skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar yr uchod. 

 

(Copi’n amgaeedig)

 

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ar dai gwag yng Ngwynedd a oedd yn cyfeirio at nifer o fentrau o gymorth i berchnogion tai i wneud y gorau o’u heiddo.

 

          Adroddwyd bod y Gwasanaeth Tai wedi llwyddo i ddod a 455 o dai yn nôl i ddefnydd ac yn sgil hyn wedi llwyddo i gartrefu 915 o bobl Gwynedd ac sydd wedi galluogi unigolion i aros yn eu cynefinoedd. 

 

          Cafwyd blas gweladwy, ar ffurf sleidiau, o rai o’r tai problemus yn nhrefi / pentrefi Trawsfynydd, Maentwrog, Llan Ffestiniog, Penygroes, Bryncrug, Dolgellau, Caernarfon, Llanbedr, Bangor, Nefyn, Llandwrog a Thywyn.

 

          O safbwynt parhad a dyfodol i’r arian sydd ar gael, nodwyd bod y Cyngor o ran rhaglen cyfalaf wedi bod yn buddsoddi ac yn denu arian o ffynhonellau eraill. Hyderir y gellir ail-fuddsoddi arian ychwanegol a ddaw drwy’r cynnydd yn nhreth Cyngor ar ail-gartrefi at ddefnydd dibenion dod a tai gwag yn ôl i ddefnydd. 

 

          Amlygwyd y prif bwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

 

(i)               Gofynnwyd a fyddai modd dwyn achos gorfodaeth gan gyfeirio yn benodol at dy yn Llan Ffestiniog a oedd mewn cyflwr truenus ers blynyddoedd lawer ac wedi achosi cryn boendod i gymdogion cyfagos.

 

(ii)              Mewn ymateb, amlinellodd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y pwerau  sydd mewn grym i’r Cyngor, gan nodi bod modd dwyn achos gorfodaeth ar berchennog eiddo os yw’r eiddo yn effeithio ar strwythur tŷ drws nesaf. Yn yr achos penodol hwn nid oedd yn creu effaith strwythurol ar y ty cyfagos. Nodwyd ymhellach bod trafodaethau ar y ty dan sylw yn mynd rhagddynt ers blynyddoedd lawer gyda swyddogion awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ac anogwyd yr Aelod lleol i drafod y mater ymhellach gyda swyddogion y Parc oherwydd nad oedd gan yr Uned Dai bwerau i ddatrys y mater. 

 

          O safbwynt buddsoddiadau i berchnogion tai, nodwyd nad oedd yn ofynnol iddynt ymgymryd â phrawf modd, ac nad oedd y buddsoddiad ar gyfer prynu tai, ond yn hytrach gwneud gwelliannau a dod a thai yn ôl i ddefnydd.  Nodwyd ymhellach y gallai prawf modd arwain at sefyllfa a fyddai’n arafu y gwaith o ddod a thai gwag yn ôl i ddefnydd gan bod landlordiaid yn gwneud buddsoddiad eithaf sylweddol eu hunain mewn costau adnewyddu.  Fe fyddai’r ty gwag yn rhan o gynllun lesu am gyfnod o 5 mlynedd, neu ar gael i bobl oddi ar restr aros y Cyngor neu gleientau Gwasanaethau Cymdeithasol. 

           

(iii)             Gofynnwyd beth oedd y targedau a sut y byddir yn mesur llwyddiant?  Gwnaed sylw pellach bod y llogau oddeutu 8 / 9 % yn 2008 a oedd yn bolisi ffafriol ar y pryd ond a oedd y ffigyrau wedi gostwng? 

 

Mewn ymateb, esboniodd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y gweinyddir dau fath o fenthyciad – un mewnol a’r llall ar ran Llywodraeth Cymru.  ‘Roedd dipyn o alw am y benthyciad ac roedd y gwasanaeth wedi ei newid yn ddiweddar gyda’r amser talu yn ôl wedi ei ymestyn.  Cadarnhawyd bod y cynllun wedi ei lefelu allan oherwydd bod llogau wedi gostwng.

 

Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai, pan y bu i’r cynllun gychwyn llwyddwyd i ddod ag oddeutu 10 ty y flwyddyn yn ôl i ddefnydd ond erbyn hyn bod yr allbynnau wedi cynyddu ond yr arian wedi aros ‘run fath. 

 

(iv)             Mewn ymateb i faint ragwelir o arian ddaw yn ôl yn deillio o’r premiwm treth Cyngor ar ail gartrefi, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant, ei bod yn anodd rhagweld beth fyddai yr incwm ychwanegol ond y byddai ef a’r Gwasanaeth Tai yn cyflwyno gwybodaeth i ystyriaeth yr Aelod Cabinet i gefnogi ail-fuddsoddi ar gyfer dibenion tai gwag. Fodd bynnag, nododd rhaid bod yn realistig o ystyried bod pob gwasanaeth o’r Cyngor yn wynebu arbedion a thoriadau.

 

(v)              O safbwynt y ffi gweinyddol, nodwyd mai’r unigolyn sydd yn cael y benthyciad sydd yn ei dalu yntai ymlaen llaw neu ar y benthyciad a’i fod yn cael ei ail-gylchu ar gyfer mwy o fuddsoddi. 

         

(vi)             Mewn ymateb i ymholiad ynglyn â rhesymau pam bod cyflwr tai gwag yn waeth yng Ngwynedd, nododd y Rheolwr Tai – Cyflenwad a Gorfodaeth y bu i’r Gwasanaeth greu holiadur oddeutu 9 mlynedd yn ôl a derbyniwyd nifer o ymatebion a rhesymau megis bod pobl wedi etifeddu tai, wedi eu cadw o ran teimladrwydd a’u bod wedi dirywio mewn cyflwr; eraill wedi prynu tai ac ddim digon o arian i’w hatgyweirio i gyflwr addas.  Ychwanegodd yr Uwch Reolwr Tai a Llesiant bod nifer o dai yng Ngwynedd wedi eu hadeiladu cyn 1919 gyda’r tai hynny wedi dirywio mewn cymunedau trefi diwydiant llechi, a’r ffactor arall ydoedd diboblogi mewn rhai ardaloedd o Wynedd.

           

(vii)            O ystyried bod lefel incwm cyfartalog yn isel mewn rhai ardaloedd yng Ngwynedd, gofynnwyd pam na all y Cyngor adeiladu tai a gweithreu cynllun rhentu i brynu.  Byddai modd wedyn i’r Cyngor dderbyn rhent a threth Cyngor ac yn sgil hyn yn rhoi siawns i bobl ifanc fedru byw yn lleol.

 

          Mewn ymateb, eglurwyd bod yn bosibl gweithredu’r uchod a’r gwasanaeth wedi trafod gyda chymdeithas dai (Cynllun Tai Lleol Gwynedd)  ar gyfer datblygu safleoedd yng Ngwynedd (Waunfawr, Penygroes, Llanllyfni, Bethesda, Llanuwchllyn).  Hefyd, bod y llywodraeth yn gweithredu cynllun prynu lle mae modd prynu canran o’r ty lle gall unigolion fod yn berchen ar rhwng 60/70%  ac yn rhentu’r gweddill.  Byddai’n rhaid i’r Cyngor fuddsoddi ar raddfa enfawr ond ar hyn o bryd nid oedd yr adnoddau ar gael.

 

(viii)           Gofynnwyd a oedd methodoleg o adnabod tai gwag ac efallai cyfle i gael sustem mwy trylwyr gyda’r Adran Gynllunio yn chwarae rôl yn benodol ar gyfer dod a siopau gwag yn ôl i ddefnydd. 

 

          Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant bod rôl i’r Adran Gynllunio gyfrannu ond nid i arwain ac y dylid sicrhau bod y drefn gynllunio / gwasanaeth tai yn gweithio ochr yn ochr. 

 

(ix)             Nodwyd nad oedd rhestr ar gael o dai gwag i’w rannu gyda Chynghorau Cymuned / Tref yn unol â’r Ddeddf Diogelu Data ond derbyniwyd caniatâd i rannu’r rhestr hefo Aelodau etholedig a gwerthfawrogir unrhyw wybodaeth o dai gwag o fewn eu wardiau nad ydynt ar y rhestr.   

 

I gloi, nododd Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant ei bod yn amlwg bod angen mwy o dai i osgoi digartrefedd a bod angen parhau â’r gwaith gyda’r 1164 o dai gwag.  Nodwyd mai swm o arian cyfyng iawn sydd ar gael a rhaid bod yn ofalus a’i ddefnyddio i  ymateb i anghenion.

 

Cynigiwyd, eilwyd a phleidleiswyd yn unfrydol i gefnogi bod cyfran o’r arian ychwanegol a ddaw o gynllun treth Cyngor ail gratrefi yn cael ei ail-fuddsoddi i’r gwasanaeth tai gwag ar gyfer y stoc tai.

 

Awgrymwyd ymhellch bod angen rheolaeth ar geisiadau drwy ystyried cynnal prawf modd ar unigolion sydd yn gwneud ceisiadau.

 

          Penderfynwyd:            (a)        Derbyn, nodi a diolch am yr adroddiad.

 

                                       (b)       Gofyn i’r Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant gyfleu cymeradwyaeth a chefnogaeth y Pwyllgor Craffu Gofal bod unrhyw arian ychwanegol a ddaw o’r premiwm treth cyngor ar ail gartrefi a chartrefi gwag yn cael ei ail-fuddsoddi i’r Gwasanaeth Tai Gwag at ddibenion dod a tai gwag yn ôl i ddefnydd.

 

                           (c) Gofyn i’r Adran ystyried edrych ar fanylion banc ymgeiswyr pan yn cyflwyno ceisiadau.

 

                           (ch) Bod y Gwasanaeth yn cyflwyno rhestr i Aelodau’r Pwyllgor Craffu hwn o dai gwag yng Ngwynedd fel eu bod yn gallu cadw golwg yn lleol a’i ddiweddaru fel bo angen.     

 

Dogfennau ategol: