Cyflwyno’r datganiadau ariannol statudol ar gyfer
2016/17.
a) Cyflwyno’r
datganiadau ariannol statudol diwygiedig gan y Pennaeth Cyllid am gymeradwyaeth
y pwyllgor.
b)(i) Cyflwyno
adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr
archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar
Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 Cyngor Gwynedd.
b)(ii) Awdurdodi
Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth”
ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng
nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Cyngor (Atodiad 1 i
adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru, yn (b)(i) uchod)
c)(i) Cyflwyno
adroddiad ffurfiol “ISA 260” i’r “rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” gan yr
archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ar
Ddatganiadau Cyfrifon 2016/17 y Gronfa Bensiwn
c)(ii) Awdurdodi
Cadeirydd y Pwyllgor a’r Pennaeth Cyllid i arwyddo’r “llythyr cynrychiolaeth”
ar ran y Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu, sy’n gyfrifol am lywodraethu yng
nghyswllt cymeradwyo datganiadau ariannol statudol y Gronfa Bensiwn (Atodiad 1
i adroddiad gan yr archwiliwr allanol Deloitte, ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru, yn (c)(i) uchod).
Cofnod:
i) Datganiad o’r Cyfrifon
Cyflwynodd
y Pennaeth Cyllid y datganiadau ariannol statudol diwygiedig am gymeradwyaeth y
pwyllgor. Nododd bod yr adroddiadau gan Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol
Cymru yn nodi’r prif newidiadau yn y cyfrifon ers cyflwynwyd y fersiwn
cyn-archwiliad i gyfarfod 13 Gorffennaf o’r Pwyllgor.
ii) Adroddiad yr Archwilydd
Penodedig ar yr Archwiliad o Ddatganiadau Ariannol
a) Cyfrifon y Cyngor
Yn unol â’r drefn
Archwilio Flynyddol, sef adroddiad yr Archwilydd Penodedig i’r rhai sy’n
llywodraethu, cyflwynwyd adroddiad Deilotte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru
gan Ian Howse, Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte.
Adroddwyd bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi adroddiad archwilio diamod
ar gyfrifon Cyngor Gwynedd am 2016/17.
Nodwyd y prif sylwadau
canlynol:
·
Nad oedd camddatganiadau
heb eu cywiro i’w hadrodd;
·
Bod un camddatganiad a
gywirwyd i’w boddhad;
·
Nid oedd unrhyw faterion oedd angen sylw wedi eu
hamlygu gan y tîm archwilio yng nghyswllt y risgiau sylweddol a brofwyd;
·
Cymeradwyo’r tîm cyfrifo am ansawdd y cyfrifon a
diolch am eu cydweithrediad efo tîm archwilio Deloitte.
Nododd
aelod ei fod yn falch o’r gymeradwyaeth a roddir i waith y tîm cyfrifo.
Mewn ymateb i
ymholiad gan aelod parthed darpariaeth drwg-ddyledion, nododd y Pennaeth Cyllid
bod y cyfrifon yn dangos ciplun o’r sefyllfa ar
ddiwrnod cau’r cyfrifon. Eglurodd bod tebygolrwydd is o gasglu dyledion
hŷn a bod y Cyngor
yn defnyddio canran cynyddol uwch o “golled” am ddyledion flynyddoedd
blaenorol. Nododd bod y swyddogion yn cytuno efo argymhelliad yr archwiliwr,
sef - “…bod y canrannau a ddefnyddir i gynhyrchu’r ddarpariaeth mân ddyledion
yn cael eu hadolygu’n ffurfiol bob blwyddyn ac y defnyddir dull o ddadansoddi
cyfraddau casglu er mwyn llywio’r canrannau a bennir.”
Mewn ymateb i
gwestiwn gan aelod, nododd Arweinydd Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte
bod lefel darpariaeth drwg-ddyledion y Cyngor yn lled gyson efo cynghorau
eraill.
b) Cyfrifon Cronfa Bensiwn
Gwynedd
Nododd Arweinydd
Ymgysylltu Archwilio Ariannol, Deloitte bod yr Archwilydd Cyffredinol yn
bwriadu cyhoeddi barn archwilio ddiamod ar gyfrifon Cronfa Bensiwn Gwynedd am
2016/17.
Nodwyd y prif
sylwadau canlynol:
·
Yng nghyswllt camddatganiadau na gywirwyd, bod
profion yr archwilwyr wedi dod i’r canfyddiad bod gorddatganiad barniadol ar yr
eiddo a’r buddsoddiadau ecwiti preifat. Roedd yn fater o farn felly roeddent yn
fodlon nad oedd yn cael ei gywiro;
·
Nid oedd unrhyw argymhellion newydd yn deillio o
waith archwilio ariannol 2016/17 a bod manylion o ran y gwaith dilynol ar
argymhellion 2015/16 yn Atodiad 3 o’r adroddiad.
Nododd y Cadeirydd
ei fod yn falch bod y Cyngor mewn sefyllfa dda ac yn cyflawni’r gofynion.
Nododd
yr Aelod Cabinet Cyllid ei werthfawrogiad o waith tîm archwilio Deloitte.
Ychwanegodd ei fod yn falch bod yr Archwilydd Cyffredinol yn bwriadu cyhoeddi
adroddiadau archwilio diamod a oedd yn adlewyrchu gwaith da'r swyddogion wrth
baratoi’r cyfrifon. Nododd ei werthfawrogiad o’r gwaith.
PENDERFYNWYD bod y Pwyllgor Archwilio, gyda’r grym a ddirprwywyd gan y Cyngor i fod “y rhai sy’n gyfrifol am lywodraethu” yng nghyswllt cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol a’r archwiliadau perthnasol, yn cymeradwyo’r datganiadau ariannol statudol diwygiedig, yn derbyn adroddiadau perthnasol Deloitte ar ran Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn awdurdodi’r Pennaeth Cyllid a Chadeirydd y Pwyllgor i arwyddo’r “llythyrau cynrychiolaeth” ynghylch cyfrifon y Cyngor a chyfrifon y Gronfa Bensiwn a’u cyflwyno i Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dogfennau ategol: