I dderbyn Adroddiad Blynyddol y Gronfa Bensiwn 2016-2017
Cofnod:
Cyflwynodd y Pennaeth
Cyllid Adroddiad Blynyddol y Cynllun Pensiwn am 2016/17.
Rhoddwyd sylw penodol i
brif faterion yr adroddiad:
Perfformiad Buddsoddi
Adroddwyd cynnydd o £339m yng ngwerth asedau’r Gronfa o £1,525m
(31/03/2016) i £1,864m (31/03/2017). Nodwyd bod y twf sylweddol yma o 22% yn
adlewyrchu perfformiad cyffredinol gwych y farchnad stoc eleni a bod rheolwyr
buddsoddi'r Gronfa wedi cyrraedd y lefel meincnod yn 2016/17. Cyfeiriwyd yn yr
adroddiad at y datganiad o gyfrifon (sydd yn amodol ar gael eu harchwilio gan
gwmni Deloittes). Cyfeiriwyd hefyd at y datganiadau asedau net oedd yn parhau’n
galonogol, wrth ystyried bod hyn wedi ei adeiladu ar sefyllfa ariannu cymharol
ffafriol y Gronfa yn ystod Prisiad 2016. Tynnwyd sylw at y buddsoddiadau gan
amlygu perfformiad arbennig buddsoddiadau tramor a pherfformiad rhagorol gan Insight (rheolwr buddsoddi).
Adroddodd Adran Actiwari’r Llywodraeth yn ddiweddar i Fwrdd Cenedlaethol
Cronfa Pensiwn Llywodraeth Lleol CPLlL (yr “SAB”) ar lefel ariannu pob cronfa
ar 31/03/2016. I ganfod cymhariaeth, defnyddiwyd rhagdybiaethau safonol
‘tebyg-wrth-debyg’ (yn hytrach na rhagdybiaethau strategol cyhoeddus y
cronfeydd ei hunain). Adroddwyd, rhwng Prisiadau 2013 a 2016, bu i lefel
ariannu safonol Cronfa Gwynedd gynyddu 7%, o 102% yn 2013 i 109% yn 2016. Roedd
hyn yn rhoi Gwynedd yn y degfed uchaf o’r 89 cronfa CPLlL yn Lloegr a Chymru,
a’r uchaf yng Nghymru ar 31/03/2016.
Tra defnyddiwyd rhagdybiaethau’r Gronfa ei hun ar
gyfer cynlluniau ariannu ac ar gyfer penderfyniadau buddsoddi strategol, nodwyd
bod y cymariaethau hyn yn cadarnhau cadernid
strategaeth ariannu Cronfa Gwynedd, gyda thwf sylweddol mewn asedau
buddsoddi yn 2016/17 yn adeiladu ar hyn.
Partneriaeth Pensiynau Cymru
Adroddodd y Cadeirydd bod cynnydd sylweddol wedi ei wneud dros y
flwyddyn i ddatblygu Partneriaeth
Pensiynau Cymru i reoli asedau buddsoddi'r wyth Cynllun Pensiwn Llywodraeth
Leol (CPLlL) yng Nghymru ar sail gydweithredol. Roedd y Bartneriaeth bellach
mewn sefyllfa i sefydlu Cerbyd Buddsoddi Cyfunol erbyn 1 Ebrill 2018.
Pwysleisiwyd na fyddai'r Bartneriaeth yn golygu cyfuno’r wyth gronfa; byddai
pob cronfa yn cadw ei hunaniaeth unigryw gyda’r awdurdodau gweinyddol yn parhau
yn gyfrifol am gydymffurfio a rheoliadau cynllun CPLlL a’r ddeddfwriaeth
pensiwn o safbwynt eu haelodaeth. Bydd
cyfrifon blynyddol a phrisiadau actiwaraidd teirblynyddol yn parhau i gael eu
paratoi ar gyfer pob cronfa bensiwn unigol a bydd pob cronfa yn penderfynu ar
eu strategaeth ariannu eu hunain
Ategwyd, bod yr wyth Cyngor wedi cymeradwyo cytundeb rhyng-awdurdod
(Gwanwyn 2017) gyda’r Bartneriaeth
Pensiynau Cymru bellach wedi sefydlu Cydbwyllgor Llywodraethu, sydd yn cynnwys
aelodau etholedig o bob awdurdod gweinyddol, sydd yn cael ei gefnogi gan
Weithgor Swyddogion. Nodwyd mai'r Cynghorydd Stephen Churchman oedd Cadeirydd y
Cydbwyllgor am eleni. Amlygwyd bod yr wyth gronfa bensiwn yng Nghymru wedi
dechrau ar y broses Caffael Ewropeaidd ar gyfer Gweithredwr ar gyfer y Cerbyd
Buddsoddiadau Cyfunol. Bydd yr ymatebion i’r Gwahoddiad i Dendro gan y
Gweithredwyr yn cael eu hasesu a’u sgorio yn Awst/Medi 2017 gyda’r bwriad i’r
Cydbwyllgor argymell apwyntio’r cynigydd gorau o ran cyrraedd gofynion y
fanyleb.
Bwrdd Pensiwn
Cyfeiriwyd at adroddiad blynyddol Bwrdd Pensiwn y Gronfa oedd wedi ei
gynnwys yn yr adroddiad. Nodwyd bod y Bwrdd wedi cyfarfod yn rheolaidd ers
Gorffennaf 2015 a diolchwyd i Mrs Sharon Warnes am gadeirio’n effeithiol a
rhagweithiol yn ystod y ddwy flynedd gychwynnol wrth sefydlu'r Bwrdd yn ei rôl
craffu
Canlyniad y Prisiad
Adroddwyd bod prisiad actiwaraidd teirblynyddol y Gronfa wedi ei gwblhau
yn ystod 2016/17, ac er bod sefyllfa cyflogwyr unigol o fewn y Gronfa wedi
gwahaniaethu, yn gyffredinol, roedd cryfder y Gronfa wedi galluogi cymryd dull
hyblyg tuag at gyfraddau cyfraniadau.
Roedd lleihau cynnydd mewn cyfraddau cyfraniadau yn flaenoriaeth, o
ystyried y wasgfa barhaus ar wariant cyhoeddus Nodwyd, bod pob cyflogwr yn
ymwybodol o’u cyfraddau cyfraniadau pensiwn, a’r prif amcan oedd sicrhau bod
gan gyflogwyr strategaethau cyfrannu fforddiadwy, teg, a chynaliadwy ar gyfer
2017/18 - 2019/20, sydd yn adlewyrchu eu hamgylchiadau unigol eu hunain.
Er bod adnoddau staff y Gronfa wedi eu hailgyfeirio
i’r Prisiad, parhaodd yr uned weinyddol i gyflawni perfformiad boddhaol. Nodwyd
bod y wybodaeth sydd ar wefan y Gronfa wedi datblygu a bod cynnydd yn nifer yr
aelodau sydd yn defnyddio’r gwasanaethau ar-lein.
Croesawyd aelodau newydd y Pwyllgor Pensiynau ac ymestynnwyd diolch i’r
cyn-gynghorwyr Tudor Owen (Cyngor Gwynedd a chyn-gadeirydd), Glyn Thomas
(Cyngor Gwynedd) a Margaret Lyon (cynrychiolydd Cyngor Bwrdeistrefol Sirol
Conwy) am eu gwasanaeth. Diolchwyd hefyd
i’r cyn-gynghorydd, y diweddar Trefor Edwards, a wasanaethodd am nifer o
flynyddoedd fel aelod a chyn-gadeirydd y Pwyllgor Pensiynau. Cafwyd munud o
dawelwch fel arwydd o barch.
Diolchwyd i bawb am eu cefnogaeth yn ystod
2016/17
PENDERFYNWYD
DERBYN ADRODDIAD BLYNYDDOL Y GRONFA BENSIWN AM 2016/17
Dogfennau ategol: