Cais llawn i ddiwygio gosodiad allan maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog (8 wedi eu adleoli o fewn y safle) i gymeryd lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a gwellianau amgylcheddol.
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Elwyn Edwards
Cofnod:
Cais
llawn i ddiwygio gosodiad maes carafanau er mwyn lleoli cyfanswm o 92 o
garafanau sefydlog, i gynnwys 30 o garafanau sefydlog (8 wedi eu hadleoli o fewn y safle) i gymryd
lle 35 o garafanau teithiol, lleihad mewn dwysedd y carafanau sefydlog, a
gwelliannau amgylcheddol.
(a) Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi bod caniatâd yn bodoli ar
hyn o bryd ar gyfer 70 o garafanau
sefydlog, a 35 o garafanau teithiol a bod y carafanau teithiol a’r carafanau
sefydlog wedi eu lleoli ar
ddau gae gwahanol o fewn y safle, ni fyddai’r
cais hwn yn golygu ymestyn
ffiniau’r safle. Nodwyd bod y safle wedi ei leoli
mewn dyffryn cul naturiol, gyda
choed a gwrychoedd aeddfed ar hyd
y terfynau.
Nodwyd yr ystyrir
bod cynnydd o 10% yn yr unedau statig
yn dderbyniol. Yn ogystal ystyrir
amnewid 35 uned deithiol gyda 15 uned statig ychwanegol
yn welliant i’r safle penodol
yma; gan y byddai’n golygu llai o lif traffig
cyffredinol ar hyd y ffyrdd cefn
cul a oedd
yn arwain i’r safle. Tynnwyd
sylw na
fyddai’r bwriad yn achosi effaith
weledol ychwanegol, a byddai safon y ddarpariaeth a gynigir yn welliant mawr.
Nodwyd y byddai’r bwriad yn gwella gosodiad
y safle gan ei wneud yn
fwy trefnus ac atyniadol o gymharu â’i ffurf bresennol
oedd yn fwy
cyfyng a dwys, yn ogystal ystyrir
y byddai’r gwaith tirlunio a phlannu a fwriedir yn
welliant sylweddol i’r sefyllfa bresennol.
Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a
chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.
(b) Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (oedd
yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd y byddai’r bwriad yn golygu gwella
mwynderau a lleihau dwysedd y safle.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i ganiatáu’r cais.
Mewn
ymateb i gwestiwn gan aelod,
cadarnhaodd y Rheolwr Cynllunio bod yr amod “Rhaid cyflwyno
manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth,
a gweithredu’r cynllun o fewn amserlen benodol”
yn unol â’r
amod a argymhellwyd
gan Cyfoeth Naturiol Cymru.
PENDERFYNWYD caniatáu’r cais.
Amodau:
1.
5
mlynedd i gychwyn y datblygiad;
2.
Unol
a’r cynlluniau a ganiatawyd;
3.
Defnydd
gwyliau yn unig
4.
Cyfyngu
nifer y carafanau sefydlog ar y safle i 92 yn unig, dim carafanau teithiol;
5.
Rhaid
cyflwyno manylion goleuo’r safle er cymeradwyaeth, a gweithredu’r cynllun o
fewn amserlen benodol;
6.
Cynllun
tirweddu a phlannu i’w weithredu o fewn y tymor plannu cyntaf yn dilyn
cwblhau’r datblygiad neu cyn y meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y
caniatâd hwn (p’run bynnag ddaw gyntaf);
7.
Cyflwyno
manylion ar gyfer y man chwarae o fewn mis o gychwyn gwaith, a’i gwblhau cyn y
meddiannir y carafanau sefydlog sydd yn destun y caniatâd hwn;
8.
Y datblygiad i gael ei
ymgymryd ag ef yn gaeth unol a’r mesurau ac argymhellion yr adroddiad ecolegol
a gyflwynwyd;
9.
Lliwiau'r carafanau sefydlog
i’w cytuno yn ysgrifenedig cyn eu gosod ar safle.
Dogfennau ategol: