Dymchwel tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei
le.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Dewi Wyn Roberts
Dolen
i'r dogfennau cefndir perthnasol
Cofnod:
Dymchwel
tŷ presennol ac adeiladu tŷ 3 llawr yn ei le.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi y gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a
gynhaliwyd ar 3 Gorffennaf 2017 er mwyn cynnal ymweliad safle. ‘Roedd rhai o’r
aelodau wedi ymweld â’r safle cyn y cyfarfod ac eglurwyd yr edrychwyd ar y
safle o gyfeiriad Lôn Pont Morgan yn ogystal.
Nodwyd bod y safle ar benrhyn Abersoch, y tu allan i ffin
datblygu'r pentref a thu mewn i Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol Llŷn
(AHNE). ‘Roedd gwrthwynebiadau wedi eu derbyn yng nghyswllt dyluniad y tŷ
a’r effaith ar yr AHNE. Cydnabuwyd pryderon y gwrthwynebwyr, fodd bynnag teimlir nad oedd hynny ynddo’i hun yn golygu y byddai'r bwriad
yn cael effaith niweidiol ar gymeriad yr ardal. Sylweddolir bod y dyluniad yn
gwneud defnydd helaeth o derasau a ffenestri sylweddol, fodd bynnag noder o’r
lluniau a gyflwynwyd gyda’r cais bod tai eraill gerllaw'r safle hefyd yn rhannu
nodweddion pensaernïol o’r fath. Teimlir bod y lluniau, a gyflwynwyd fel rhan o’r
cais, yn dangos na fyddai’r adeilad yn creu datblygiad ymwthiol yn y tirlun ac
er bod edrychiad y tŷ yn wahanol, ni ystyrir y byddai’n achosi niwed
arwyddocaol i dirwedd ac arfordir yr AHNE. Ystyrir fod y bwriad yn addas i’w
leoliad a’i gyd-destun ac na fyddai’n cael effaith andwyol ar yr AHNE. Hefyd,
oherwydd y lleoliad yn erbyn cefndir adeiledig Abersoch ni ystyrir y byddai’r
bwriad yn amharu’n sylweddol ar olygfeydd i mewn ac allan o’r AHNE.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd gan Cyd-Bwyllgor
Ymgynghorol AHNE Llŷn.
Cadarnhawyd bod y
ddarpariaeth parcio yn dderbyniol ac nad oedd gan yr Uned Drafnidiaeth
wrthwynebiad i’r bwriad. Nodwyd bod Llwybr Cyhoeddus gerllaw’r safle a bod
angen ei ddiogelu yn ystod ac ar ddiwedd y datblygiad a gellir gwneud hyn drwy
amod ar y caniatâd cynllunio.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Gwnaed y prif bwyntiau canlynol gan yr aelod lleol
(nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn):-
·
Pryder o ran yr effaith ar y llwybr cyhoeddus;
·
Bod y datblygiad yn enfawr ac yn ymdebygu i westy;
·
Byddai’n weladwy o’r môr a byddai’r datblygiad yn
amharu ar yr olygfa o’r Llwybr Arfordir;
·
Pryder o ran effaith datblygiadau mawr ar yr Iaith
Gymraeg;
·
Pryder o ran egwyddor dymchwel a chodi tŷ;
·
Bod y datblygiad yn groes i bolisi TAI 5 Tai
Marchnad Leol o’r CDLl;
·
Y cyflwynwyd y cais cyn mabwysiadu’r CDLl.
Mewn ymateb i
sylwadau’r aelod lleol, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod
penderfyniadau ar geisiadau cynllunio ers 31 Gorffennaf 2017 yn unol â’r CDLl.
Nodwyd bod yr adroddiad yn ystyried y cais yng nghyd-destun polisïau’r CDLl.
Eglurwyd bod polisi TAI 5 yn ymwneud â thai newydd lle nad oedd tŷ eisoes
yn bodoli ar y safle.
(c) Cynigwyd i wrthod y
cais yn groes i argymhelliad y swyddogion oherwydd byddai’r bwriad yn
or-ddatblygiad o’r safle amlwg gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ
presennol gan greu datblygiad ymwthiol a fyddai’n cael effaith andwyol ar olygfeydd i
mewn, allan ac ar draws yr AHNE.
Eiliwyd y cynnig.
Mewn ymateb i
ymholiad gan aelod parthed sylwadau’r Uned AHNE a sylwadau Cyd-Bwyllgor
Ymgynghorol AHNE Llŷn, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Cynllunio bod gan
yr Uned AHNE ddim gwrthwynebiad i’r bwriad ond bod y Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol
wedi cyflwyno sylwadau yn gwrthwynebu’r cais. Eglurodd bod aelodaeth y
Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol yn cynnwys Cynghorwyr Gwynedd a rhanddeiliaid.
Pwysleisiodd nad oedd polisïau yn gwahardd datblygiadau cyfoes yn yr AHNE.
Nododd os oedd yr aelodau yn credu’n gryf y byddai’r bwriad yn cael effaith
arwyddocaol ar yr AHNE, pe gwrthodir y cais byddai’r aelodau neu aelod unigol
yn cynorthwyo’r Cyngor os derbynnir apêl cynllunio.
(ch) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pryder o ran dymchwel a chodi tŷ enfawr ar y
safle;
·
Bod pobl ifanc wedi eu prisio allan o’r farchnad
dai leol;
·
Pryder am effaith y datblygiad ar Ben Bennar;
·
Bod maint y tŷ bwriedig dros 50% yn fwy o
gymharu â’r tŷ presennol. A oedd asesiad o ran y cynnydd wedi ei gynnal?
·
A oedd y ddarpariaeth parcio yn ddigonol ar gyfer y
datblygiad?
·
Ni fyddai’r tŷ bwriedig yn gweddu i’r
lleoliad;
·
Bod y tŷ presennol wedi gweld dyddiau gwell
felly byddai’n well ei ddisodli;
·
Bod dyluniad y tŷ bwriedig yn wahanol ond nid
oedd steil dyluniad safonol yn yr ardal;
·
Croesawu’r bwriad a fyddai’n wellhad i’r safle;
·
Prin byddai’r tŷ yn weladwy o Lôn Pont Morgan;
·
Ni fyddai’r datblygiad yn amharu ar Lwybr yr
Arfordir ond os oedd pryder o ran gosod ffens a fyddai’n amharu ar yr olygfa fe
ddylid gosod amod i ddelio â hyn;
·
Pe gwrthodir y cais, byddai’r Cyngor yn colli apêl
cynllunio.
Nododd aelod yr
angen am ganllawiau pendant i ddelio efo’r sefyllfa ynghlwm a cheisiadau
cynllunio am dai a thai gwyliau gan fod prisiau tai yn mynd allan o afael pobl
leol. Ychwanegodd y dylai swyddogion wrthod y math yma o gais a’i fod yn
anghyfforddus o ran y patrwm yng nghyswllt dymchwel adeiladau hŷn ac yna
eu datblygu.
Mewn ymateb i sylw
gan aelod, eglurodd y Rheolwr Cynllunio nad oedd polisi TAI 5 yn berthnasol i’r
cais gerbron gan fod tŷ ar y safle yn barod ac felly mai polisi TAI 13 o’r
CDLl oedd yn berthnasol.
Nododd yr Uwch
Reolwr Gwasanaeth Cynllunio ei fod yn gwerthfawrogi pryderon yr aelodau gan
gydnabod bod Abersoch yn unigryw o safbwynt tai a bod polisi TAI 5 yn ceisio
mynd i’r afael a’r sefyllfa, ond nad oedd polisi TAI 5 yn berthnasol i’r cais
dan sylw. Eglurodd bod polisi TAI 13 yn cefnogi’r egwyddor o ran dymchwel
tŷ presennol a chodi tŷ newydd yn ei le, yn ddarostyngedig i gwrdd â
meini prawf perthnasol, a bod yr egwyddor o ail-adeiladu ar y safle dan sylw yn
dderbyniol. Nododd mai mater i’r aelodau oedd asesu os fyddai’r bwriad yn cael
effaith andwyol ar yr AHNE a byddai gofyn ar yr aelodau, pe gwrthodir y cais, i
gefnogi eu penderfyniad petai apêl
cynllunio. Pwysleisiodd bod y cais wedi ei asesu yn unol â’r polisïau cynllunio
cyfredol a bod y bwriad yn cynnig adeilad cynaliadwy modern gan ddefnyddio
deunyddiau naturiol ac nad oedd y polisïau yn gwahardd datblygiadau o’r fath yn
yr AHNE.
Mewn ymateb i sylw
gan aelod parthed costau yn deillio o apêl, nododd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth
Cynllunio na fyddai gwrthod y cais hwn yn creu risg arwyddocaol i’r Cyngor
felly ni fyddai'n ei gyfeirio i gyfnod cnoi cil. Nododd bod risg is o ran
derbyn costau yn erbyn y Cyngor pe gwrthodir y cais a pe collir apêl, fodd
bynnag roedd costau ynghlwm â darparu ar gyfer apêl.
Nododd y cynigydd
bod gwahaniaeth barn o ran dehongli effaith y datblygiad ar yr AHNE ond ei fod
o’r farn y byddai’r datblygiad yn amharu ar ei osodiad a’r golygfeydd tu fewn
ac allan. Ychwanegodd ei fod yn cyd-weld
â sylwadau Cyd-Bwyllgor Ymgynghorol AHNE Llŷn a oedd yn arbenigwyr yn y
maes a’i fod yn barod i amddiffyn apêl.
Mewn ymateb i
sylwadau’r cynigydd, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod rhaid i’r aelodau bwyso a
mesur cynnwys yr adroddiad ynghyd â sylwadau ymgynghorai. Nododd nad oedd yn
briodol i nodi bod un ymgynghorai yn arbenigwyr a’r angen i fod yn ofalus na
roddir gormod o bwysau ar sylwadau un ymgynghorai dros ymgynghorai arall.
Pwysleisiodd bod angen ystyried yr holl wybodaeth a gyflwynwyd gan bwyso a
mesur yn unol â’r ddeddfwriaeth.
PENDERFYNWYD gwrthod y cais.
Rheswm:
Byddai’r bwriad yn or-ddatblygiad o’r safle amlwg gyda’r ôl troed yn sylweddol fwy na’r tŷ presennol gan greu datblygiad ymwthiol a fyddai’n cael effaith andwyol ar olygfeydd i mewn, allan ac ar draws yr AHNE.
Dogfennau ategol: