Cofnod:
Gosod
1 grid gwartheg
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth
Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod yr
ymgeiswyr yn egluro mai’r bwriad
oedd cau bwlch yn y rhwystrau
presennol o amgylch Comin Uwchgwyrfai er atal defaid
a gwartheg rhag crwydro oddi ar
y Comin i bentrefi, ffyrdd a thiroedd cyfagos.
Nodwyd mai’r prif bolisi
cynllunio a oedd yn ymwneud â newidiadau
i'r rhwydwaith cludiant oedd Polisi
TRA 1 o'r CDLl. Eglurwyd bod y polisi hwn yn caniatáu
gwelliannau i isadeiledd ffyrdd presennol os gellir
cwrdd gyda chyfres o feini prawf gan gynnwys
bod y safle a ddewisir yn cael yr
ardrawiad lleiaf posib ar yr
amgylchedd adeiledig a naturiol, y dirwedd ac eiddo.
Ystyriwyd oherwydd maint eithaf bychan y datblygiad hwn, ynghyd a'i leoliad
mewn ardal amaethyddol ei naws, ni
fuasai'r grid ei hun na'r ffensys,
giât a waliau a fyddai o'i amgylch
yn ymddangos fel nodweddion anghydnaws yn y dirwedd.
Cyfeiriwyd at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd. Nodwyd na
chredir y byddai'r lefelau sŵn a ddeilliai o'r grid yn debygol o fod
yn arwyddocaol wahanol i'r hyn
a gynhyrchir gan drafnidiaeth arferol o safbwynt ei effaith
mwynderol. Fe ystyrir felly
bod y cynnig yn cwrdd gyda gofynion
Polisi TRA 1 o ran amddiffyn
eiddo lleol a hefyd PCYFF 2 o ran amddiffyn iechyd, diogelwch a mwynderau trigolion lleol.
Tynnwyd sylw nad oedd gan yr Uned
Drafnidiaeth unrhyw wrthwynebiad i'r bwriad o safbwynt diogelwch y briffordd er yn pwysleisio
ei fod yn
angenrheidiol derbyn caniatâd ychwanegol trwy orchymyn dan
Adran 82 o’r Ddeddf Priffyrdd 1980.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr
adroddiad.
(b) Yn manteisio ar yr hawl i siarad
nododd gwrthwynebydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn cynrychioli trigolion a oedd yn pryderu o ran effaith y datblygiad;
·
Nid oeddent yn erbyn yr
egwyddor ond yn gwrthwynebu’r lleoliad a’i ddyluniad;
·
Pryder o ran diogelwch cerddwyr.
(c) Yn manteisio ar yr
hawl i siarad nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn Gadeirydd Cymdeithas
Pori Uwchgwyrfai, ‘roedd y gymdeithas wedi ei gydnabod gan
Lywodraeth Cymru a bod yr aelodau wedi
arwyddo i gadarnhau y byddent yn cydymffurfio â’r gofynion;
·
Bod cynnydd o ran defnydd cerddwyr o’r Tir Comin
yn hel stoc
i lawr gan
greu trafferth o ran rheoli stoc;
·
Byddai’r grid yn atal stoc
rhag crwydro tuag at bentrefi Carmel a Groeslon.
(ch) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Cynigwyd
gwelliant i gynnal ymweliad safle. Nododd aelod
bod angen datrysiad gyda’r angen i
ystyried beth fyddai’r ateb gorau.
Eiliwyd y gwelliant.
Pleidleisiwyd
ar y gwelliant ac fe syrthiodd.
Pleidleisiwyd
ar y cynnig gwreiddiol i ganiatáu’r
cais ac fe
gariodd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1. Amser
2. Cydymffurfio gyda chynlluniau
3. Cytuno ar union leoliad, deunyddiau a dyluniad y
ffensys / waliau / giât
Nodiadau
Angen
caniatâd dan y Ddeddf Briffyrdd i osod grid gwartheg
Angen caniatâd dan y Ddeddf Briffyrdd i ymgymryd â gwaith o fewn y briffordd
Dogfennau ategol: