Agenda item

Ystyried adroddiad ar y prif ganfyddiadau [hyd yn hyn] o weithredu’r drefn yn Ardal Meirionnydd

 

Cofnod:

a)         Cyflwynwyd adroddiad gan Aelod Cabinet Amgylchedd yn adrodd ar brif ganfyddiadau gweithredu trefn newydd o gasglu gwastraff gweddilliol yn Ardal Meirionnydd. Pwysleisiwyd mai cynyddu ailgylchu yw'r prif nôd er mwyn osgoi talu dirywion. Rhaid cyrraedd targed ailgylchu o 58% erbyn Mawrth 2016 ac felly angen cefnogi’r trefniadau. Eglurwyd y byddai’r targedau, sy’n cael eu gosod gan Lywodraeth Canolog, yn parhau hyd at 2025 lle bryd hynny bydd angen ailgylchu 70%. Amlygwyd mai dyma’r sefyllfa sydd yn wynebu pob Cyngor.

 

Cyflwynwyd y newidiadau ym Meirionnydd ym Mehefin 2015 ac yn unol â threfniadau Ardal Dwyfor, sefydlwyd dau dîm i fod yn gyfrifol am gyflwyno’r newid - y Tîm Gweithredol a’r Tîm Ymgysylltu. Ar y cyfan, nodwyd bod y trefniant wedi bod yn llwyddiannus a’r ffigyrau yn ymddangos yn galonogol. Un elfen wahanol ym Meirionnydd oedd nifer y pwyntiau cymunedol, ond bellach adroddwyd mai 30 o’r 140 o’r pwyntiau hynny sydd yn parhau i dderbyn casgliadau gweddilliol bob pythefnos.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet i drigolion Meirionnydd am eu gweithrediad a hefyd i drigolion Dwyfor am gynnal eu perfformiad. Adroddwyd, ar ddiwedd Tachwedd bod ffigyrau perfformiad Gwynedd, o ran y mesur Cenedlaethol a Statudol ar gyfer ailgylchu, yn 58.52% a bod y newidiadau hyn ar darged i gyflawni arbedion rhaglenedig blynyddol o £350K i’r Cyngor (hyn yn ychwanegol i beidio talu dirywion).

 

b)         Yn ystod y drafodaeth nodwyd y sylwadau canlynol:

           Diolchwyd am yr adroddiad a derbyniwyd bod y trefniadau yn symud y gwasanaeth i’r cyfeiriad cywir.

           Diolchwyd i’r gweithlu am eu gwasanaeth yn ystod y tywydd garw

           Amlygwyd pryderon am ardaloedd cymunedol

           A oes cynnydd mewn tipio slei bach?

           Angen parhau i wella taclusrwydd ar ôl codi gwastraff

           Rhaid atgoffa'r Cynulliad unwaith eto am yr angen i leihau deunydd pacedu

           Rhwystredig bod rhai trigolion yn gwrthod cydweithio

           Beth yw ymgyrch ‘wash and squash’?

           Angen canolbwyntio ar ardaloedd lle mae llawer o dai ynddynt

           Angen ymateb i ardaloedd lle mae diffyg lle storio biniau

           Awgrym i’r Adran Cynllunio ystyried  darpariaeth ddigonolar gyfer storfa biniau ar gyfer pob cais perthnasol

           Wrth ystyried ailgylchu biniau strydpwyslais ar negeseuon syml a chlir

           Rhaid addysgu pobl i ddeall bod ailgylchu yn cyfrannu at eu budd yn y dyfodol

           Pwyslais ar ymgysylltu gyda chymunedau gyda chais i’r grwpiau gweithredol a ddefnyddiwyd yn Nwyfor a Meirionnydd gydweithio gydag ardaloedd penodedig i wella sefyllfaoedd

 

c)         Mewn ymateb i’r sylwadau uchod, nododd Pennaeth Gwasanaeth Priffyrdd a Bwrdeistrefol ei fod yn ymfalchïo yng ngwaith y gweithlu ar hyn roeddynt wedi cyflawni o fewn amodau a thelerau anodd dros gyfnod y tywydd garw a’r Nadolig.

 

Yn ychwanegol, nodwyd bod cynnydd mewn tipio slei bach, ond bod hyn yn batrwm sydd i’w weld dros Brydain ac mai eitemau trwm megis oergelloedd a chynnyrch adeiladu sydd yn cael eu tipio ac nid gwastraff sy’n cael ei gasglu o dai. Cytunwyd yr angen i weithredu a gofynnwyd i’r aelodau am eu cefnogaeth i  adrodd ar unrhyw achlysur lle mae tipio slei bach yn/wedi digwydd. 

 

Yng nghyd destun gwastraff budr (wash and squash), adroddwyd bod y deunydd yma yn cael ei ailgylchu, ond bod cyflwr eitemau budr yn rhoi pris llai a derbyniwyd yr angen i rannu’r neges gyda’r cyhoedd. O ran taclusrwydd, adroddwyd bod 4 cerbyd newydd gan Wynedd sydd yn cynorthwyo’r gweithlu ac yn atal deunydd rhag chwythu wrth iddynt weithio.

 

d)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ar angen am losgfa ar Lannau Dyfrdwy o ystyried bydd gostyngiad posib yn y mewnbwn, nodwyd bod y llosgfa, pan yn weithredol, yn cyfrannu 7% at y nôd.

 

e)         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chasgliadau amlach mewn ardaloedd myfyrwyr a thai gwyliau, nodwyd bod ymgyrchoedd llwyddiannus iawn wedi eu cynnal gyda myfyrwyr a bod cydweithio da gydag Asiantaeth Tai Gwyliau Abersoch ar  sefydlu cynllun ar gyfer tai gwyliau yn yr ardal. Adroddwyd hefyd bod gwaith penodol wedi ei wneud gyda Gwastraff Masnachol a bod gwelliant sylweddol yma o ganlyniad i newid trefniadau, darpariaeth a chyflwyno ffioedd gwahaniaethol i fasnachwyr.

 

f)          Derbyniwyd bod yr her i’r dyfodol yn un heriol ac felly pwysig yw cael paratoadau cywir yn eu lle. Ategwyd mai’r bwriad yw ymateb i bob her gymunedol ac mai gwaith parhaol ydyw. Gwerthfawrogwyd yr ymdrech bresennol ac anogwyd parhad mewn cydweithio da er mwyn ymateb i broblemau/ heriau. Gwerthfawrogwyd y sylwadau.

 

PENDERFYNWYD

a)         bod y Pwyllgor yn falch o weld cynnydd yn y trefniadau ailgylchu a chasglu gwastraff a’u bod yn awyddus i gofnodi eu gwerthfawrogiad o waith caled y staff, yn arbennig felly yn ystod y tywydd garw

b)         bod y Pwyllgor yn gweld yr angen i gyfarch rhai materion wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen:

·         bod angen i'r Aelod Cabinet barhau i bwyso ar y Llywodraeth i wneud rhywbeth am leihau deunydd pacedu nwyddau

·         Y dylid rhannu gwybodaeth gyda’r Aelodau yn gyffredinol ynglŷn â datblygiadau ‘wash and squash’ i wella glendid y deunydd sydd yn cael ei gasglu

·         bod yr Aelodau yn gobeithio gweld gwelliant pellach yn y taclusrwydd wrth gasglu gan hyderu y bydd y peiriannau newydd yn hwyluso hynny

·         Y dylid parhau i edrych am atebion creadigol i heriau casglu mewn ardaloedd poblog trwy ddatblygu biniau cymunedol

·         Y dylid sicrhau cynnydd pellach yn yr ymgysylltu a deialog gyda thrigolion er mwyn gwella ailgylchu ymhellach.

·         Angen sicrhau bod trefniadau ailgylchu ar y stryd yn symud yn ei flaen gyda phwyslais ar gael negeseuon syml a hawdd i’w deall i’r cyhoedd ar y trefniadau hynny

 

Dogfennau ategol: