Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE
Llŷn yn cyflwyno Cynllun Rheoli’r AHNE diwygiedig drafft i sylw’r
Cyd-Bwyllgor yn unol â’r penderfyniad a wnaed yn y cyfarfod diwethaf i’w drafod cyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus.
Eglurwyd bod penodau Rhan 1 a 2 o’r cynllun
wedi bod gerbron y Cyd-Bwyllgor am sylwadau dros nifer o gyfarfodydd. ’Roedd y
cynllun diwygiedig cyflawn gerbron yn cynnwys y Rhaglen Weithredu sef y
gweithredoedd a’r prosiectau manwl y bwriedir eu cyflawni yn ystod y
blynyddoedd nesaf.
Gofynnwyd i’r
Cyd-Bwyllgor ystyried y Cynllun Rheoli diwygiedig drafft, awgrymu newidiadau
neu welliannau a derbyn y cynllun diwygiedig drafft fel sail ar gyfer
ymgynghori cyhoeddus.
Nodwyd yn dilyn yr
ymgynghoriad cyhoeddus bwriedir dychwelyd i’r Cyd-Bwyllgor gyda manylion o’r
ymatebion a dderbyniwyd ac argymhellion i newid y Cynllun.
Rhoddwyd cyfle i’r aelodau roi sylwadau, nodwyd y prif bwyntiau
canlynol gan aelodau unigol:
·
Yr angen
i ddiweddaru gwybodaeth yn y Cynllun;
·
Holodd
aelod o ran oes y Cynllun, gan y nodir ei fod yn gynllun am y cyfnod 2015 i
2020 ond ni fabwysiedir tan 2017;
·
Y byddai
cynnwys lluniau a graffiau yn y Cynllun yn ei fywiogi a’i wneud yn haws i’w
ddarllen;
·
O ran
ffigyrau twristiaeth, roedd ffigyrau 2011 STEAM wedi eu cynnwys ond bod
ffigyrau 2015 ar gael. Tynnwyd sylw yn y cyfarfod diwethaf bod y ffigyrau yn
gamarweiniol gan na ellir cael dadansoddiad mor fanwl;
·
Y
dylid ystyried cyfeirio mwy at Lwybr yr Arfordir, roedd yn denu mwy o bobl i’r
ardal ac fe fyddai cyfeirio at y llwybr yn rhoi pwysau ar yr angen i fuddsoddi
mewn llwybrau eraill, er enghraifft, llwybrau cylchol;
·
Y
dylid cynyddu’r cyfeiriadau yn y Cynllun at y Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(CDLL) gan gyfeirio at Bolisi AMG1 sy’n cyfeirio at Gynllun Rheoli’r AHNE;
·
Fe
gyfeirir at nifer o astudiaethau yn y Cynllun, a fyddai’n bosib cynnwys
llyfryddiaeth?
·
Nid oedd
Botwnnog wedi ei gynnwys ar y map o’r AHNE;
·
Y
dylid nodi lle trafodir tyrbinau gwynt bod y CDLL yn rhoi cyfyngder uchder o 15
medr a chynnwys crynhoad o faint o dyrbinau gwynt a dderbyniodd caniatâd
cynllunio;
·
O ran
planhigion ymledol, a adnabuwyd Jac y Neidiwr?
·
Pryder
o ran effaith gronnol dymchwel ac adeiladu tŷ newydd gyda cheisiadau o’r
fath o flaen cynllunio yn aml. Fyddai’n bosib i’r Cynllun gyfeirio at yr angen
i arbed tai rhag cael eu dymchwel mewn llefydd fel Abersoch?
·
Pryder
o ran effaith gronnol datblygiadau a’r angen i drafod efo perchnogion meysydd
carafanau o ran y ffordd ymlaen yng nghyswllt sgrinio a chydweddu i’r ardal cyn
difetha beth sy’n denu ymwelwyr i’r ardal;
·
Y
dylid edrych i mewn i ‘Rollback Rights’ fel sydd yn Lloegr, yng nghyswllt
llwybrau arfordir yn disgyn i’r môr gan fod y broses bresennol yng Nghymru yn
hirwyntog ac fe gollir adnodd holl bwysig. Angen pwyso ar Lywodraeth Cymru;
·
Bod
rhaid bod yn ofalus o ran ymestyn hawliau Llywodraeth Cymru o ran gorfodaeth ar
dir arfordirol oherwydd yr effaith ar dirfeddianwyr gan gynnwys oblygiadau
cyfrifoldebau atebolrwydd ac effaith cŵn yn ymyrryd ar stoc;
·
Yng
nghyswllt polisi CP 6 “Hyrwyddo darpariaeth o dai fforddiadwy lle profir bod
gwir angen lleol a sicrhau fod cynlluniau, dyluniadau a deunyddiau yn gweddu i
amgylchedd yr AHNE.”, y dylai’r Cyngor sicrhau bod yr incwm a dderbynnir o
ganlyniad i’r premiwm treth ar ail gartrefi yn yr ardal i aros ym Mhen
Llŷn ar gyfer tai fforddiadwy a chymorth i bobl ifanc i brynu tŷ yn
yr ardal.
Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y
swyddogion:
·
Diweddarir
y cynnwys cyn y rhyddheir y cynllun drafft ar gyfer ymgynghori cyhoeddus;
·
Bod Llywodraeth
Cymru yn awyddus i gynlluniau AHNEau gyd-redeg ond fe wneir ymholiadau o ran
cyfnod y cynllun;
·
Fe
ychwanegir lluniau i’r Cynllun er mwyn ei ysgafnhau ac efallai y byddai cyfle i
lunio dogfen gryno haws i’w ddarllen;
·
Yn
dilyn derbyn sylwadau yn y cyfarfod diwethaf y gwnaed ychydig o newidiadau o
ran ffigyrau twristiaeth. Nodir y rhybudd o ran y ffigyrau ac fe ddiweddarir y
wybodaeth efo ffigyrau 2015;
·
Y byddai
llyfryddiaeth yn cael ei gynnwys;
·
Bod
prosiectau posib wedi eu cynnwys yn y cynllun gweithredu o dan BP 6 “Trin
rhywogaethau ymledol cynhenid ac estron a chodi ymwybyddiaeth amdanynt a’r
ffordd o’u trin a’u gwaredu”. Roedd cyfrifoldeb ar dir feddianwyr i atal rhag
ymledu, nid oedd Jac y Neidiwr wedi ei gynnwys yn y Weeds Act 1959;
·
Bod
y bennod ‘Yr Amgylchedd Hanesyddol’ yn delio efo’r angen i gynnal a gwarchod
adeiladau hanesyddol yn ogystal â gwarchod dyluniad a’r defnydd o ddeunyddiau
addas. Mater i'r Gwasanaeth Cynllunio oedd ceisiadau cynllunio;
·
Y gellir
cynnwys yn y cynllun gweithredu yr angen i wneud ymchwil o ran effaith cronnol
datblygiadau;
·
Gellir
nodi gweithred yn y cynllun gweithredu i edrych i mewn i ‘Rollback Rights’ a
chysylltu â Llywodraeth Cymru. Roedd Llywodraeth Cymru ar hyn o bryd yn cynnal
ymgynghoriad lle cyfeirir at yr arfordir ac ymestyn tir agored i’r arfordir.
Fel rhan o ymateb y Cyngor i’r ymgynghoriad fe nodir y dylid edrych ar brofiad
Lloegr yn y maes;
·
Nodir
fel gweithred bod y Cyd-Bwyllgor yn gofyn i’r Cyngor ystyried bod yr incwm a
dderbynnir o ganlyniad i’r premiwm treth ar ail-gartrefi yn yr ardal i aros ym
Mhen Llŷn ar gyfer tai fforddiadwy a chymorth i bobl ifanc i brynu tŷ
yn yr ardal.
Nododd Cynrychiolydd Ymgyrch Diogelu Cymru Wledig bod ganddo sylwadau
pellach ar y Cynllun Rheoli ac fe fyddai’n eu hanfon ymlaen i Reolwr Gwasanaeth
AHNE Llŷn. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y
byddai’n gwerthfawrogi derbyn sylwadau pellach a diolchodd i Gynrychiolydd yr
Ymddiriedolaeth Genedlaethol am y sylwadau a dderbyniodd eisoes.
PENDERFYNWYD:
(i) bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn
ymgorffori sylwadau'r aelodau a sylwadau pellach Cynrychiolydd Ymgyrch Diogelu
Cymru Wledig yn y Cynllun Rheoli diwygiedig drafft;
(ii) derbyn
y Cynllun diwygiedig drafft fel sail ar gyfer ymgynghori cyhoeddus.
Dogfennau ategol: