skip to main content

Agenda item

La Cabana, 2 Mitre Place, Pwllheli

 

I ystyried y cais uchod

Cofnod:

1.            CAIS AM DRWYDDED EIDDO -  LA CABANA, 2, MITRE TERRACE, PWLLHELI

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Ayoub Dohech (ymgeisydd)  a Ms Nia Jones

 

Eraill a wahoddwyd:             Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru), Heather Jones (Gwasanaeth Tan) a Kevin Jones (perchennog busnes cyfagos)

                                                           

a)                    Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer La Cabana, 2 Mitre Terrace, Pwllheli mewn perthynas â darparu bwyd poeth ac oer ar ac oddi ar y safle.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod un llythyr wedi ei dderbyn yn gwrthwynebu’r cais ar sail yr amcan trwyddedu o atal trosedd ac anrhefn. Tynnwyd sylw at y sylwadau a gyflwynwyd gan Heddlu Gogledd Cymru. Nodwyd bod trafodaethau wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd a bod cytundeb wedi ei wneud i ostwng yr oriau gwerthu lluniaeth hwyr y nos ac oriau agor i 2:00 ar nos Wener a Sadwrn. Nodwyd hefyd bod yr ymgeisydd wedi cytuno ar amodau penodol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng (TCC).

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:

·      Bod trafodaethau helaeth wedi eu cynnal gyda’r Heddlu a’r Gwasanaeth Tan i drafod a rhagweld datrysiadau i bryderon

·      Gweld yr eiddo yn gyfle i wneud buses

·      Clwb Nos gyfagos yn agored tan 2:30 - dim eisiau mynd tu hwnt i’r amser yma yn gweini bwyd felly cytuno ar gau'r eiddo am 2:00 er mwyn sicrhau nad yw pobl yn cronni mewn un lle

·      Yn byw ar y Stryd Fawr ac felly dim eisiau gweld difrod i adeiladau cyfagos

·      Bod bwriad i lanhau unrhyw lanast

 

ch)       Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â sut roeddynt yn mynd i sicrhau cau ar amser, nodwyd bod gan yr ymgeisydd drwydded SIA  (Awdurdod y Diwydiant Diogelwch). Ategwyd y byddai posib cyflogi aelod arall ar y drws pe bai angen - mater o asesu'r sefyllfa fel y byddai’r busnes yn datblygu.

 

d)            Cadarnhaodd Swyddog o’r Heddlu bod Heddlu Gogledd Cymru wedi trafod y cais gyda’r ymgeisydd cyn i’r cais gael ei gyflwyno a bellach bod cytundeb wedi ei wneud i gau am 2:00 dydd Gwener a dydd Sadwrn, sydd yn cysoni oriau agor gydag eiddo cyffelyb.  Amlygwyd hefyd bod yr ymgeisydd;

·         yn barod i dderbyn sylwadau ac  i amodau TCC gael eu cynnwys ar y drwydded.

·         yng nghyd-destun goruchwyliwyr drysau, oherwydd maint yr eiddo, bod un yn ddigonol.

·         bod cytundebau sbwriel wedi eu cytuno

·      bod yr ymgeisydd yn gwrthod gadael i sŵn ac anrhefn gael effaith ar drigolion a busnesau cyfagos. 

·      Bod cydweithio da wedi bod gyda’r ymgeisydd a’r heddlu ac felly, nid oedd gan yr Heddlu wrthwynebiad i’r cais.

 

dd)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar ei wrthwynebiad i ganiatáu trwydded gan ategu at y sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr.

·         Bod problemau hanesyddol wedi bod gyda’r eiddo.

·         Rhagweld y byddai problemau o ddifrod a chreu llanast yn y stryd yn mynd i ail ddechrau

·         Nad oedd eisiau adnewyddu a thalu am wydr ffenestr yn rheolaidd – pryderu am yr effaith ar ei fusnes

·         Byddai pobl yn cronni tu allan i’r bwyty gan greu sŵn ac anrhefn

 

e)            Wrth grynhoi ei gais, amlygodd yr ymgeisydd nad ei fwriad oedd creu problemau, llanast a difrod.

 

f)             Wrth ystyried y cais ystyriwyd adroddiad y Swyddog Trwyddedu, y ffurflen gais, y sylwadau ysgrifenedig a ddaeth i law oddi wrth y partïon gyda diddordeb ynghyd â’r sylwadau llafar a gyflwynwyd gan yr holl bartïon yn bresennol yn y gwrandawiad. Bu i’r Is-bwyllgor hefyd ystyried Polisi Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref ynghyd ag egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

 

           Trosedd ac Anrhefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig i  amodau arfaethedig a gytunwyd rhwng yr Heddlu a’r ymgeisydd o ran TCC ac oriau agor

 

Rhoddir trwydded fel a ganlyn:

 

1.            Caniateir darparu lluniaeth hwyr yn nos i’w fwyta ar ac oddi ar yr eiddo, o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 23:00 a 01:00, o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn rhwng 23:00 a 02:00, ac ar ddydd Sul rhwng 23:00 ac 01:00.

2.            Caniateir darparu lluniaeth hwyr yn nos i’w fwyta ar ac oddi ar yr eiddo, rhwng 23:00 a 02:00 ar nosweithiau Sul cyn dyddiau Llun gŵyl banc.

3.            Bod oriau agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Iau rhwng 11:00 a 01:00, o ddydd Gwener i ddydd Sadwrn rhwng 11:00 a 02:00, ac ar ddydd Sul rhwng 11:00 a 01:00.

4.            Bod oriau agor i’r cyhoedd ar ddydd Sul cyn dydd Llun gŵyl banc rhwng 11:00 a 02:00.

5.            Bod materion sydd wedi eu cynnwys yn rhan M o’r cais (h.y. yr atodlen weithredu) yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.

6.            Ychwanegir fel amodau i’r drwydded, yr amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu o ran teledu cylch cyfyng.

 

Wrth ystyried pryderon perchennog busnes cyfagos, y byddai rhoi’r drwydded yn golygu cynnydd mewn pobl yn ymgynnull yn y dalgylch yn hwyr yn y nos, fyddai yn arwain at gynnydd mewn sbwriel a risg o ddifrod troseddol i’w fusnes ei hun, derbyniodd yr Is-bwyllgor bod sbwriel mewn egwyddor yn gallu bod yn berthnasol i’r amcan o atal niwsans cyhoeddus. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn derbyn bod difrod troseddol yn gallu bod yn berthnasol i’r amcan o atal trosedd ac anrhefn.

 

Fodd bynnag ni chafwyd tystiolaeth y byddai rhoi’r drwydded yn arwain at broblemau sbwriel na difrod troseddol. Damcaniaethol yn unig oedd y pryderon a nodwyd. Roedd yr Is-bwyllgor hefyd yn nodi er bod nifer o fusnesau eraill yn y cylch nid oeddynt wedi cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu’r cais. Nodwyd hefyd nad oedd yr Heddlu yn gwrthwynebu’r cais. Petai rhoi’r drwydded yn debygol o arwain at broblem sbwriel neu ddifrod troseddol byddai’r Is-bwyllgor wedi disgwyl gwrthwynebiadau oddi wrth yr Heddlu ac eraill.

 

Nodwyd hefyd bod sefydliadau eraill trwyddedig yn yr ardal yn agor yn hwyr, ac ni ddaeth tystiolaeth i law bod bodolaeth y trwyddedau hyn wedi arwain at broblemau trosedd ac anhrefn na niwsans cyhoeddus yng nghanol Pwllheli.

 

Yn yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais, yn ddarostyngedig i amodau arfaethedig a gytunwyd rhwng yr Heddlu a’r ymgeisydd o ran TCC ac oriau agor, yn gwbl gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw

 

Dogfennau ategol: