Adeiladu 5 o dai unllawr gyda un i fod yn dŷ fforddiadwy.
AELOD LLEOL: Cynghorydd Gruffydd Williams
Cofnod:
Adeiladu
5 o dai unllawr gydag un i fod yn dŷ fforddiadwy.
(a)
Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais,
gan nodi bod tir cyffiniol i’r gorllewin, oedd hefyd ym
mherchnogaeth yr ymgeisydd, eisoes wedi derbyn caniatâd cynllunio i adeiladu 10
o dai annedd deulawr. Eglurwyd fel rhan o’r caniatâd
roedd bwriad i gadw safle’r cais presennol fel 16 o randiroedd a bod amod ar
ganiatâd cynllunio C12/1372/42/LL i sicrhau fod y tir yma yn cael ei ddefnyddio
fel rhandiroedd.
Nodwyd bod y safle wedi ei leoli tu mewn i ffin
ddatblygu Nefyn a’i fod wedi ei glustnodi fel llecyn agored / cae chwarae i’w
warchod yn y CDLl gyda’r safle yn y gorffennol wedi
ei ddefnyddio fel rhandiroedd.
Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a
dderbyniwyd.
Nodwyd yr ystyriwyd y bwriad o ran Polisi ISA 4 o’r CDLl
a oedd yn ymwneud â diogelu llecynnau agored presennol. Adroddwyd fel rhan o’r
cais cyflwynwyd dogfen Crynodeb o Dystiolaeth ar Lecyn Agored. Roedd yr asiant
hefyd fel rhan o’r cais wedi crynhoi’r wybodaeth a gasglwyd fel rhan o’r
Datganiad Cynllunio, Dyluniad a Mynediad. Cafodd y wybodaeth yma eu paratoi gan
yr asiant ac roedd yn crynhoi’r broses ac ymdrechion yr ymgeisydd i ganfod
tystiolaeth o’r galw am randiroedd yn Nefyn.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi gwneud arolwg o’r
rhandiroedd yn Y Ddôl er mwyn asesu faint o’r 21 oedd mewn defnydd yn Medi 2016.
O’r wybodaeth a gyflwynwyd dim ond 10 allan o’r 21 rhandir gyda chaniatâd
cynllunio oedd yn cael eu defnyddio.
Gan fod yr ymgeisydd wedi cael ar ddeall drwy lythyr gan Gyngor Tref Nefyn
fod problemau draenio ar safle rhandiroedd Y Ddôl bu iddo geisio mynediad i
safle’r Ddol i asesu’r anghenion draenio ac i weld os oedd modd eu datrys.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan ei fod yn parhau i fod yn barod i asesu
draeniad y tir i weld os gall gynorthwyo i wella’r rhandiroedd ar safle’r Ddôl
petai’r cyfle yn codi.
Gellir gweld fod y sefyllfa o ran rhandiroedd yn
Nefyn wedi newid ers i’r cais am y 10 tŷ gael ei ganiatáu gyda chaniatâd
cynllunio wedi ei roi ar gyfer 21 o randiroedd ar safle’r Ddol. Ymddengys o’r wybodaeth a gyflwynwyd nad oedd
y rhandiroedd yma wedi eu llenwi ac er bod o bosibl resymau dros hyn roedd
potensial yma ar gyfer 21 o randiroedd. Deallir fod y tir yma ar les i Gyngor
Tref Nefyn gan Gyngor Gwynedd am 15 mlynedd o Hydref 2014.
Nodwyd bod cynnwys Nodyn Cyngor Technegol 16 yn
nodi na ellir cael yr un math o warchodaeth i randiroedd mewn perchnogaeth
breifat ac a fyddai ar gyfer rhai oedd yn cael eu rhedeg gan awdurdodau lleol.
Ystyrir fod ymdrech deg wedi ei wneud gan yr ymgeisydd i geisio gwybodaeth am
yr anghenion o safbwynt darpariaeth rhandiroedd yn Nefyn a hefyd i geisio
cyfrannu tuag at wella’r cyfleusterau ar safle’r Ddol.
Nodwyd bod yr ymgeisydd wedi datgan y byddai’n fodlon arwyddo cytundeb 106
yn clymu un o’r tai fel uned fforddiadwy. Byddai hyn yn gyfwerth ac 20% o’r tai
ac yn fwy na’r gofyn ar gyfer Nefyn fel y nodir ym Mholisi TAI 15 o’r CDLl. Ystyrir yn sgil arwyddo cytundeb 106 tai fforddiadwy
yn clymu un o’r unedau ar gyfer angen fforddiadwy y byddai’r bwriad yn bodloni
gofynion Polisi TAI 15.
Adroddwyd y derbyniwyd gwybodaeth yn hwyr yn y dydd gan Gyngor Tref Nefyn
yn nodi rhestr o’r rhai gyda rhandir yn Y Ddôl a hefyd rhestr aros pobl a oedd
yn aros am randiroedd. Nodwyd nad oedd swyddogion na’r ymgeisydd wedi cael
cyfle i asesu’r wybodaeth felly argymhellir gohirio’r cais er mwyn ystyried y
wybodaeth newydd. Awgrymwyd pe byddai’r cais yn cael ei gohirio y dylid
ystyried cynnal ymweliad safle.
(b) Yn manteisio ar
yr hawl i
siarad nododd asiant yr ymgeisydd
y prif bwyntiau canlynol:-
·
Byddai’r bwriad yn cyfarch yr
angen am dai gyda’u prisiau yn gyraeddadwy i bobl leol;
·
Byddai’r datblygiad bwriedig yn creu swyddi;
·
Bod y safle cyfagos i safle
tai arall gyda mynediad ar droed i wasanaethau;
·
Nad oedd y tir wedi ei
ddefnyddio fel rhandiroedd ers 2009;
·
Bod 21 rhandir ar safle’r Ddôl
a gwnaed ymchwil o ran y galw am randir;
·
Bod yr ymgeisydd wedi cysylltu
â’r Cyngor Tref ar sawl achlysur ond nid oedd eu cynnig i asesu sefyllfa
draenio ar safle’r Ddôl wedi ei dderbyn;
·
Gosodwyd hysbyseb yn gofyn am
ddatganiad o ddiddordeb am randir yn y wasg. Derbyniwyd 10 e-bost/llythyr yn
datgan diddordeb. Credu nad oedd angen am randiroedd ar y raddfa bresennol;
·
Bod yr ymgeisydd yn awyddus
i’r cais gael ei benderfynu yn y cyfarfod hwn.
(c) Cynigiwyd i ohirio’r
cais er mwyn
ystyried y wybodaeth newydd a chynnal ymweliad safle. Eiliwyd y cynnig.
Nododd aelod y dylid ystyried gwybodaeth yr aelod
lleol o ran llifogydd yn ogystal.
PENDERFYNWYD gohirio’r cais er mwyn ystyried y wybodaeth newydd a chynnal ymweliad safle.
Dogfennau ategol: