Cyflwyno adroddiad
yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg a oedd yn rhoi
diweddariad ar drefniadau atal twyll ac atal llygredd y Cyngor ynghyd â
chyflwyno rhaglen waith ar gyfer y tair blynedd nesaf.
Nodwyd er bod ‘Risg o Dwyll, Llwgrwobrwyo a/neu Lygredd’ yn cael ei
ystyried yn risg isel roedd y Cyngor yn parhau i fod yn ymwybodol o’r risg
gyda’r Cyngor wedi dioddef o ganlyniad i dwyll mawr yn y gorffennol. Manylwyd
ar gynnwys yr adroddiad.
Eglurwyd y byddai’r Pwyllgor yn derbyn adroddiadau rheolaidd (oddeutu bob 6
mis) ar ymdrechion gwrth-dwyll, gwrthlygredd a gwrth-gwgrwobrwyo
y Cyngor.
Nododd aelod bod y twyll ynghlwm â Express Motors wedi bod yn arswydus ac a
fyddai budd o gael is-grŵp o’r Pwyllgor i edrych yn fanwl a dysgu gwersi
ohono. Cyfeiriodd at y Strategaeth gan ofyn pa mor rheolaidd y byddai gweithdai
efo swyddogion perthnasol i drafod materion yn codi, risgiau ymddangosol a
rhannu arferion da yn cael eu cynnal. Holodd pa asiantaethau oedd y Cyngor yn
cydweithio â hwy a pa mor rheolaidd yr adolygir y Strategaeth.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg:
·
Bod y Pwyllgor eisoes wedi
derbyn adroddiad ar Dwyll Express yn ei gyfarfod ar 29 Tachwedd 2018 ac wedi
trafod y mater mewn manylder. Bryd
hynny, gofynnwyd i’r Adran Amgylchedd am adroddiad ynglŷn â lliniaru risg
i’r Cyngor o ymrwymo i gytundeb newydd Cynllun Tocynnau Teithio Rhatach
Llywodraeth Cymru. Ei fod yn benderfyniad yr aelodau os am drafod y ddwy achos
o dwyll yn y maes cludiant cyhoeddus yn y Gweithgor Gwella Rheolaethau, ond
roedd peryg drwy ganolbwyntio ar y twyll yma y collir golwg ar risgiau eraill o
ystyried bod gan y Cyngor ystod eang o wasanaethau.
·
Nid oedd gan y Cyngor adnodd
penodol gwrth-dwyll, fe gwblheir y gwaith o fewn adnoddau gydag archwilio
mewnol yn gwneud y gwaith ymchwil. Bwriedir cynnal gweithdai rheolaidd efo
swyddogion o wasanaethau gwahanol megis archwilio, budd-dal, trethi ac eraill,
gan edrych ar risgiau a oedd yn ymddangos o brofiadau awdurdodau eraill.
·
Er nad oedd y Cynllun Ymateb
wedi ei ddiwygio ers 2013, mi oedd dal yn addas i bwrpas gyda newidiadau o ran
teitlau swyddi yn unig.
·
Roedd Swyddfa Archwilio Cymru
yn arwain ar y Fenter Twyll Genedlaethol a gynhelir bob 2 flynedd i gymharu
data asiantaethau a pe byddai rhywbeth yn cael ei amlygu fe gysylltir â’r
asiantaeth berthnasol. Nododd unwaith bod digon o dystiolaeth i’w gyflwyno i’r
heddlu yn dilyn ymchwiliad gan archwilio mewnol fe gyfeirir y wybodaeth i’r
Swyddog Monitro.
Nododd aelod ei fod o’r farn bod angen rhoi ystyriaeth i’r ddwy achos o
dwyll yn y maes cludiant cyhoeddus yn y Gweithgor Gwella Rheolaethau.
Holodd aelod os oedd system mewn lle i ymateb pan fo digwyddiadau o dwyll
yn digwydd. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg mai dyna oedd
pwrpas y Cynllun Ymateb. Nododd mai rheolwyr a swyddogion oedd yn y lle gorau i
ddarganfod twyll a bod angen codi ymwybyddiaeth er mwyn iddynt fod yn fyw i’r
risg o dwyll ac i fod yn barod i adrodd ar dwyll posib. Roedd risg allanol yn
ogystal o gwmnïau yn anfon anfonebau ffug.
Mewn ymateb i sylw pellach yng nghyswllt cydweithio efo asiantaethau
eraill, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg fel rhan o’r Fenter Twyll
Genedlaethol bod pwynt cyswllt ym mhob asiantaeth ac fe ellir defnyddio'r
pwyntiau cyswllt o ran twyll tu allan i’r fenter yn ogystal fel man cychwyn.
Nododd aelod ei diolch am yr adroddiad. Cyfeiriodd at y ffaith nad oedd
twyll Treth Cyngor yn cael ei amlygu yn y ddogfen. Holodd os nad oedd twyll
budd-dal tai yn berthnasol o ran y cynllun ymateb oherwydd bod y Llywodraeth efo
cyfrifoldeb. Mewn ymateb, nododd yr Uwch Reolwr Refeniw a Risg nid oedd
cyfeiriad at dwyll Treth Cyngor yn y ddogfen ond fe ystyrir ei ychwanegu.
Ychwanegodd y bwriedir rhoi mwy o ffocws ar Gynllun Gostyngiadau Treth Cyngor
dros y blynyddoedd nesaf. Eglurodd mai Adran Pensiynau a Gwaith, Llywodraeth
Prydain a oedd yn gyfrifol am ymchwilio i dwyll budd-dal tai ers oddeutu 4
mlynedd. Ymhelaethodd bod gan y Cyngor bwynt cyswllt yn yr Adran Pensiynau a
Gwaith ac fe gyfeirir achosion i’w sylw ond nid oedd mor effeithlon â phan oedd
y gwaith yn cael ei gwblhau yn fewnol, gyda’r gofyn i lenwi nifer o ffurflenni.
Nododd aelod ei fod yn amhosib cael gwared o dwyll yn gyfan gwbl ond bod y
Strategaeth a’r cynllun ymateb yn cadarnhau bod prosesau mewn lle i atal twyll
ac fe ddylid eu cymeradwyo.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad fel eglurhad o drefniadau’r Cyngor ar gyfer ymchwilio ac atal twyll a llygredd o fewn y gyfundrefn a chymeradwyo’r Strategaeth Gwrth-dwyll, Gwrth-lwgrwobrwyo a Gwrthlygredd a’r Cynllun Ymateb i Dwyll a Llygredd.
Dogfennau ategol: