Derbyn adroddiad yn ôl gan
yr Aelod Cabinet ar weithrediad argymhellion yr Ymchwiliad Craffu.
Cofnod:
a) Cyflwynwyd adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg
yn ymateb i argymhellion yr Ymchwiliad
Craffu Cludiant Ôl-16 i Addysg Bellach. Nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi anfon
ei ymddiheuriadau ar gyfer y cyfarfod, ond amlinellodd yr Uwch Reolwr Ysgolion
bod yr Aelod Cabinet yn diolch i aelodau’r ymchwiliad am eu gwaith trwyadl i’r
maes. Ymddiheurwyd am yr oedi o gyflwyno adroddiad ac ategwyd bod y cyfle o
gyflwyno / gweithredu rhai o’r
argymhellion ar gyfer Medi 2015 wedi cael ei effeithio gan gyfnod ‘purdah’. Nodwyd hefyd y bydd geiriad ac amodau Polisi
Cludiant Ôl-16 yn cael ei symleiddio a’i addasu i gyfarch y newidiadau.
Eglurwyd bod yr argymhellion wedi eu rhannu i dri chategori a thrafodwyd hwy yn
unigol. Rhai o’r newidiadau fydd codi un pris a dileu’r cysyniad o ddalgylch er
mwyn sicrhau cysondeb o ran y ddarpariaeth. Y gobaith yw dileu rhywfaint o’r
rhwystrau. Bydd geiriad ac amodau’r Polisi Cludiant newydd yn llawer symlach a darllenadwy. Bydd hyn yn sicrhau gwell dealltwriaeth y defnyddiwr, y darparwyr addysg
ynghyd â staff llinell gymorth Galw Gwynedd.
Ychwanegwyd bod yr awydd i gydweithio gyda Phartneriaid i gyfrannu at
wella’r ddarpariaeth, a bod trafodaethau gyda Grŵp Colegau Llandrillo Menai
i weithredu fel asiant wedi eu cynnal. Ategwyd bod diddordeb wedi ei nodi ond
dim ymrwymiad hyd yma.
b) Yn manteisio ar ei hawl i siarad, cyflwynodd
Mr S Chambers, Llywydd Undeb Myfyrwyr Coleg Meirion Dwyfor ei gynigion ef i’r
Polisi Cludiant Ôl -16. Nodwyd y sylwadau isod:
- Safon y gwasanaeth ac nid y pris
sydd yn codi amheuaeth
-
Gorlawnder
ar y bysiau - y bysiau yn codi aelodau o’r cyhoedd, disgyblion ysgol uwchradd
ynghyd a myfyrwyr y Coleg - risg Iechyd a Diogwch
-
Hyblygrwydd y tocyn – cyfyngder o ddefnydd dwywaith y diwrnod yn cyfrannu at orlawnder
-
Defnydd
‘My Travel Pass’ - Cynllun
Llywodraeth Cymru. Pam nad yw gyrwyr bysiau yn ei dderbyn?
-
Angen trefniadau gwell ar gyfer
cyfnodau tywydd drwg.
-
Awgrymu
rhoi ffocws ar ansawdd ac anghenion y myfyrwyr
c) Yn ystod y drafodaeth
nodwyd y sylwadau canlynol:
-
Bod
gormod o wahaniaethau rhwng Deddfwriaeth Cymru a Lloegr ac mai ffocws gwreiddiol yr ymchwiliad oedd
edrych ar yr anghysondebau hyn. Dadleuwyd nad oedd y Cyngor dim agosach at
gynorthwyo pobl o aelwydydd difreintiedig
-
Pryder nad oedd ‘My Travel Pass’ yn cael ei
dderbyn
-
Angen rhoi ystyriaeth i hyblygrwydd y tocyn – cynnig arbrofi hyblygrwydd i’r tocyn mewn ardal
benodedig
-
Nid yw
codi pris y tocyn o £60 i £100 yn deg - a oes modd adolygu hyn a chynnig £80?
-
Angen
ystyried bysiau pwrpasol ar gyfer myfyrwyr yn unig i osgoi gorlawnder - cynnig
yr angen i ymgynghori ymhellach gyda defnyddwyr
-
Angen
cynnal trafodaethau pellach gyda chwmnïau cludiant cyhoeddus masnachol er mwyn
ceisio atal y rhwystr o ddefnyddio tocyn unrhyw amser o’r diwrnod.
ch) Cynigodd
y Cynghorydd Gruffydd Williams y dylid galw ar yr Aelod Cabinet i beidio â
chodi cost y tocyn o £60 i £100, a gofynnodd i hynny gael ei gofnodi. Ni
eiliwyd y cynnig
PENDERFYNWYD:
a)
MYNEGI PRYDER AM YR ARAFWCH YN Y GWEITHREDU AR YR ARGYMHELLION,
CROESAWU'R GWAITH SYDD YN DIGWYDD BELLACH, OND PWYSO AM WEITHREDU BUAN AR Y
CYFAN O'R ARGYMHELLION YN CODI O'R YMCHWILIAD, GAN OFYN YN BENODOL I'R AELOD
CABINET RHOI
SYLW I :
i. SAFON AC ANSAWDD Y
DDARPARIAETH YN RHANNOL YN SGIL GORLENWI
ii.
Y CYFYNGIAD AR Y NIFER O DROEON NEU'R ADEGAU Y MAE
MYFYRWYR YN CAEL DEFNYDDIO'R TOCYN AC AWGRYM BOD TRAFODAETH YN DIGWYDD GYDA
DARPARWYR AM ARBROFI I GANIATÁU HYBLYGRWYDD AM GYFNOD
iii.
Y DEFNYDD O'R "MY TRAVEL PASS" - AMHARODRWYDD
Y CWMNÏAU BWS I GYDNABOD Y DEFNYDD OHONO
iv. CYSYLLTU Â
LLYWODRAETH CYMRU I BWYSO AM WEITHREDU TREFN FEL SYDD YN LLOEGR I GYNORTHWYO
MYFYRWYR O AELWYDYDD TLOTAF
b)
GOFYNNIR I'R AELOD CABINET ADRODD YN ÔL AR Y MATERION HYN
CYN MEDI 2016.
Dogfennau ategol: