Ystyried yn ehangach rôl a dylanwad yr Iaith Gymraeg ar y drefn gynllunio.
Cofnod:
a) Cyflwynwyd
adroddiad gan Aelod Cabinet Cynllunio a Rheoleiddio yn ymateb i gais yr Aelodau
am wybodaeth gefndirol mewn perthynas â’r drefn
gynllunio a’r iaith Gymraeg. Cyfarchwyd y materion isod yn yr adroddiad.
i.
Gosod y cyd-destun
statudol o ran Deddf Cynllunio (Cymru) 2015
ii.
Egluro’r Polisi
Cynllunio Cenedlaethol (TAN
20)
iii.
Egluro’r Polisi
Cynllunio Lleol Cyfredol (Y Cynllun Datblygu Unedol a’r Canllaw Cynllunio
Atodol: Cynllunio a’r Iaith Gymraeg)
iv.
Egluro sut mae’r Gwasanaeth yn gweithredu o fewn y cyd-destun polisi cyfredol
v.
Rhoi gwybodaeth ynglŷn â’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
(Drafft)
vi.
Egluro sut, yng nghyd-destun gofynion TAN 20, y bydd gofyn i ni ddelio
gyda’r Iaith Gymraeg wrth benderfynu
ceisiadau cynllunio ar ôl i’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
gael ei fabwysiadu
a sut mae’r Gwasanaeth yn ceisio
ymateb i hyn
b) Mewn ymateb i’r
adroddiad, gwnaed cais am eglurder o ran gofynion Polisi Cynllunio Cymru (TAN 20) a’r awgrym na
ddylai ceisiadau cynllunio fod yn destun effaith ar yr iaith Gymraeg oherwydd y
disgwylid fod hyn wedi ei wneud wrth baratoi’r Cynllun Datblygu Lleol.
Ymatebodd yr Uwch
Reolwr Cynllunio ac Amgylchedd, y gallasai sefyllfa’r
‘iaith’ ar ôl mabwysiadu’r Cynllunio Datblygu Lleol fod yn wannach. O
ganlyniad, bydd cyfres o Ganllawiau Cynllunio Atodol newydd yn cael eu paratoi
fel rhan o broses paratoi’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd gyda bwriad rhoi blaenoriaeth i baratoi Canllaw
Cynllunio Atodol sydd yn ymdrin â chymunedau cynaliadwy. Bydd y canllaw yma yn
cynnwys manylder ar faterion cynllunio a’r iaith Gymraeg. Nodwyd bod pwynt
tyngedfennol wedi ei gyrraedd o ran datblygu’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
yng nghyd - destun llunio canllawiau priodol i roi ystyriaeth i'r iaith.
c) Materion yn codi
o’r drafodaeth:
i.
Sut mae cloriannu egwyddorion ‘iaith’ ac
egwyddorion ‘ymateb i’r galw am dai’?
ii.
Sut gellid dylanwadu ar ffigyrau ‘anghenion tai’
sydd yn cael eu rhyddhau gan Lywodraeth Cymru ?
iii.
Rhaid rhoi mwy o ystyriaeth i’r iaith o fewn y
drefn cynllunio.
iv.
Rhaid sicrhau cyfiawnder i’r Iaith Gymraeg
v.
A fydd y Canllawiau
Cynllunio Atodol yn statudol?
vi.
Rhaid cryfhau'r elfen iaith er mwyn sicrhau na fydd
y Cyngor Llawn yn gwrthod y Cynllun Datblygu Lleol ar sail yr elfen yma.
vii.
Rhaid sicrhau bod Deddfwriaeth Cymru yn gadarn
viii.
A ddylid ystyried
yr opsiwn o greu ‘Bro Cymraeg’ er mwyn uchafu’r
grym?
ix.
A ddylid ystyried polisïau lle gellid cadw pobl
leol yn lleol
ch) Mewn ymateb i’r sylwadau
eglurwyd bod asesiadau iaith yn rhan o
broses cynllunio Gwynedd ac yn un sydd, yn mynd tu hwnt i ofynion
Llywodraeth Cymru, yn lobio am newidiadau i’r Ddeddf Cynllunio ac yn gwthio
ffiniau TAN mewn cyd-destun gofynion asesiadau iaith. Eglurwyd bod Panel Cynllunio ar y Cyd yn
trafod yn chwarterol faterion cynhennus sydd yn ymwneud â effeithiau cymunedol,
diwylliannol ac ieithyddol ac y bydd adroddiad yn cael ei baratoi i osod
fframwaith statudol ar gyfer rhoi ystyriaethau i’r iaith. Ychwanegwyd bod
swyddogion, wrth greu cynlluniau gydag
ymgeiswyr, yn amlygu unrhyw bryderon fydd yn creu effaith ar yr iaith Gymraeg.
O ran statws y Canllawiau Cynllunio
Atodol, cryfhau'r polisi Cynllunio fydd eu bwriad. Unwaith bydd y polisi wedi
ei fabwysiadu, bydd y canllaw yn statudol o fewn y broses cynllunio.
Mewn ymateb i ‘gryfder’ y Cynllun Datblygu
Lleol nodwyd bod gan y Cyngor rôl ddylanwadol dros y blynyddoedd nesaf. Ategwyd
bod yr iaith yn fater sydd yn cael ei ystyried drwy’r
cyfnod ynghyd â phroffiliau diwylliannol. Er mwyn cymeradwyo’r Cynllun bydd rhaid iddo fod yn
seiliedig ar dystiolaeth ac ar hyn o bryd, mynegwyd barn, bod y Cynllun yn un
cadarn (gan gynnwys yr elfennau ieithyddol a chymunedol).
Ategwyd bod cyfle yma i’r Pwyllgor
Craffu ddylanwadu ar elfennau cenedlaethol a chael mewnbwn i’r Canllawiau
Cynllunio Atodol.
Diolchwyd i’r swyddogion am yr eglurder ac am y drafodaeth adeiladol a gafwyd ar y mater.
PENDERFYNWYD
CEFNOGI GWAITH Y PANEL CYNLLUNIO AR Y CYD I
GEISIO SICRWYDD BOD Y CYNIGION YN Y CYNLLUN DATBLYGU LLEOL YN CYFARCH HER YR
IAITH YN DDIGONOL AC YN CYFARCH Y GALW AM Y NIFER O DAI.
BOD ANGEN SICRHAU MEWNBWN Y PWYLLGOR HWN A'R PWYLLGOR IAITH YN
NATBLYGIAD Y CANLLAW CYNLLUNIO ATODOL NEWYDD A'R SYLW A FYDD YN CAEL EI ROI I'R
IAITH YN Y CANLLAW HYNNY.
Dogfennau ategol: