skip to main content

Agenda item

Tŷ Glyndwr, Bunkhouse Bar a Caffi, 1 Stryd y Castell, Caernarfon

 

I ystyried y cais uchod

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Rhys Davies (ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:             Ffion Muscroft (Swyddog Iechyd Amgylchedd, Gwarchod y Cyhoedd – Cyngor Gwynedd)

                                                           

a)         Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Tŷ Glyndwr, 1 Stryd y Castell, Caernarfon mewn perthynas â chyflenwi alcohol, cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio, perfformiad dawns a dangos ffilmiau yn achlysurol a lluniaeth hwyr y nos. Amlygwyd mai cerddoriaeth gefndirol yn unig yw bwriad y gerddoriaeth wedi ei recordio ac mai cerddoriaeth acwstig, achlysurol fydd y gerddoriaeth fyw fydd yn cael ei chwarae yn y seler.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod un llythyr wedi ei dderbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcanion trwyddedu o atal niwsans cyhoeddus. Tynnwyd sylw at sylwadau ac argymhellion Swyddog Iechyd yr Amgylchedd Cyngor Gwynedd. Amlygwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd  a Swyddog Iechyd yr Amgylchedd, a bod cytundeb bellach i beidio caniatáu mynediad i’r cyhoedd, nad ydynt yn breswylwyr ar ôl 23:30, ac i dderbyn amodau sŵn fel rhan o’r drwydded. Tynnwyd sylw at sylwadau Heddlu Gogledd Cymru oedd heb eu cynnwys yn yr adroddiad - darllenwyd y sylwadau ar lafar yn llawn gan y Swyddog Trwyddedu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sylw'r heddlu ‘bod digon o gamerâu i recordio delweddau’, nododd yr ymgeisydd bod system TCC newydd wedi ei gosod gyda 5 camera yn gwylio'r ardaloedd cyhoeddus.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:

·      Nad oedd bwriad creu bar swnllyd – creu bar cymdeithasol yw y nod – lle diogel am sgwrs

·      Bydd llety ar gael

·      Bod gwariant sylweddol ar ddulliau gwaredu sŵn

·      Ei fod yn derbyn yr amodau sŵn ac amodau'r heddlu

·      Derbyn hefyd fel amod na fydd mynediad i’r cyhoedd ar ôl 23:30

 

ch)       Nododd Swyddog yr Amgylchedd bod trafodaethau da wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd a bod pob ymdrech wedi ei wneud i leihau sŵn fel nad yw yn tarfu ar y cymdogion. Cadarnhawyd bod yr amodau wedi eu derbyn.

 

d)         Cydnabuwyd y llythyr oedd wedi ei dderbyn yn datgan gwrthwynebiad i’r cais gan RG a SF Colclough.

 

dd)         Gwnaed cais i’r ymgeisydd sicrhau y byddai'r system TCC yn cael ei wasanaethu yn gyson a bod lluniau glan o safon ar gael i’r Heddlu a’r Gwasanaeth Trwyddedu petai gofyn amdanynt.

 

 

e)         Wrth ystyried y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

 

           Trosedd ac Anrhefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol:

 

    Rhoddwyd y drwydded fel a ganlyn:

 

1.      Caniateir cerddoriaeth fyw dan do (rhan E o’r cais), o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 11:00 a 00:00.

2.      Caniateir cerddoriaeth wedi ei recordio (rhan F) dan do, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 11:00 a 01:00.

3.      Caniateir perfformiadau dawns (rhan G) dan do, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 11:00 a 00:30.

4.      Caniateir adloniant yn disgyn o fewn rhan H o’r cais dan do, o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 11:00 a 00:30.

5.      Caniateir darparu lluniaeth hwyr yn nos dan do (rhan I), o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 a 07:00.

6.      Caniateir cyflenwi alcohol i’w yfed ar yr eiddo (rhan J), o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 11:00 a 01:30. Caniateir cyflenwi alcohol i’w yfed ar yr eiddo hyd at 02:00 ar gyfer partïon preifat.

7.      Mae’r oriau agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 07:00 a 02:00, yn ddarostyngedig i amod na chaniateir mynediad i’r cyhoedd nad ydynt yn breswylwyr ar ôl 23:30.

8.      Mae’r materion sydd wedi eu cynnwys yn rhan M o’r cais (h.y. yr atodlen weithredu) yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.

9.      Ychwanegir fel amodau i’r drwydded yr amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu o ran teledu cylch cyfyng.

10.   Ychwanegir yr amodau rheoli sŵn a awgrymwyd gan Iechyd Amgylcheddol ac a gytunwyd iddynt gan yr ymgeisydd

 

Wrth ystyried y pryderon a gyflwynwyd gan Mr a Mrs Colclough, trigolion cyfagos, y byddai rhoi’r drwydded yn golygu cynnydd mewn sŵn, derbyniwyd  bod problem sŵn gyda’r potensial o fod yn gyfystyr â niwsans cyhoeddus, ond ni chafwyd tystiolaeth o’r amledd, hyd, dwysedd nac ardrawiad tebygol digwyddiadau o sŵn fyddai’n deillio o ganiatáu’r drwydded. O dan yr amgylchiadau, nid oedd yr Is-bwyllgor mewn sefyllfa i ddweud bod caniatáu’r drwydded yn debygol o arwain at broblem niwsans cyhoeddus. Rhoddwyd yr un ystyriaeth i’r mater ysmygu.

 

Nodwyd bod Iechyd Amgylcheddol wedi cyflwyno sylwadau yn cadarnhau nad oeddynt yn gwrthwynebu’r cais, ond yn argymell cyfres o amodau rheoli sŵn. Roedd yr Is-bwyllgor ar ddeall bod yr ymgeisydd wedi cytuno i’r amodau hyn gael eu cynnwys ar y drwydded, petai’r drwydded yn cael ei caniatau, ac wedi cytuno i amod yn cyfyngu mynediad i’r cyhoedd ar ôl 23:30. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais, yn ddarostyngedig i amodau arfaethedig ychwanegol o ran rheoli sŵn a chyfyngu mynediad hwyr, yn gwbl gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Ategwyd er gwybodaeth, y diystyriwyd sylwadau o ran ardrawiad cronnus neu “cumulative impact”. Adroddwyd nad oedd gan y Cyngor bolisi ardrawiad cronnus ac felly roedd tu hwnt i awdurdod yr Is-bwyllgor i wneud penderfyniad o ran cyflwyno polisi o’r fath. Byddai’n disgyn ar y Pwyllgor Trwyddedu Canolog i benderfynu cyflwyno polisi ardrawiad cronnus, a hynny yn dilyn tystiolaeth fyddai yn cyfiawnhau creu polisi

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Amlygodd yr Is Bwyllgor eu bod yn gwerthfawrogi gwaith y swyddogion a bod y ddau wrandawiad wedi dangos bod cyfathrebu clir yn hwyluso’r broses

 

 

Dogfennau ategol: