

·         ffurflen gais yr ymgeisydd

·         sylwadau llafar a gyflwynodd yr ymgeisydd a’i ddarpar gyflogwr yn ystod y gwrandawiad

·         tystlythyr calonogol yn gryf o blaid yr ymgeisydd wedi ei gyflwyno yn y gwrandawiad

·         adroddiad yr Adran Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS oedd yn datgelu collfarnau

 

Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion canlynol.

 

Bod cyfres helaeth o gollfarnau wedi eu datgelu ar gofnod DBS yr ymgeisydd rhwng 2001 a 2009 oedd yn cynnwys troseddau gydag elfennau o drais, o fod yn feddw ac afreolus ac yn 2002 am yrru heb yswiriant mewn cyfnod o waharddiad.  Roedd y gollfarn ddiweddaraf am ladrata (Ionawr 2009) mewn cysylltiad â throsedd a ddigwyddodd  Tachwedd 2008. Yn unol â pharagraff 16.1 o bolisi'r Cyngor sydd yn ymwneud ag ail-droseddu, rhaid yn gyntaf sicrhau bod y collfarnau’n bodloni canllawiau’r polisi yn unigol, ond gyda’i gilydd yn creu hanes o ail-droseddu oedd yn dangos diffyg parch at les eraill ac eiddo.  O dan y Polisi rhaid bod 10 mlynedd wedi mynd heibio ers y gollfarn fwyaf diweddar. Roedd y gollfarn olaf wyth mlynedd a hanner yn ôl ac roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod y troseddau yn berthnasol i’w penderfyniad.

 

Roedd yr Is-bwyllgor yn gwerthfawrogi bod  yr ymgeisydd wedi bod yn agored ac yn onest ynglŷn â’i gofnod troseddol a'r problemau a gafodd yn y gorffennol.  Roeddynt hefyd yn cydnabod yr ymdrech wirioneddol a wnaed i wella ei ymddygiad a’i ffordd o fyw, ac nad oedd tystiolaeth o unrhyw broblem wedi bod ers wyth mlynedd a hanner.  Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon y gellid rhoi trwydded i’r ymgeisydd, ond gyda hanes y troseddau yn fater difrifol penderfynwyd caniatáu'r drwydded am flwyddyn yn unig yn y lle cyntaf. 

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan Reolwr Gwarchod y Cyhoedd cadarnhaodd yr Is-bwyllgor  y byddent yn fodlon i’r drwydded bellach fod am y cyfnod arferol o 3 mlynedd petai dim wedi newid bryd hynny.

 

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y rhesymau uchod yn cyfiawnhau bod yr ymgeisydd yn berson addas a phriodol i dderbyn trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy  lythyr i’r ymgeisydd ac y byddai’r Uned Trwyddedu yn cadarnhau trefniant y drwydded.