Newid defnydd ac ymestyn capel i greu uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig).
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Aled Wyn Jones
Cofnod:
Newid defnydd ac ymestyn capel i greu
uned wyliau yn cynnwys newid defnydd tir amaethyddol o amgylch y capel i greu
ardal mwynderol a gosod tanc trin (cais diwygiedig).
(a) Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod safle’r cais wedi ei leoli o fewn yr AHNE
a hefyd o fewn Tirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Llyn ac Ynys
Enlli.
Tynnwyd sylw at y gwrthwynebiadau a dderbyniwyd yn ystod y
cyfnod ymgynghori cyhoeddus yng nghyswllt diogelwch ffyrdd ac oriau gwaith
adeiladu.
Nodwyd bod polisi TWR 2 yn datgan y caniateir cynigion ar gyfer
trosi adeiladau presennol yn unedau
gwyliau hunan wasanaeth os ydynt
o ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad. Ystyrir fod graddfa’r bwriad
yn addas ar gyfer y safle
a’r lleoliad gydag ond un uned
wyliau yn cael ei chreu.
Nodwyd hefyd bod y lleoliad yn gyfleus
gyda mynediad yn union oddi ar
y ffordd sirol ddosbarth 2.
Nodwyd bod dyluniad yr estyniad
yn eithaf cyfoes, fodd bynnag,
ystyrir y byddai’r estyniad yn dderbyniol
ar gyfer y safle ac ystyrir bod y deunyddiau yn rhai
derbyniol.
Yn dilyn derbyn gwrthwynebiad
gan yr Uned
Drafnidiaeth oherwydd nad oedd lle
i gerbyd aros oddi ar
y ffordd tra agorwyd giât i’r
safle a gosodiad y fynedfa, derbyniwyd cynllun diwygiedig gyda’r giât wedi
ei osod fwy
mewn i’r trac mynediad fel
bod modd i gerbyd aros i’r
giât agor oddi ar y ffordd
sirol. Nodwyd yn sgil derbyn
y manylion yma derbyniwyd sylwadau pellach gan yr
Uned Drafnidiaeth yn datgan fod
y bwriad i ail-leoli’r giât ymhellach
i mewn i’r
safle yn dderbyniol ac yn goresgyn rhan helaeth
pryderon priffyrdd. Ni ystyrir y byddai’r bwriad yn amharu
ar ddiogelwch ffyrdd.
Nodwyd bod y bwriad yn dderbyniol
ar sail egwyddor, lleoliad, defnydd, dwysedd, dyluniad, deunyddiau, mwynderau gweledol, mwynderau preswyl a diogelwch ffyrdd ac yn cydymffurfio
gyda pholisïau a chyngor cynllunio lleol a chenedlaethol perthnasol.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Ei fod yn awyddus i gadw edrychiad
yr adeilad fel capel a disodli’r festri a oedd ddim yn strwythurol gadarn efo
estyniad modern gyda chyferbyniad rhwng yr hen a’r newydd;
·
Ni chysylltir i’r garthffos
gyhoeddus;
·
Ei fod wedi prynu tir
ychwanegol er mwyn galluogi symud y fynedfa i wella gwelededd;
·
Bod darpariaeth parcio ar y
safle.
(c) Cynigwyd ac eiliwyd i
ganiatáu’r cais.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau
canlynol gan aelodau:
·
Bod y cais yn gyfle perffaith
i ddiogelu’r adeilad;
·
Pryder o ran diogelwch ffyrdd gyda cheir
yn parcio ar y ffordd ar
ochr y teras gyferbyn â’r safle.
Problemau goryrru ar y ffordd yma
ac yn anodd pasio’r ceir ar
y ffordd;
·
Nifer o geisiadau lle'r oedd unedau
gwyliau a oedd wedi derbyn caniatâd
cynllunio yn troi wedyn i
fod yn dŷ.
A fyddai’n bosib gosod amod i
gyfyngu cyfnod y gellir meddiannu’r tŷ fel uned
gwyliau fel y gwneir efo meysydd
carafanau?
·
A fyddai’n bosib gosod amod
o ran oriau gwaith adeiladu yn unol
â dymuniad gwrthwynebwyr?
(ch) Mewn
ymateb i’r sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Bod problemau
goryrru yn fater gorfodaeth i’r heddlu;
·
Ni fyddai’r bwriad
yn ychwanegu’n sylweddol at symudiadau traffig a bod yr ymgeisydd wedi gwella’r
fynedfa gan symud y giât er mwyn galluogi ceir i droi yn y pwynt gorau ar y
ffordd. Nid oedd rheswm i wrthwynebu’r bwriad o safbwynt diogelwch ffyrdd;
·
Yr argymhellir
gosod amod i gyfyngu’r uned i ddefnydd gwyliau yn unig. Eglurwyd yn dilyn
penderfyniad apêl Ocean Heights
Caravan Park roedd y tymor gwyliau yr unfath ac unedau gwyliau gyda
thystiolaeth yn dangos bod ymwelwyr yn cyfrannu i’r economi trwy’r flwyddyn;
·
Nid oedd yn
rhesymol i osod amod o ran oriau gwaith adeiladu yn unol â dymuniad gwrthwynebwyr
oherwydd graddfa’r datblygiad. Mi fyddai unrhyw faterion niwsans a godir o’r
datblygiad yn ystod y cyfnod adeiladu yn cael eu hystyried gan Wasanaeth
Gwarchod y Cyhoedd.
PENDERFYNWYD caniatáu’r
cais.
Amodau:
1. 5 mlynedd.
2. Yn unol
â’r cynlluniau.
3. Llechi
ar y to.
4. Cytuno
deunyddiau waliau allanol yr estyniad.
5. Waliau allanol
y capel i fod o liw gwyn.
6. Cyfyngu’r
uned i ddefnydd gwyliau yn unig.
7. Tynnu
hawliau a ganiateir ar gyfer ymestyn yr uned ac adeiladau cwrtil.
8. Gwaith
i’w wneud yn unol â’r argymhellion yn yr arolwg rhywogaethau gwarchodedig.
9. Gwneud
arolwg ffotograffig o’r adeilad.
10. Mynedfa i’w hadeiladu yn unol gyda chynllun diwygiedig.
Dogfennau ategol: