Agenda item

Tŷ Castell, 18 Stryd Fawr, Caernarfon

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Roland Evans (ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:             Ffion Muscroft (Swyddog Iechyd Amgylchedd, Gwarchod y Cyhoedd – Cyngor Gwynedd)

                                                           

a)                    Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Tŷ Castell, 18 Stryd Fawr, Caernarfon mewn perthynas â chyflenwi alcohol, cerddoriaeth fyw wedi ei recordio a lluniaeth hwyr y nos. Amlygwyd mai cerddoriaeth gefndirol yn unig oedd bwriad y gerddoriaeth wedi ei recordio ac mai cerddoriaeth acwstig, achlysurol fydd y gerddoriaeth fyw. Gofynnwyd hefyd am hawl i weini lluniaeth hwyr y nos ac alcohol ar ddiwrnodau gŵyl.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod dau o lythyrau wedi eu derbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Tynnwyd sylw at sylwadau a gyflwynwyd gan Gwasanaeth Cynllunio Cyngor Gwynedd ynghyd a sylwadau ac argymhellion Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd. Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeiswyr a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd a bod cytundeb bellach i leihau'r oriau trwyddedig ac i dderbyn amodau sŵn fel rhan o’r drwydded.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Mewn ymateb i’r adroddiad gofynnwyd i’r Swyddog Trwyddedu os oedd y gwrthwynebwyr yn ymwybodol o’r addasiad i’r oriau agor. Nododd yr ymgeisydd ei fod wedi trafod y gostyngiad mewn oriau gydag un o’r gwrthwynebwyr ac o ganlyniad roedd y gwrthwynebydd wedi croesawu’r penderfyniad yma.

 

d)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:

·      Bod datblygu Tŷ Castell wedi bod yn gyfle i wireddu gweledigaeth

·      Bod yr adeilad wedi bod yn segur ers 1994 - yn adeilad Gradd 2 gan Cadw. Adnewyddu'r adeilad yn arwain at adfywio rhan o’r dref

·      Y bwriad yw creu bwyty tapas gyda naws Gymreig  - gyda gwinoedd a chwrw o safon a gwesty bwtic 5 ystafell yn cyflogi hyd at saith o bobl. Bydd bwriad i hyrwyddo'r Gymraeg a defnyddio cynnyrch lleol

·      Bydd archebion bwyd yn gorffen am 9:30pm gyda bwriad cau'r gegin am 10:30pm a chau y bwyty am hanner nos.

·      Nid oes bwriad cynnal bar swnllyd - rhaid cyfarch disgwyliadau ac anghenion y gwesteion.

·      Hyblygrwydd oriau'r drwydded bellach wedi ei haddasu yn realistig

·      Wedi derbyn cefnogaeth a brwdfrydedd gan bobl leol

·      Wedi mynychu cwrs i dderbyn Trwydded bersonol

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r diffyg o beidio gallu agor ffenestri y bwyty, amlygwyd bod system awyru wedi ei gosod yn y gegin, seler, toiledau, cegin a’r ystafelloedd ymolchi ynghyd a ffenestri mawr yn y llofftydd i ysgogi awyr iach. Yn ychwanegol, yng nghyd-destun sŵn, pwysleisiwyd mai cerddoriaeth acwstig ysgafn fydd yn cael ei chwarae ar raddfa fechan e,e ar achlysur lansio cd neu lyfr.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â gwaredu gwastraff, amlygwyd bod amod wedi ei gynnwys gan Gwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd yn nodi na fydd modd gwaredu poteli a chaniau tu allan i’r adeilad trwyddedig rhwng 22:00 a 08:00. Ychwanegodd yr ymgeisydd bod ganddynt drwydded sydd yn caniatáu cadw gwastraff mewn cwrtil yng nghefn swyddfeydd y Cyngor Sir.

 

Gwnaed cais i’r ymgeisydd sicrhau y byddai'r system TCC yn cael ei wasanaethu yn gyson a bod lluniau glan o safon ar gael i’r Heddlu a’r Gwasanaeth Trwyddedu petai gofyn amdanynt.

 

Cydnabuwyd llythyrau a oedd wedi ei derbyn yn datgan gwrthwynebiad i’r cais gan RG a SF Colclough a Nia Dryhurst.

 

Nododd Swyddog Iechyd Amgylchedd bod yr Adran yn hapus gyda’r cytundeb i ostwng yr oriau ac i’r amodau gael eu cynnwys yn y drwydded.

 

e)         Wrth ystyried y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

 

           Trosedd ac Anrhefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig i  oriau terfynol cynharach ac amodau arfaethedig o ran rheoli sŵn a goleuo:

 

Rhoddir trwydded fel a ganlyn:

 

1.      Caniateir cerddoriaeth fyw dan do (rhan E o’r cais), ar ddydd Llun rhwng 12:00 a 00:00, o ddydd Mawrth i ddydd Iau rhwng 18:00 a 00:00, o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn rhwng 12:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 12:00 a 22:00.

2.      Caniateir cerddoriaeth wedi ei recordio (rhan F) dan do, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 08:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 08:00 a 22:00.

3.      Caniateir adloniant yn disgyn o fewn rhan H o’r cais dan do, o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 18:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 18:00 a 22:00.

4.      Caniateir darparu lluniaeth hwyr yn nos dan do (rhan I), o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 23:00 a 00:00.

5.      Caniateir cyflenwi alcohol i’w yfed ar ac oddi ar yr eiddo (rhan J), o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 11:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 11:00 a 22:00.

6.      Mae’r oriau agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 08:00 a 00:30, ac ar ddydd Sul rhwng 08:00 a 22:30.

7.      Mewn perthynas â’r holl weithgareddau trwyddedig uchod caniateir ymestyniad o 1 awr ar yr awr derfynol ar gyfer amseroedd ansafonol, gan gynnwys nosweithiau cyn gŵyl banc a gwyliau banc.

8.      Mae’r materion sydd wedi eu cynnwys yn rhan M o’ch cais (h.y. yr atodlen weithredu) yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.

9.      Er llawnder, ychwanegir amod cadw clipiau teledu cylch cyfyng yn cael eu cadw am o leiaf 28 diwrnod ac yn darparu'r rhain ar alw i’r Awdurdod Trwyddedu a’r Heddlu.

10.   Ychwanegir yr amodau rheoli sŵn a rheoli goleuo a awgrymwyd gan Iechyd Amgylcheddol ac a gytunwyd iddynt gan yr ymgeiswyr.

 

Wrth ystyried sylwadau'r gwrthwynebwyr oedd yn mynegi pryder y byddai caniatáu'r drwydded yn arwain at gynnydd mewn pobl yn ymadael â’r eiddo yn hwyr yn y nos, ac y byddai hyn yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, ni ddarparwyd eglurhad na thystiolaeth sut y byddai cynnydd mewn pobl yn arwain yn anorfod at gynnydd mewn niwsans cyhoeddus. Nid yw bodolaeth nifer o bobl mewn un lle ynddo’i hun yn dystiolaeth o niwsans cyhoeddus.  Gallai problemau sŵn neu sbwriel neu broblemau tebyg mewn egwyddor arwain at niwsans cyhoeddus, ond nid dyma oedd sail y sylwadau a gyflwynwyd.

 

Wrth ystyried sylwadau'r gwrthwynebwyr oedd yn mynegi pryder y byddai rhoi’r drwydded yn arwain at gynnydd mewn problemau sŵn yn hwyr yn nos derbyniodd yr Is Bwyllgor  bod sŵn mewn egwyddor yn gallu bod yn berthnasol i’r amcan trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus, ond ystyriwyd y sylwadau yn rhai damcaniaethol. Ni chyflwynwyd unrhyw dystiolaeth y byddai problem sŵn sy’n gyfystyr â niwsans cyhoeddus yn debygol o ddigwydd petai’r drwydded yn cael ei rhoi.

 

Nodwyd bod Iechyd Amgylcheddol wedi cyflwyno sylwadau yn cadarnhau nad oedd gwrthwynebiad i’r cais, ond  argymhellwyd cyfres o amodau o ran rheoli sŵn a goleuo. Roedd yr Is-bwyllgor yn derbyn bod cytundeb rhwng yr ymgeiswyr a'r gwasanaeth, i’r amodau hyn gael eu cynnwys ar y drwydded, petai’r drwydded yn cael ei chaniatáu.

 

Ategwyd er gwybodaeth, y diystyriwyd sylwadau o ran ardrawiad cronnus neu “cumulative impact”. Adroddwyd nad oedd gan y Cyngor bolisi ardrawiad cronnus ac felly roedd tu hwnt i awdurdod yr Is-bwyllgor i wneud penderfyniad o ran cyflwyno polisi o’r fath. Byddai’n disgyn ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog i benderfynu cyflwyno polisi ardrawiad cronnus, a hynny yn dilyn tystiolaeth fyddai yn cyfiawnhau creu polisi.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.

 

 

 

Dogfennau ategol: