skip to main content

Agenda item

Zip World Adventure Terminal, Chwarel Penrhyn, Bethesda

 

I ystyried y cais uchod

 

Cofnod:

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                     Mr Andrew Taylor  (ar ran yr ymgeisydd)

 

Eraill a wahoddwyd:             Ian Williams (Heddlu Gogledd Cymru), Heather Jones (Gwasanaeth Tan), Cynghorydd Dafydd Owen (Aelod Lleol)

                                                           

a)         Adroddiad ac argymhelliad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer Zip World Adventure Terminal, Chwarel y Penrhyn, Bethesda mewn perthynas â gwerthu alcohol, cerddoriaeth fyw ac wedi ei recordio dan do; a darparu bwyd fel lluniaeth hwyr y nos i’w fwyta ar yr eiddo.

 

Tynnwyd sylw at fanylion yr oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion y Ddeddf Drwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori.

 

Nodwyd bod un llythyr wedi ei dderbyn yn gwrthwynebu’r cais gan y Gwasanaeth Tân gan nad oedd manylion y cais yn cyfarch yr amcan trwyddedu o ddiogelu’r cyhoedd. Tynnwyd sylw hefyd at sylwadau Heddlu Gogledd Cymru mewn perthynas ag amodau penodol ar gyfer defnydd TCC; a sylwadau gan Gwarchod y Choedd ar faterion sŵn. Nodwyd nad oedd bwriad cynnal digwyddiadau mawr ar yr eiddo a bod yr ymgeisydd yn cydnabod bod sŵn yn gallu cario ymhell o ystyried natur tirwedd chwarel lechi. Amlygwyd y byddai pob ymdrech yn cael ei wneud i gadw drysau a ffenestri wedi cau yn ystod cyfnodau cynnal adloniant.

 

b)                    Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu.

·      Gwahoddwyd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoddwyd cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Gwahoddwyd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

·      Rhoddwyd cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i’r ymgynghorai

 

c)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei  gyflwyno ac ategwyd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr adeilad newydd (tri llawr) yn cyfarch yr angen am swyddfeydd, canolfan ymwelwyr, siop, toiledau a thŷ bwyta

·         Bod yr estyniad ei angen er mwyn ymateb i’r nifer o ymwelwyr

 

ch)       Ymhelaethodd Swyddog o’r Gwasanaeth Tân eu penderfyniad dros wrthod y cais gan nad oedd ail lawr yr adeilad yn ddiogel ar gyfer y cyhoedd. Amlygwyd mai dim ond un ddihangfa dân oedd wedi ei gynllunio ac nad oedd hyn yn ddigonol ar gyfer y nifer y bobl  a fyddai angen gadael y llawr yn ddiogel mewn argyfwng. Eglurwyd, bod trafodaethau bellach wedi eu cynnal gyda’r ymgeisydd a bod cyfarfod ymhen pythefnos gyda’r Adran Rheolaeth Adeiladu i gadarnhau bod y gwaith yn ymateb i’r gofynion.

 

Mewn ymateb, amlygodd cynrychiolydd yr ymgeisydd, yn dilyn cyfarwyddiadau gan y Gwasanaeth Tân (Mai 2017) bod  grisiau allanol haearn yn cael eu gosod fel dihangfa dân o’r ail lawr - y bwriad yw bod y grisiau yn eu lle erbyn 18fed Awst 2017.

 

d)            Yn derbyn gwahoddiad gan y Cadeirydd i gyflwyno ei sylwadau nododd yr Aelod Lleol ei bryderon ynglŷn â sut roedd y cwmni yn bwriadu cadw rheolaeth dros y maes parcio a’r ardaloedd allanol yng nghyd-destun pobl yn delio gyda chyffuriau o fewn ardaloedd cuddiedig o fewn y safle.

 

dd)         Mewn ymateb, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y byddai teledu cylch cyfyng yn flaenoriaeth i’r cwmni fydd yn monitro a rheoli'r ardaloedd allanol a’r brif fynedfa. Awgrymwyd y byddai giatiau i’r brif fynedfa, ond nid oedd modd i gynrychiolydd yr ymgeisydd gadarnhau hynny. Ategodd bod bwriad cydymffurfio yn llawn gydag amodau'r heddlu.

 

e)            Yn manteisio ar y cyfle i siarad, nododd Swyddog o Heddlu Gogledd Cymru ei fod wedi ymweld â’r safle,  ond nid oedd yr adeilad wedi ei gwblhau ar y pryd. Cadarnhaodd bod cais wedi ei wneud i’r ymgeisydd ddarparu TTC  tu mewn a thu allan i’r adeilad / safle. Ategodd hefyd bod y cwmni yn cefnogi Her 25. Awgrymodd y Swyddog y dylai oriau agored i’r cyhoedd adlewyrchu a bod yn gyson gyda'r oriau trwyddedig ac felly cynigiwyd bod y drwydded yn amlygu oriau cau 1:30am

 

f)             Wrth grynhoi ei gais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd mai'r bwriad oedd ymateb yn llawn i’r argymhellion cynllunio a bod diogelwch y cyhoedd yn hynod o bwysig i’r fenter. Cadarnhaodd y byddai yn cysylltu gyda’r Gwasanaeth Tân a’r Heddlu be fyddai angen arweiniad pellach.

 

ff)            Wrth ystyried y cais ystyriwyd yr holl dystiolaeth a gyflwynwyd gan roi sylw penodol i Polisi Trwyddedu'r Cyngor, arweiniad y Swyddfa Gartref ac egwyddorion Deddf Trwyddedu 2003

 

           Trosedd ac Anrhefn

           Diogelwch y Cyhoedd

           Rhwystro Niwsans Cyhoeddus

           Amddiffyn Plant rhag Niwed

 

PENDERFYNWYD caniatáu y cais yn ddarostyngedig i amodau ychwanegol:

 

    Rhoddwyd y drwydded fel a ganlyn:

 

1.            Caniateir cerddoriaeth fyw dan do o ddydd Llun i ddydd Sadwrn rhwng 06:00 a 00:00, ac ar ddydd Sul rhwng 06:00 a 22:30.

2.            Caniateir lluniaeth hwyr yn nos dan do o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 23:00 ac 01:00.

3.            Caniateir darparu alcohol i’w yfed ar yr eiddo o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 10:00 ac 01:00.

4.            Oriau agor i’r cyhoedd o ddydd Llun i ddydd Sul rhwng 06:00 a 01:30.

5.            Bod materion sydd wedi eu cynnwys yn rhan M o’r cais (h.y. yr atodlen weithredu) yn cael eu hymgorffori fel amodau i’r drwydded.

6.            Bod yr amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu o ran teledu cylch cyfyng yn cael eu hychwanegu i’r drwydded.

 

Wrth ystyried pryderon y Gwasanaeth Tân y byddai rhoi’r drwydded yn peryglu diogelwch cyhoeddus, ar y sail nad oedd digon o allanfeydd tân ar ail lawr yr eiddo, roedd yr Is bwyllgor,  wedi derbyn sylwadau gan gynrychiolydd yr ymgeisydd, oedd yn nodi bod bwriad adeiladu ail allanfa dân o’r ail lawr, yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu.

 

Wrth ystyried sylwadau gan yr aelod lleol yn mynegi pryder am bobl yn delio cyffuriau yn nalgylch yr eiddo, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod yr amodau TCC arfaethedig yn ddigonol i fonitro unrhyw ddigwyddiadau o’r fath.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Hysbysebwyd hefyd o’u hawl i apelio i’r dyfarniad o fewn 21 diwrnod o dderbyn y llythyr hwnnw.

 

Dogfennau ategol: