skip to main content

Agenda item

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Rheolwr Gyfarwyddwr GwE, diolchodd i staff addysgol y rhanbarth am eu gwaith caled i gyflawni’r canlyniadau, a nodwyd y canlynol:

 

§  Nid yw’r canlyniadau yn ganlyniadau terfynol ar hyn o bryd ac mae posibilrwydd y caiff eu newid.

§  Mae perfformiad Cyfnod Sylfaen wedi cynyddu ar draws y rhanbarth, y cynnydd mwyaf ar lefel genedlaethol. Er hyn, mae perfformiad GwE yn is na’r disgwyl o fewn y pedwar consortiwm (trydydd). Nodwyd bod angen sylw pellach mewn rhai awdurdodau o fewn y rhanbarth gan gynnwys Conwy ac i ddarganfod os oes problemau gyda’r asesiad neu’r addysgu.

§  Mae perfformiad Cyfnod Allweddol 2 yn dda iawn ac mae GwE wedi codi i’r safle cyntaf ymhlith y pedwar consortiwm.

§  Mae’r cynnydd yng Nghyfnod Allweddol 3 wedi bod yn gadarn yn 2017 ond mae sylw pellach wedi ei adnabod ar gyfer Wrecsam.

§  Roedd AT yn awyddus i ganolbwyntio ar canlyniadau Cyfnod Allweddol 4 yn y cyfarfod. Pwysleisiodd bod y manylebau TGAU ar gyfer Saesneg, Cymraeg, Mathemateg a Gwyddoniaeth wedi newid, ac felly mae’r gwaelodlin ar gyfer 2017 yn hollol newydd. Cafodd Mathemateg ei adnabod fel adran yw wella. Yn ogystal, nodwyd bod problemau ynglŷn a denu penaethiaid Mathemateg i ysgolion y rhanbarth. Yn ddiweddar, mae 31 pennaeth Mathemateg newydd wedi eu penodi ar draws y rhanbarth sy’n peri risg i’r adran berfformio yn dda os nad ydynt yn derbyn y cefnogaeth sydd angen.

§  Nodwyd bod Cyfnod Allweddol 5 yn destun blaenoriaeth cenedlaethol. Mae’n gymhleth dadansoddi’r data am fod y model cyflwyno yn amrywio oddi fewn awdurdodau ar draws y rhanbarth.

 

Nodwyd bod Cyfnod Sylfaen yn destun pryder yng Ngwynedd ac angen mwy o sylw. Gofynnwyd os yw’r broblem o ddenu penaethiaid Mathemateg yn un genedlaethol.

 

Pwysleisiwyd bod denu penaethiaid Mathemateg i ysgolion yn anodd iawn, ond ei fod yn haws i’r ysgolion mawr am eu bod gyda’r arian i’w cadw yn y swydd. Awgrymwyd mai un ateb fydd i benodi penaethiaid uwchben y consortiwm a fyddai’n galluogi’r posibilrwydd i symud penaethiaid o gwmpas ysgolion yn ôl yr angen – bydd hyn angen trafodaeth pellach.

 

Nodwyd bod Llywodraeth Cymru wedi lansio ymgynghoriad ar Bapur Gwyn yn ymwneud a Addysg 16+ a gofynnwyd i’r Cyd-Bwyllgor os oedd rhywun yn bresennol yn y cyfarfod yn ymwneud a’r papur a gynhaliwyd yn Llanelwy yn ddiweddar.

 

Nodwyd bod yr awdurdodau heb dderbyn Papur Gwyn gan y Llywodraeth ac eu bod heb ymgynghori gyda’r awdurdodau yn y rhanbarth. Cwestiynwyd pam bod y Llywodraeth heb gynnwys barn asiantaethau allweddol yn y maes yn yr ymgynghoriad a bod yn mater yn annerbyniol.

 

Cadarnhawyd bod GwE wedi cael eu tynnu mewn i drafodaeth cychwynnol gyda’r Llywodraeth ynglŷn a’r ymgynghoriad.

 

Gofynnwyd sut yr rydem am fesur ein cynnydd amser yma blwyddyn nesaf er mwyn codi safonau ac i ddadansoddi’r manylion.

 

Esboniwyd bod GwE am adrodd ar ddata byw, hynny yw, edrych ar ffactorau fel penaethiaid Gwyddoniaeth, Gwaith Cwrs, a’r nifer o ddysgwyr sydd wedi eistedd eu arholiadau yn barod, a dadansoddi y wybodaeth yma. Bydd GwE hefyd yn gweithio’n agos gyda adrannau ac ysgolion gwahanol i sicrhau eu bod ar y trywydd iawn i gyrraedd eu targedau. Bydd adrodd ar ddata byw yn galluogi GwE i symud adnoddau yn gynt ac yn ôl yr angen i atal materion rhag codi.

 

Nodwyd y byddai mwy o graffu manwl yn codi’r cwestiwn o sut yr rydem yn ymdrin ag atebolrwydd ac yn galluogi dull mwy cyson o rheoli ein atebolrwydd.   

 

Codwyd y pwynt bod angen gwell eglurhad ynglŷn a hawl ysgolion am gymorth, ac ein bod angen gweithio mewn partneriaeth i wneud hyn yn glir. Mae tuedd i ysgolion sydd yn derbyn cymorth i fod yn rhy ddibynnol ar y cymorth hynny ar ôl amser, ac yn dod yn ateb tymor byr, nid ateb tymor hir.

 

PENDERFYNWYD: Yr adroddiad i ddod yn ôl i’r Cydbwyllgor unwaith y mae’r canlyniadau yn derfynol.

 

Dogfennau ategol: