Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·        Bod y Pwyllgor Ymgynghorol yn statudol a bod yr aelodaeth yn unol â Rhan 6(2)(a-j) Gorchymyn Diwygio Harbwr Porthmadog. Derbyniwyd cais gan Clwb Rhwyfo Porthmadog i gael cynrychiolaeth ar y Pwyllgor Ymgynghorol. Nododd yr eglurwyd iddynt bod Dr John Jones-Morris yn cynrychioli buddiannau hamdden ar y Pwyllgor Ymgynghorol a gellir cyfeirio materion ato i dderbyn ystyriaeth.

·        Bod 135 o gychod ar angorfeydd blynyddol yn Harbwr Porthmadog yn 2017 o gymharu gyda 129 yn 2016. Roedd yn galonogol bod cynnydd bychan yn y niferoedd eleni.

·        Bod Adran Trafnidiaeth y Llywodraeth wedi cyhoeddi addasiadau i’r Cod Diogelwch Porthladdoedd ym mis Tachwedd 2016. Roedd copïau o’r cod newydd wedi ei ddosbarthu i holl Aelodau’r Pwyllgorau Ymgynghorol gyda chopi hefyd ar gael ar wefan Asiantaeth Gwylwyr y Glannau.

·        Cynhaliodd archwilwyr Asiantaeth Gwylwyr y Glannau arolygiad trylwyr o drefniadau a systemau diogelwch presennol harbyrau bwrdeistrefol Gwynedd er sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Porthladdoedd rhwng y 19eg a’r 21ain o Fedi 2017. Barn gychwynnol yr archwilwyr oedd bod y Cyngor yn cyd-fynd gyda’r gofynion yn gyffredinol ond bod angen addasu rhai elfennau yn gysylltiedig â chofnodi dyletswyddau a nodi Deiliwr Dyletswydd. Fe fu i’r archwilwyr ymweld ag harbyrau Aberdyfi, Porthmadog a Phwllheli yn ystod yr archwiliad. O ran Harbwr Porthmadog, bod y sylwadau a dderbyniwyd yn wych ac nid oedd problemau wedi dod i’r amlwg. Diolchodd i’r Harbwr Feistr a’r Uwch Swyddog Harbyrau am eu gwaith yn sicrhau bod y ddogfennaeth briodol mewn lle.

·        Derbyniwyd adroddiad ysgrifenedig gan yr archwilwyr ar ddiwrnod y cyfarfod yn amlinellu’r materion a fydd angen sylw gan y Cyngor. Eglurodd bod gan y Cyngor gyfnod penodol i addasu trefniadau ac fe fyddai Asiantaeth Gwylwyr y Glannau yn ail ymweld â’r gwasanaeth oddi fewn 12 mis o gyflwyno’r adroddiad ble bydd disgwyl bod argymhellion a gyflwynwyd yn yr adroddiad wedi eu gweithredu. Nododd y byddai’n cylchredeg copi o’r adroddiad i’r aelodau.

·        Yn dilyn trafodaeth gyda’r archwilwyr cytunwyd mewn egwyddor byddai’n fuddiol bod dyddiad yr ail ymweliad yn cyd-fynd a dyddiad Pwyllgor Ymgynghorol Harbwr. Awgrymwyd i’r archwilwyr byddai’n fuddiol bod yr archwilwyr yn mynychu cyfarfod o Bwyllgor Ymgynghorol Harbwr Porthmadog gan wahodd cynrychiolwyr Pwyllgorau Ymgynghorol Aberdyfi, Abermaw a Pwllheli i’r cyfarfod ym mis Hydref 2018.

·        Ni dderbyniwyd sylwadau o ran y Côd Diogelwch Morwrol yn y cyfnod ers y cyfarfod diwethaf.

·        Cafwyd archwiliad manwl gan archwilwyr Awdurdod Goleudai Tŷ’r Drindod ar yr 2il Awst 2017. Mewn cymhariaeth ac adroddiadau blaenorol roedd adroddiad 2017 yn cadarnhau gwelliant pellach yng nghyflwr a lleoliadau Cymhorthion Mordwyo Harbwr Porthmadog. ‘Roedd siart yn arddangos lleoliadau cyfredol y cymhorthion mordwyo wedi eu rhannu yn y cyfarfod.

·        Bod 1 Rhybudd i Forwyr (Rh-15/2017) mewn grym yn Harbwr Porthmadog. Roedd y rhybudd wedi ei ryddhau oherwydd nad oedd bwi rhif 8 ar ei safle priodol. Eglurodd bod y bwi wedi symud at gyfeiriad Bwi rhif 6 ac fe fyddai’n cael ei ail leoli ar y cyfle cyntaf.

·        Bod Bwiau rhif 1, rhif 3 a rhif 11 wedi eu terfynu. Pe byddai eu hangen yna fe fyddai’r bwiau yn cael eu hail leoli yn y lleoliadau priodol fel bod angen. Nododd bod y gwasanaeth wedi hysbysu Tŷ’r Drindod.

·        Bod cyfnod cyflogaeth Cymhorthydd Harbwr Porthmadog (tymhorol) wedi ei ymestyn i ddiwedd Rhagfyr 2017 yn ogystal â Chymhorthion Harbwr Aberdyfi ac Abermaw. Byddai ymestyn y cyfnod cyflogaeth yn sicrhau cefnogaeth a pharhad i’r gwasanaeth ar draws y sir dros fisoedd y gaeaf.

·        Diolch i staff yr Harbwr am ansawdd eu gwaith a’u hymrwymiad i’r gwasanaeth a oedd yn ganmoliadwy.

·        Y codir ffi nominal ar ddefnyddwyr angorfeydd cychod bach yn ardal Borth y Gest o Ebrill 2018 ymlaen.

·        Er cwrdd â her cyllideb a tharged incwm y gwasanaeth argymhellir fod ffioedd Harbwr Porthmadog yn cynyddu 2% ar gyfartaledd ar gyfer blwyddyn ariannol 2018-19. Pwysleisiodd mai drafft yn unig a gyflwynwyd yn y rhaglen, a bod y ffioedd yn ddarostyngedig i dderbyn cadarnhad gan Aelod Cabinet – Datblygu’r Economi a fe’u cadarnheir yn y cyfarfod nesaf.

·        Bod darpariaeth talu gyda cherdyn yn yr Harbwr bellach a’i fod yn welliant sylweddol a oedd yn hwyluso trefniadau talu i ddefnyddwyr.

 

Manylodd yr Harbwr Feistr ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau dynnu sylw at unrhyw waith ychwanegol y dylid ei ystyried. Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden bod ardal Pencei yn edrych yn daclusach a’i werthfawrogiad bod yr Harbwr Feistr wedi torri’r gwair. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth yn awyddus i gynorthwyo’r Ganolfan o ran cynnal a chadw eu llecyn gwyrdd.

 

Rhoddodd Gynrychiolydd Buddiannau Hamdden ddiweddariad ar fwriad Clwb Hwylio Madog i gyflwyno cais ar gyfer cynyddu nifer pontŵns yn yr Harbwr. Nododd y derbyniwyd 2 amcan bris ar gyfer gwireddu’r cynllun yn ddiweddar. Byddai angen asesu’r angen am y ddarpariaeth ynghyd â sut yr ariennir y cynllun. Cadarnhaodd y byddai’n cysylltu efo’r Gwasanaeth Morwrol i gadarnhau’r sefyllfa.

 

Mewn ymateb i gwestiwn gan aelod parthed grisiau’r môr, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y grisiau o wneuthuriad llechi a bod canllawiau wedi eu gosod oherwydd bod nifer yn llithro arnynt. Ychwanegodd yn dilyn gosod y pontŵns eu bod allan o ddefnydd a bod mynediad i’r cyhoedd o’r pontŵns. Nododd nad oedd clo ar y giât felly nid oedd cyfyngiad ar ddefnydd y cyhoedd.

 

Adroddodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y gwasanaeth wedi cynnal asesiad risg er adnabod a lleihau unrhyw risg yn ymwneud â gyrru a pharcio cerbydau ar diroedd yn ffinio swyddfa’r Harbwr Feistr. Eglurodd oherwydd cynnydd yn nifer cerddwyr yn cerdded o’r briffordd ar hyd ochr y cei at gyfeiriad y swyddfa ni chaniateir i gerbydau’r gwasanaeth cael eu gyrru ar hyd y llwybr hwn. Nododd bod llwybr amgen wedi ei adnabod a fyddai’n golygu gellir cael mynediad at y gweithdy heibio cefn adeilad y Ganolfan.

 

Ychwanegodd ni chaniateir mynediad at yr adeilad oni bai ar adegau pan oedd angen llwytho neu ddadlwytho nwyddau yn gysylltiedig â gwaith yr harbwr. Ni chaniateir i unrhyw gerbyd barcio ar y llecyn yn rhedeg cyfochrog ac adeilad yr Harbwr Feistr. Roedd llecynnau parcio amgen ar gael i ymwelwyr unai yn y Ganolfan neu yn y maes parcio talu ac arddangos yng nghefn yr adeilad harbwr.

 

Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Hamdden nad oedd ganddo wrthwynebiad i’r bwriad.

 

Eglurodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig bod y Gwasanaeth Eiddo yn cynnal trafodaethau efo’r Ganolfan a byddai’n cysylltu â’r Gwasanaeth i dderbyn diweddariad ar y trafodaethau.

 

Nododd aelod y dylid bod modd cyfeirio mater yn uwch yn yr Adran yn hytrach na bod gwrthdaro rhwng y Ganolfan a swyddogion. Mewn ymateb, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y gallai’r cyfathrebu rhwng y Cyngor a’r Ganolfan wedi bod yn well, ond ei fod yn obeithiol y gellir dod i ddealltwriaeth a fyddai’n dderbyniol i’r Ganolfan.

 

Rhannwyd copi o grynodeb cyllidebol terfynol 2016-17 a diweddariad ar gyllideb 2017-18 hyd at ddiwedd Medi 2017 yn y cyfarfod. Tynnwyd sylw bod diffyg yn erbyn y targed incwm ar gyfer 2016-17 ond bod tanwariant o £2,168 yng nghyllideb 2016-17. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig ei fod yn falch o ymrwymiad y staff a oedd yn gweithio’n effeithiol o fewn yr adnoddau prin. Cyfeiriwyd at sefyllfa gyllidebol 2017-18 hyd at ddiwedd Medi 2017, gan nodi y buddsoddwyd mewn cwch newydd i’r Harbwr a oedd yn angenrheidiol er mwyn cyflawni’r gwaith ac o’r herwydd y rhagwelir gorwariant ar ddiwedd y flwyddyn ariannol. Nodwyd y ceisir ariannu’r gwariant o gronfeydd ac o ganlyniad byddai’r sefyllfa gyllidebol yn well na llynedd.

 

Mewn ymateb i ymholiad gan aelod parthed cyllideb Traeth y Greig Ddu, nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig nad oedd cyllideb traethau o fewn cylch gorchwyl y Pwyllgor Ymgynghorol. Nododd y byddai’n anfon gwybodaeth gyllidebol traethau i’r aelodau.

 

Cyfeiriodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig at ddigwyddiadau a gynhaliwyd yn Harbwr Porthmadog yn ystod 2017, a oedd yn cynnwys Ras Cychod Hir Celtaidd Pwllheli i Borthmadog a diwrnod ar gyfer Sefydliad y Bâd Achub.

 

Nododd Cynrychiolydd Buddiannau Masnachol bod digwyddiad Badau Dŵr Personol wedi ei gynnal yn ogystal â fe godwyd £4,237 at elusen Ambiwlans Awyr Cymru. Ychwanegodd y gobeithir cynnal y digwyddiad eto'r flwyddyn nesaf.

 

Nododd aelod bod grŵp Caru Port wedi derbyn arian gan TESCO i gynnal digwyddiad megis Hwyl yr Harbwr gyda’r awydd yn lleol i gynyddu’r defnydd cymunedol yn ardal yr Harbwr. Nododd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig y byddai’n croesawu trafodaethau efo’r grŵp.

 

Tynnodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned sylw bod Croeso Cymru efo ymgyrch blwyddyn y môr yn 2018 gyda rhan fwyaf o’r gweithgareddau yn cael eu cynnal ym Mae Caerdydd ond bod ystyriaeth yn cael ei roi i gynnal digwyddiadau cymunedol yn ogystal â bod angen cadw Porthmadog mewn cof.

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn yr adroddiad.

Dogfennau ategol: